Diffoddwch eich goleuadau i gyd
Mae e wedi cyrraedd yr amser yna o’r flwyddyn unwaith eto, rydym i gyd yn mynd adref i fwynhau’r wŷl Nadolig!!! Ond cyn i chi gyd ddechrau ar eich taith hoffwn eich atgoffa chi i:
∗ Diffoddwch eich goleuadau i gyd ( os ydych chi ddim ar gampws, efallai ei fod yn syniad da i adael un golau arno er mwyn twyllo lladron i feddwl fod rhywun dal yn y tŷ).
∗ Diffoddwch y gwresogi ( neu cadwch eich thermostat ar dymheredd isel os ydych yn poeni am bibau yn byrstio).
∗ Caewch bob ffenestr ( a chlowch nhw os yn bosibl).
∗ Cuddiwch eich holl eitemau gwerthfawr ( efallai ei fod yn syniad da i gau’r llenni).
∗ Diffoddwch bob eitem drydanol, gan gynnwys ‘chargers’, argraffwyr, ac unrhyw beth sydd ddim angen gadael arno.
∗ Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwared â eich sbwriel, fel eich bod ddim yn dychwelyd i rywle ddrewllyd ar ôl gwyliau’r Nadolig ( efallai fe fydd yn syniad da i olchi’r mynydd o lestri yna hefyd) Dim ond ffaith gyflym: “Yn 2012 gwnaeth y campws defnyddio digon o drydan i roi pŵer i 4,778 o gartrefi yn ystod cyfnod y Nadolig”.
Contact Email – environment@swansea-union.co.uk
Web Team Mawrth Rhagfyr 10th, 2013
Posted In: Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University