Mae’r broses o roi adborth ar fodiwlau’n cychwyn ar 2 Rhagfyr – Hoffem glywed eich barn.
Cewch ein helpu i wella’r profiad i fyfyrwyr trwy gwblhau’r holiadur arlein i roi adborth ar fodiwlau. Byddwch yn derbyn copi oddi wrthym trwy e-bost. Cewch neges unigol ar gyfer pob modiwl yr ydych wedi cofrestru arno yn ystod y semester hwn – neges a dolen wahanol ar gyfer pob modiwl, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud sylwadau ar y modiwl cywir! Os byddwch yn dileu’r negeseuon, bydd modd i chi gael gafael ar y dolenni o hyd trwy’ch safwe Blackboard.
Ewch i’r tab “Fy Astudiaethau”, a chliciwch ar “F’arolygon”. Am ragor o wybodaeth, ewch i’n gwefan http://www.swansea.ac.uk/registry/current-students/module-feedback lle cewch gopi o arolwg blanc, Cwestiynau Cyffredin, gwybodaeth ar sut y caiff eich sylwadau eu defnyddio, ac adnoddau eraill. Y Tîm ar Fodiwlau: modulefeedback@abertawe.ac.uk
E-bost Cyswllt – l.j.rees@abertawe.ac.uk
Web Team Mawrth Rhagfyr 3rd, 2013
Posted In: Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University