Cynhelir Sioe Awyr Cymru y penwythnos hwn, a dyma ddigwyddiad na ddylech ei golli os ydych yn aros yn Abertawe!
Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim a gynhelir ar 2 a 3 Gorffennaf, a bydd yn sioe i’w chofio ar ôl seibiant o ddwy flynedd. Bydd yn cynnwys arddangosiadau ar y ddaear, awyrennau ar y ddaear, arddangosiadau a sioe wefreiddiol yn yr awyr .
Lawrlwythwch ap swyddogol Sioe Awyr Cymru ac i ganfod yr hyn i’w ddisgwyl, ewch draw i dudalennau gwe Sioe Awyr Cymru.
Bydd y safle ar agor rhwng 10am a 6.30pm ar y ddau ddiwrnod fel y gallwch fwynhau penwythnos llawn acrobateg awyr anhygoel a gweithgareddau llawn hwyl ar y ddaear, megis cerddoriaeth, arddangosiadau, reidiau a llawer mwy!
Bydd llawer o ffyrdd ar gau er mwyn sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei gynnal yn hwylus ac yn ddiogel. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Mwynhewch a chofiwch ein tagio yn eich lluniau os byddwch yn tynnu rhai! @myuniswansea
Student Communications Coordinator Mawrth Mehefin 28th, 2022
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Amrywiol
Dylech gyflwyno cais os ydych…
Mae Cynrychiolwyr Ysgol hefyd yn cael bwrsariaeth gwerth £300 ar ddiwedd y flwyddyn academaidd os byddant yn cwblhau Gwobr Efydd HEAR.
Peidiwch â cholli’r cyfle gwych hwn a chyflwynwch gais nawr!
Student Communications Coordinator Llun Mehefin 27th, 2022
Posted In: Amrywiol
Ym mis Mai, cynhaliwyd Gŵyl Ymchwil Ôl-raddedig gyntaf Prifysgol Abertawe. Fe’i cynhaliwyd dros bythefnos ac roedd yr ŵyl hybrid yn cynnwys popeth o baneli o arbenigwyr i ddigwyddiadau ymchwil gyda llu o ddigwyddiadau wedi’u harwain gan fyfyrwyr.
Trefnodd myfyrwyr ysgrifennu creadigol ddigwyddiad i rannu eu gwaith drwy ddarllen barddoniaeth, straeon byrion a dramâu, gan arddangos y ddawn gyffrous sy’n cael ei meithrin yng Nghyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. A chynhaliwyd y gyfres ‘Talking Research’ boblogaidd, a sefydlwyd gan Sean Holm a John Hudson, enillwyr y dyfarniad ‘Cyfraniad Rhagorol i’r Gymuned Ymchwil Ôl-raddedig’ ei digwyddiad cyntaf erioed ar Gampws y Bae. (more…)
Student Communications and Content Development Officer Iau Mehefin 23rd, 2022
Posted In: Amrywiol
Bydd Elton John yn perfformio ei sioe olaf erioed yng Nghymru, yn Stadiwm Swansea.com nos Fercher 29 Mehefin.
Mae nifer cyfyngedig o docynnau ar gael i’w prynu o hyd:
Mae Dinas Abertawe’n falch o gynnig y cyfle i un person ffodus ennill dau docyn i’r cyngerdd hwn!
Cliciwch ar y ddolen isod. Cysylltir â’r enillydd ddydd Llun 27 Mehefin.
Pob lwc!
Student Communications Coordinator
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Negeseuon, Amrywiol
Os ydych chi’n profi unrhyw galedi ariannol ar hyn o bryd oherwydd amgylchiadau annisgwyl y tu allan i’ch rheolaeth, yna efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn rhywfaint o gymorth ariannol o’r cronfeydd caledi a gynigir gan Arian@BywydCampws. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn taliad dyfarniad ar ffurf grant nad oes angen ei ad-dalu – nid oes sicrwydd y bydd taliad dyfarniad yn cael ei wneud gan fod pob asesiad yn seiliedig ar dystiolaeth o galedi ariannol. Gall asesiadau gymryd hyd at 15 diwrnod gwaith i’w prosesu, mwy o bosibl os oes angen i ni ofyn am ragor o wybodaeth.
Sicrhewch eich bod yn cyflwyno’ch cais gyda’r holl wybodaeth ofynnol erbyn 01/07/22 os hoffech gael asesiad. Bydd y cronfeydd caledi yn cau ar y dyddiad hwn am y flwyddyn academaidd 21/22. Yna byddant yn ailagor ym mis Awst (dyddiad i’w gadarnhau) ar gyfer y flwyddyn academaidd 22/23.
I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, cliciwch yma. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â hardshipfunds@swansea.ac.uk.
Student Communications and Content Development Officer Llun Mehefin 20th, 2022
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University