Mae Dyfarniad y Canghellor yn cydnabod aelodau o gymuned staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol at fywyd, enw da neu effaith ein Prifysgol.
Mae dau ddyfarniad ar gael, un ar gyfer aelod o staff ein Prifysgol ac un ar gyfer myfyriwr.
Croesewir enwebiadau gan bob rhan o gymuned Prifysgol Abertawe. (more…)
Student Communications and Content Development Officer Mawrth Mehefin 7th, 2022
Gallwch barhau ar eich taith gyda ni a gwneud cais am radd ôl-raddedig heddiw! Gydag amrywiaeth o raglenni llwybr carlam ar gael o fis Medi 2022, mae aros yn Abertawe’n haws nag erioed!
Ymunwch â’n Sesiwn Wybodaeth Rithwir am ein rhaglenni llwybr carlam ddydd Mawrth 14 Mehefin 2022 am 10am (BST) yn arbennig ar gyfer myfyrwyr presennol Prifysgol Abertawe. Bydd hyn yn gyfle i chi ddysgu rhagor am:
Student Communications and Content Development Officer Llun Mehefin 6th, 2022
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Negeseuon, Amrywiol
Rydym am i fyfyrwyr helpu i greu ein Strategaeth Ddigidol nesaf ar gyfer y Brifysgol a bod wrth wraidd ein cynlluniau ar gyfer dyfodol digidol gwell!
Dewch draw i’n Paneli Barn Myfyrwyr i rannu eich syniadau, eich meddyliau a’ch gweledigaeth:
14 Mehefin, 10.30am-12.30pm – Sesiwn Zoom Digidol
15 Mehefin, 11am-1pm – Sesiwn wyneb yn wyneb ar Gampws Singleton
15 Mehefin 2pm-4pm – Sesiwn wyneb yn wyneb ar Gampws y Bae
16 Mehefin, 10.30am-12.30pm – Sesiwn Zoom Digidol.
Bydd cyfranogwyr i gyd yn derbyn gwobr ar ddiwedd y sesiwn, gan gynnwys taleb Amazon gwerth £25!
*sylwer bod nifer gyfyngedig o lefydd ar gael ar gyfer y sesiynau hyn a byddant yn cael eudyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Felly, cadwch eich lle nawr.
Student Communications and Content Development Officer Mercher Mehefin 1st, 2022
Posted In: Amrywiol
Mae Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe’n dymuno pob lwc i chi yn eich asesiadau diweddar.
I’r rhai hynny ohonoch sy’n gorffen eich astudiaethau ac sy’n gadael Abertawe, pob lwc!
Peidiwch ag anghofio dychwelyd unrhyw eitemau y benthycoch i’r llyfrgell a thalu unrhyw ddirwyon ar eich cyfrif. Caiff eich cyfrif TG ei gau pan ddaw eich cwrs i ben. Cofiwch roi cyfeiriad e-bost arall i’ch cysylltiadau a chadw unrhyw ddata personol y bydd efallai ei angen arnoch yn y dyfodol. Cymerwch olwg ar y rhestr wirio cau cyfrifon.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid.
Byddwn yn gwneud gwelliannau i adeilad a mannau astudio Llyfrgell Parc Singleton dros yr haf, ac ymddiheurwn o flaen llaw am unrhyw darfu a diolchwn i chi am eich amynedd a dealltwriaeth wrth i ni gwblhau’r gwaith.
Croesawn eich adborth ac awgrymiadau am sut gallwn wella a byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn cysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid i’w rhannu.
Student Communications and Content Development Officer Mawrth Mai 31st, 2022
Posted In: Newyddion Campws, Negeseuon, Amrywiol
Eleni, Ei Mawrhydi Y Frenhines fydd y Frenhines y Frenhines Brydeinig gyntaf un i ddathlu Jiwbilî Platinwm ar ôl 70 mlynedd o wasanaeth.
Gallwch gymryd rhan mewn dathlu teyrnasiad hanesyddol Ei Mawrhydi yn ystod Penwythnos y Jiwbilî Platinwm, sy’n digwydd rhwng 2il a 5ed Mehefin.
Ewch i wefan swyddogol y Jiwbilî am restr lawn o ddigwyddiadau yn eich ardal chi!
Student Communications and Content Development Officer
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Negeseuon, Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University