Bydd Parc Singleton yn cael goleuadau newydd er mwyn helpu i gadw myfyrwyr a staff yn ddiogel.
Dyma adeg y flwyddyn pan fydd y Swyddfa Dderbyn yn prosesu canlyniadau arholiadau holl ymgeiswyr Prifysgol Abertawe ac yn derbyn miloedd o alwadau ffôn hefyd gan ymgeiswyr sy’n chwilio am le drwy’r broses Clirio.
Eleni, rydym ni’n chwilio am help gan fyfyrwyr o bob rhan o’r Brifysgol sydd â diddordeb mewn staffio’r Llinell Gymorth.
Student Partnership and Engagement Manager Mawrth Mehefin 28th, 2022
Posted In: Negeseuon, [:en]Offers[:cy]Cyfleoedd[:]
Bydd Parc Singleton yn cael goleuadau newydd er mwyn helpu i gadw myfyrwyr a staff yn ddiogel.
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, Prifysgol Abertawe a Chyngor Abertawe wedi cyrraedd cytundeb i osod rhagor o oleuadau ar hyd y llwybr sy’n arwain o brif gatiau’r parc.
Daw hyn ar ôl i fyfyrwyr fynegi pryderon am ddiogelwch a’r gallu i weld yr hyn sydd o’u cwmpas wrth gerdded drwy’r parc.
Mae Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol wedi cytuno i ariannu’r broses o osod y goleuadau newydd. Fel rhan o’r gwaith, mae arolwg ecolegol wedi cael ei gynnal ac mae’r prosiect wedi cael ei gymeradwyo. Mae’r gwaith eisoes wedi dechrau a dylid ei gwblhau yn ystod yr haf.
Student Partnership and Engagement Manager Llun Mehefin 27th, 2022
Eisiau siarad â rhywun am eich gyrfa?
Mae Ymgynghorwyr Gyrfaoedd Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe yma i’ch helpu gyda’ch cwestiynau a’ch anghenion gyrfa, gan gynnwys cyngor ar eich opsiynau a’r camau nesaf, cael profiad gwaith, cwblhau ceisiadau am waith ac astudio, a gwneud penderfyniadau gyrfaol mawr.
Mae apwyntiadau ar gael yn bersonol ar Gampws y Bae bob dydd Mawrth a dydd Gwener o 11yb tan 1yp yn MyUni Hub.Mae apwyntiadau hefyd ar gael dros Zoom ac yn bersonol ar Gampws Parc Singleton.
Student Communications Coordinator Gwener Mehefin 24th, 2022
Posted In: Negeseuon
Ydych chi wedi archebu eich e-docyn am ddim i’ch seremoni raddio ar gyfer gwesteion a’u derbyn? Os nad ydych, bydd angen i chi archebu trwy’r ddolen a anfonwyd atoch gan y Swyddfa Raddio.
Sylwer bod hon yn broses ar wahân i’r un pan gadwaist dy le drwy dy gyfrif ar y fewnrwyd. Cyflwynir e-docynnau i ti drwy e-bost yn syth ar ôl i ti eu harchebu. Os nad wyt ti wedi derbyn e-bost eto sy’n cynnwys dy e-docynnau, mae’n debygol nad wyt ti wedi clicio ar y ddolen a’u harchebu drwy ein gwefan e-docynnau.
Os bydd y system archebu e-docynnau’n achosi anawsterau i ti, a wnei di e-bostio events@swansea-union.co.uk.
Bydd yr holl e-docynnau i westeion yn cynnwys côd QR unigryw a gaiff ei sganio wrth i ti gyrraedd yr arena.
Ni fydd gwesteion heb e-docyn yn cael dod i mewn i’r arena.
Student Communications Coordinator Iau Mehefin 23rd, 2022
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Negeseuon
Ydych chi’n teimlo eich bod chi’n perthyn fel myfyriwr i’ch cwrs ac yn teimlo’n rhan o gymuned yma ym Mhrifysgol Abertawe?
Mae eich barn yn bwysig iawn, felly byddwch yn onest gyda’r hyn sy’n gweithio’n dda a beth arall y gellir ei wneud i wella eich ymdeimlad o gymuned a pherthyn.
Byswn yn gwerthfawrogi os fyddech cystal â chwblhau’r holiadur dienw hwn YMA.
Mi fydd yr holiadur ar agor rhwng dydd Gwener 17eg Mehefin a dydd Gwener 25ain Awst 2022. Mae dweud eich dweud yn bwysig!
Bydd data cyfun (dienw) yn cael ei gyflwyno gan banel o fyfyrwyr fel rhan o Ddiwrnod Torri Rhwystrau y Ganolfan Gwella Dysgu ac Addysgu ym mis Medi.
Bydd eich adborth yn helpu staff i fyfyrio ar eu harferion addysgu er mwyn darparu profiad myfyriwr rhagorol, gan sicrhau bod pob myfyriwr yn teimlo’n ddiogel, yn cael ei barchu a’i gynnwys.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr holiadur, neu os hoffech fod yn rhan o’r panel myfyrwyr, cysylltwch â Penny Neyland p.j.neyland@swansea.ac.uk neu Ana Da Silva a.l.sergiodasilva@swansea.ac.uk
Student Communications Coordinator
Posted In: Negeseuon, Arolygon ac Astudiaetha
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University