Bydd Parc Singleton yn cael goleuadau newydd er mwyn helpu i gadw myfyrwyr a staff yn ddiogel.
Dyma adeg y flwyddyn pan fydd y Swyddfa Dderbyn yn prosesu canlyniadau arholiadau holl ymgeiswyr Prifysgol Abertawe ac yn derbyn miloedd o alwadau ffôn hefyd gan ymgeiswyr sy’n chwilio am le drwy’r broses Clirio.
Eleni, rydym ni’n chwilio am help gan fyfyrwyr o bob rhan o’r Brifysgol sydd â diddordeb mewn staffio’r Llinell Gymorth.
Student Partnership and Engagement Manager Mawrth Mehefin 28th, 2022
Posted In: Negeseuon, [:en]Offers[:cy]Cyfleoedd[:]
Bydd Parc Singleton yn cael goleuadau newydd er mwyn helpu i gadw myfyrwyr a staff yn ddiogel.
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, Prifysgol Abertawe a Chyngor Abertawe wedi cyrraedd cytundeb i osod rhagor o oleuadau ar hyd y llwybr sy’n arwain o brif gatiau’r parc.
Daw hyn ar ôl i fyfyrwyr fynegi pryderon am ddiogelwch a’r gallu i weld yr hyn sydd o’u cwmpas wrth gerdded drwy’r parc.
Mae Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol wedi cytuno i ariannu’r broses o osod y goleuadau newydd. Fel rhan o’r gwaith, mae arolwg ecolegol wedi cael ei gynnal ac mae’r prosiect wedi cael ei gymeradwyo. Mae’r gwaith eisoes wedi dechrau a dylid ei gwblhau yn ystod yr haf.
Student Partnership and Engagement Manager Llun Mehefin 27th, 2022
Bydd newidiadau i amserau agor MyUniHub ddydd Mercher 29 Mehefin o ganlyniad i hyfforddiant staff.
Campws Singleton
Bydd y tîm ar gael wyneb yn wyneb o 10:00 tan 11:50 ac yna’n nes ymlaen o 14:00 tan 16:00.
Campws y Bae
Ni fydd aelodau’r tîm ar gael wyneb yn wyneb, ond bydd modd cysylltu â hwy o bell.
Gwasanaeth o Bell
Bydd y tîm ar gael i ateb galwadau, cynnal sgyrsiau byw ac ymateb i e-byst o 08:30 tan 11:50 ac yna’n nes ymlaen o 14:00 tan 17:00.
Bydd oriau a gwasanaethau arferol yn ailddechrau ddydd Iau 30 Mehefin. Mae ein hamserau gweithredu arferol a’n manylion cyswllt ar gael yma.
Student Partnership and Engagement Manager Mawrth Mehefin 21st, 2022
Posted In: Negeseuon
Mae Study UK yn chwilio am fyfyrwyr o’r UD sy’n astudio ar hyn o bryd ym Mhrifysgolion y DU ar unrhyw lefel (israddedig, ôl-raddedig) i gymryd rhan yn ei ymgyrch ‘I’m on my way’. Bydd y fideo yn dilyn arddull debyg i fideos ymgyrch ‘I’m on my way’, gan ddefnyddio ffilmiau a gynhyrchwyd gan y myfyrwyr. Dylai myfyrwyr â diddordeb gwblhau’r ffurflen ganlynol cyn gynted â phosib: https://forms.gle/AjBhwoUrQbduzUct8
Y dyddiad cau i gwblhau’r ffurflen hon yw dydd Mawrth 7 Mehefin. Fel diolch am eu hamser, bydd y cyfranogwyr a ddewisir yn derbyn taleb gwerth £200. Caiff y broses gastio ei chynnal gan Raw Research ar ran Study UK.
Student Partnership and Engagement Manager Mawrth Mai 31st, 2022
Posted In: Negeseuon, [:en]Offers[:cy]Cyfleoedd[:]
Mae Heddlu De Cymru wedi derbyn adroddiadau am ddinoethi anweddus ym Mharc Singleton dros y dyddiau diwethaf. Rydym am sicrhau bod yr holl staff a myfyrwyr yn ymwybodol o’r achosion hyn ac yn annog pobl sy’n cerdded drwy’r parc ar eu pennau eu hunain i fod yn wyliadwrus. Hoffem annog yr holl staff a myfyrwyr i lawrlwytho’r ap SafeZone.
Student Partnership and Engagement Manager Gwener Mai 13th, 2022
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University