Rydym yn gwerthfawrogi ei bod hi wedi bod yn gyfnod heriol ac mae angen hwb ar ein lles arnom!
Felly fel cynnig arbennig, ar gyfer eleni’n unig, mae aelodaeth flynyddol Beiciau Santander am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe!
Mae’r beiciau’n wych ar gyfer teithio o gampws i gampws, neu fel ychydig o ymarfer corff ysgafn amser cinio, ac maen nhw mor gyfleus a hawdd i’w defnyddio. (more…)
Student Communications Officer Llun Ebrill 4th, 2022
Posted In: Sustainability, Travel, [:en]Offers[:cy]Cyfleoedd[:]
A wyddoch chi fod dros 2 filiwn o dunelli o’r bwyd sy’n mynd i wastraff bob blwyddyn yn dal i fod yn iawn i’w fwyta? Mae hynny’n ddigon am 1.3 biliwn pryd! Mae’r Oergell Gymunedol yn ffordd wych o leihau gwastraff, wrth hefyd helpu pobl gael bwyd ffres yn ogystal â mynd i’r afael â thlodi bwyd. (more…)
Student Communications Officer Mawrth Mawrth 15th, 2022
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Sustainability
Mae’r Awr Ddaear yn fudiad byd-eang wedi’i ariannu gan y WWF, ac eleni, bydd yn cael ei chynnal ar 26 Mawrth am 8.30pm. Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn annog unigolion, cymunedau a busnesau i ddiffodd eu goleuadau am un awr, er mwyn cefnogi natur a’r blaned. (more…)
Student Communications Officer
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Sustainability
Fel cymuned Brifysgol â chyfuniad o fwy na 24,000 o fyfyrwyr a staff, mae ein gweithredoedd ailgylchu ar y campws a gartref yn gallu cael effaith fawr iawn! Mae’r Brifysgol yn darparu cyfleusterau i ddidoli eitemau gwastraff ar y campws er mwyn sicrhau y caiff eitemau eu hailgylchu’n fwy effeithlon.
Gwnaethom ddargyfeirio 64% o’r holl wastraff ar y campws yn ystod blwyddyn academaidd 2019-20 o safleoedd tirlenwi ac adfer ynni, drwy ailddefnyddio eitemau, ailgylchu ac anfon ein gwastraff bwyd i gael ei droi’n fio-nwy a bio-gwrtaith. Rydym yn gweithio’n barhaus gyda’n contractwyr rheoli gwastraff i wella’n prosesau ailddefnyddio ac ailgylchu adnoddau.
Mae lleihau gwastraff, cynyddu ailddefnyddio a didoli gwastraff ar gyfer ailgylchu dolen gaeedig yn cefnogi’r economi gylchol ac yn ein helpu i weld gwastraff fel adnodd. Felly mae lleihau gwastraff a sicrhau effeithlonrwydd adnoddau ymhlith ffocysau gweithredol allweddol Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd 2020-25 y Brifysgol ac maent yn cefnogi gwaith Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig 2030; i: “leihau gwastraff yn sylweddol drwy atal, lleihau, ailgylchu ac ailddefnyddio.” (more…)
Student Communications Coordinator Llun Mawrth 14th, 2022
Posted In: Negeseuon, Sustainability
Mewn partneriaeth â: Cycle Solutions, Heddlu De Cymru, BikeAbility Cymru a Chwaraeon Abertawe
Ymunwch â ni ar un o’r dyddiadau canlynol! Cofiwch ddod â’ch beic os oes un gennych.
Dydd Llun 28 Chwefror 10am tan 4pm – Y tu allan i’r Ysgol Reolaeth, Campws y Bae
Dydd Gwener 4 Mawrth o 11am tan 3pm – O flaen Tŷ Fulton, Campws Singleton
Mae’n cynnwys:
Ymunwch â’r daith feicio!
Beth am ymuno â ni am daith feicio dywys i Ganolfan yr Amgylchedd Abertawe ddydd Gwener 4 Mawrth? Dewch â’ch beic eich hun neu defnyddiwch eich aelodaeth am ddim a llogi beic Santander Abertawe. Bydd y grŵp yn gadael Tŷ Fulton am 12pm. Mae croeso i bawb!
Student Communications and Content Development Officer Iau Chwefror 24th, 2022
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Sustainability, Travel, [:en]Offers[:cy]Cyfleoedd[:]
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University