Bydd Varsity yn cael ei gynnal yn Abertawe eleni, gyda brwydr fawreddog Rygbi Dynion yn cael ei chwarae yn Stadiwm Liberty.
Bydd timau chwaraeon Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd yn mynd benben â’i gilydd yn nigwyddiad mwyaf y flwyddyn.
Trwy gydol yr wythonos, bydd myfyrwyr yn cystadlu mewn dros 40 o gampau gwahanol er mwyn ennill Tarian Varsity, gan gynnwys Frisbee Eithafol, nofio, golff, cleddyfaeth, sboncen, pêl-fasged a hoci.
Bydd y rhan fwyaf o’r gemau yn cael eu chwarae yn y Pentref Chwaraeon ar Lôn Sgeti ar 25ain Ebrill, cyn ffeinal mawr y rygbi yn Stadiwm Liberty am 7pm.
Byddwn ni’n brwydro i gipio Tarian Varsity unwaith eto eleni, ar ôl ei hennill am y tro cyntaf yn hanes Varsity y llynedd.
Meddai Gwyn Aled Rennolf, Swyddog Chwaraeon Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe: “Rydym yn falch iawn o fod yn croesawu Varsity nôl i Abertawe eleni. Mae ein cefnogwyr bob tro’n calonogi’n chwaraewyr, ond mae rhywbeth arbennig iawn am chwarae o flaen cefnogwyr cartref. Mae’n chwaraewyr wedi bod yn hyfforddi’n galed dros y misoedd diwethaf, felly rydym yn hyderus y byddwn yn cadw’r Darian yn Abertawe”.
Ymuno â’n digwyddiad ar Facebook.
Student Communications Officer Mercher Ionawr 31st, 2018
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University