Fel rhan o waith ailddatblygu parhaus fesul cam yn adeilad eiconig Tŷ Fulton ar Gampws Singleton, mae cam cychwynnol o waith wedi dechrau.
Yn ystod y cam cychwynnol hwn o waith, bydd llawr cyntaf yr adeilad rhestredig yn cael ei drawsnewid yn ardal gymdeithasol ddeinamig a chynhwysol a fydd yn ganolbwynt Campws Parc Singleton, lle gall myfyrwyr a staff ddod at ei gilydd, bwyta, cymdeithasu, astudio, ymlacio a llawer mwy. Mae disgwyl i’r gofod newydd ar y llawr cyntaf agor yn ystod hydref 2023.
Tra’n parhau’n ystyriol o hanes a threftadaeth yr adeilad, nod y prosiect yw ailfywiogi’r gofod ar y llawr cyntaf, a bydd yn canolbwyntio ar: (more…)
Student Communications Coordinator Gwener Mai 19th, 2023
Posted In: Negeseuon
Sesiwn Holi ac Ateb am Fywyd Myfyriwr Ôl-raddedig – 3 Mehefin 2023
Sut brofiad yw bod yn fyfyriwr ôl-raddedig yn Abertawe? Cewch chi atebion gan ein myfyrwyr gradd Meistr a PhD presennol a fydd yn ateb eich cwestiynau’n fyw.
Bydd hyn yn digwydd rhwng 10.30am – 11.15am.
Archebwch ar-lein: abertawe.ac.uk/ol-raddedig/diwrnodagored/
Student Communications Coordinator Iau Mai 18th, 2023
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?
I’w gyhoeddi gan wasg Honno Welsh Women ym mis Mai 2023, mae Vulcana yn adrodd stori go iawn Kate Williams o Oes Victoria.
Ar noson stormus o aeaf 1892, mae Kate Williams, merch Gweinidog y Bedyddwyr, yn gadael ei thref fach enedigol yn Y Fenni, Cymru ac yn teithio i Lundain gyda dim byd ond cês teithio a chynllun gwyllt: mae hi am berfformio fel dynes gref.
Ond nid ei huchelgais yn unig y mae ganddi lygaid arno. Mae William Roberts, sy’n ddeuddeng mlynedd yn hŷn na Kate, ac yn arwain grŵp o ddynion a menywod cryf, wedi dal ei dychymyg a’i chalon. Yn Llundain, mae William yn creu hunaniaeth newydd i Kate, sef ‘Vulcana – Most Beautiful Woman on Earth’, ac yn galw ei hun yn ‘Atlas’. Yn fuan maen nhw’n teithio o gwmpas Prydain a’r tu hwnt, yn perfformio mewn theatrau yn Ffrainc, yn Awstralia ac yn Algiers. (more…)
Student Communications Coordinator Mercher Mai 17th, 2023
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Negeseuon
Wyt ti am helpu i leihau ynysigrwydd cymdeithasol i oedolion hŷn? Yna beth am feddwl am ddod yn gydlynydd prosiect gyda Discovery!
Mae’r oriau’n hyblyg a gellir eu haddasu i gyd-fynd â dy astudiaethau.
Ceir rhagor o wybodaeth am y rôl yma ac os oes diddordeb gennyt ti mewn cyflwyno cais am y rôl, mae’r ffurflen gais ar gael yma.
Student Communications Coordinator Llun Mai 15th, 2023
Posted In: Llesiant, [:en]Swansea Employability Academy[:cy]Academi Cyflogadwyedd Abertawe[:]
Mae angen rhoi diweddariad brys ar SITS heddiw am 2:15ypm.
Sut bydd hyn yn effeithio arnoch chi?
Ni fydd SITS neu unrhyw wasanaethau dibynnol, gan gynnwys e:Vision, holl wasanaethau’r fewnrwyd, yn ogystal ag unrhyw gymwysiadau cronfa ddata pwrpasol sy’n cysylltu’n uniongyrchol â chronfa ddata SITS, ar gael yn ystod y cyfnod hwn.
A wnewch chi drefnu eich gweithgareddau yn ystod y cyfnod hwn i osgoi unrhyw broblemau neu anghyfleustra diangen.
Os oes gennych ymholiadau, e-bostiwch ITServiceDesk@swansea.ac.uk
Mae Gwasanaethau TG yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Student Communications Coordinator Gwener Mai 12th, 2023
Posted In: Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University