Mae Undeb y Prifysgolion a Cholegau cenedlaethol (UCU) wedi cyhoeddi rownd bellach o weithredu diwydiannol a gynhelir am 5 niwrnod o 28 Mawrth.
Rydym ni’n deall y bydd llawer o fyfyrwyr yn poeni am yr effaith y gallai’r gweithredu hyn ei chael ar eich astudiaethau. Ein blaenoriaeth ni yw sicrhau bod gennym ni’r gefnogaeth iawn ar waith i’n myfyrwyr ac rydym ni’n gweithio ar draws y Cyfadrannau ac adrannau cynorthwyol i leihau’r effaith ar eich dysgu a’ch ymchwil.
Felly ni fydd myfyrwyr yn cael eu hasesu ar ddeunydd nad yw wedi’i gyflwyno yn y modiwl, ond gwiriwch gyda’ch Ysgol am fanylion. (more…)
Student Partnership and Engagement Manager Gwener Mawrth 25th, 2022
Posted In: Newyddion Campws, Negeseuon
Mae Undeb y Myfyrwyr a Phrifysgol Abertawe yn ymgynghori â chi ynghylch Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol. Bydden ni’n croesawu cyfranogiad pob myfyriwr, ond yn enwedig ein myfyrwyr o grwpiau ethnig lleiafrifol neu hil-ddiffiniedig.
Bydd yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth a ddatblygir yn sgîl yr ymgynghoriad yn cael eu defnyddio i roi cynllun gweithredu cadarn ar waith er mwyn cyflawni cydraddoldeb hiliol ar gyfer y staff a’r myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe dros y blynyddoedd nesaf. Mae Prifysgol Abertawe ac Undeb y Myfyrwyr yn cydnabod yr anghydraddoldebau hiliol dwfn sydd yn ein cymdeithas heddiw. Rydyn ni’n benderfynol o sicrhau bod camau gweithredu’r Brifysgol ynghylch cydraddoldeb hiliol yn ymateb yn uniongyrchol i anghenion ein myfyrwyr. (more…)
Student Partnership and Engagement Manager Mawrth Mawrth 22nd, 2022
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Negeseuon, Arolygon ac Astudiaetha
Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i lacio cyfyngiadau Covid-19 ac, i gyd-fynd â hynny, rydym yn parhau i adolygu ein harweiniad a’n hasesiadau risg ar gyfer y campysau.
Byddwn yn parhau i argymell yn gryf y dylid gwisgo gorchuddion wyneb ar y campws, yn enwedig lle nad yw’n bosib cadw pellter cymdeithasol. (more…)
Student Partnership and Engagement Manager Iau Mawrth 10th, 2022
Fe fydd dathliadau Nawddsant Cymru – Dewi Sant – yn cael eu cynnal eleni ar gampws ac ar lein ar gyfer staff a myfyrwyr. Mae Dydd Gŵyl Dewi yn cael ei ddathlu ar y 1af o Fawrth bob blwyddyn ac eleni rydym ni’n ymestyn y dathliadau nes ddydd Gwener y 4ydd o Fawrth – Diwrnod ♥ Cymru Day – dathliad o gerddoriaeth, bwyd a diwylliant Cymru.
Beth Sydd Ymlaen?
Ar Fawrth y 1af fe fydd Tŷ Fulton a’r Neuadd Fawr yn cael eu goleuo’n goch, gwyn a gwyrdd – lliwiau baner Cymru – i nodi Dydd Gŵyl Dewi. (more…)
Student Partnership and Engagement Manager Gwener Chwefror 25th, 2022
Posted In: Newyddion Campws, Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Negeseuon
Mae’r Brifysgol yn ymwybodol iawn y gall bod oddi cartref fod yn arbennig o anodd os yw pethau’n anniddig yn eich gwlad gartref ar gyfer ein cymuned myfyrwyr rhyngwladol,. P’un a yw’r anawsterau hynny’n cael eu gyrru gan wleidyddiaeth, economeg, yr amgylchedd neu unrhyw reswm arall- gallant i gyd gael effaith ar eich lles a’ch gallu i ymgysylltu â’ch astudiaethau.
Mae hyn yn ein hatgoffa bod llawer o ffyrdd o gefnogi ar gael i chi yn y Brifysgol. Gallai hyn fod drwy’r Gwasanaethau Myfyrwyr, drwy dimau lles eich Coleg neu drwy Ganolfan Cyngor a Chymorth Undeb y Myfyrwyr. Lle da i chwilio am gymorth gyda materion penodol neu gyffredinol yw Welfare@CampusLife neu adnodd gwe Unilife, gan fod llawer o dudalennau gwych am faterion lles amrywiol i’ch cefnogi.
Mae International@CampusLife â chyd-gydweithwyr yn y BywydCampws mewn Lles, Arian, Ffydd a Chymuned, hefyd wrth law i helpu os gallant. Teimlwch yn hyderus i gysylltu â’r staff i weld eich bod yn cael cymorth llawn a phriodol.
Student Partnership and Engagement Manager Iau Chwefror 24th, 2022
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University