Mae Undeb y Myfyrwyr a Phrifysgol Abertawe yn ymgynghori â chi ynghylch Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol.
Yr wythnos diwethaf, buom yn siarad â thros 50 o fyfyrwyr mewn wyth grŵp ffocws, am eu profiadau o gydraddoldeb hiliol ym Mhrifysgol Abertawe.
Hoffem annog mwy o fyfyrwyr i gyfrannu at y sgwrs drwy’r arolwg dienw isod; Saesneg: https://bit.ly/Race_Equality_at_Swansea_University_
Saesneg: https://bit.ly/Race_Equality_at_Swansea_University_English
Cymraeg: https://bit.ly/Cydraddoldeb_Hiliol_ym_Mhrifysgol_Abertawe_Cymraeg
Mae’r arolwg ar agor tan y 8fed o Fai!
Defnyddir y data o’r arolwg i roi cynllun gweithredu cadarn ar waith i sicrhau cydraddoldeb hiliol i staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Theresa Ogbekhiulu- t.o.ogbekhiulu@swansea.ac.uk
Student Communications Coordinator Sul Mai 1st, 2022
Posted In: Negeseuon, Arolygon ac Astudiaetha
Rhwydwaith o fyfyrwyr o’r un meddylfryd sydd am gymryd rhan mewn prosesau sicrhau ansawdd a gwella safonau academaidd ar draws Prifysgol Abertawe yw’r Gymuned Myfyrwyr Adolygu.
Mae aelodau’r gymuned wedi’u hyfforddi a’u mentora’n llawn a chânt eu clustnodi ar gyfer digwyddiadau, adolygiadau neu weithgareddau ansawdd penodol. Mae eu barn yn bwysig ac maent yn darparu llais beirniadol myfyrwyr.
Pa brofiad byddaf yn ei ennill?
Mae’r rhestr yn ddiddiwedd! Byddwch yn ennill profiad amhrisiadwy gan gynnwys:
Student Communications Coordinator Iau Ebrill 28th, 2022
Posted In: Negeseuon, Arolygon ac Astudiaetha
Fe’ch gwahoddir i gymryd rhan mewn prosiect ymchwil pwysig sy’n ymchwilio i ddealltwriaeth addysgwyr o anghenion myfyrwyr byddar sy’n astudio rhaglenni gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ym Mhrifysgol Abertawe o gymharu â lleoliadau clinigol. Nod y testun ymchwil hwn fydd amlygu a gwella dealltwriaeth addysgwyr o fyfyrwyr sy’n f/Byddar a gwella gwasanaethau addysg i fyfyrwyr sy’n fyddar.
Cymeradwywyd yr astudiaeth hon gan y Pwyllgor Moeseg Ymchwil, Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Prifysgol Abertawe.
Student Communications Coordinator Gwener Ebrill 1st, 2022
Posted In: Arolygon ac Astudiaetha
Rydym yn eich gwahodd i gwblhau astudiaeth ymchwil ynghylch cydnabod atgofion a sefyllfaoedd synhwyraidd yn ardal Abertawe.
Bydd pob cyfranogwr yn cael cyfle i ennill taleb Amazon gwerth £50. (more…)
Student Communications Officer Mercher Mawrth 30th, 2022
Posted In: Arolygon ac Astudiaetha
Dim ond 2 ddiwrnod sydd i fynd i adolygu eich profiad Prifysgol fel rhan o Wobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni 2022.
Lleisiwch eich barn i wella eich profiad fel myfyriwr drwy ddweud wrthym ni am fywyd fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe. O’ch cwrs a’ch darlithwyr i gymorth a chymdeithasau i fyfyrwyr, rydym ni am glywed eich barn chi er mwyn gallu gwneud gwahaniaeth ar y campws. (more…)
Student Communications Officer Mawrth Mawrth 29th, 2022
Posted In: Arolygon ac Astudiaetha
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University