Wrth i addysgu wyneb yn wyneb gynyddu, hoffem ni eich diweddaru am eich opsiynau wrth deithio i’r campws ac oddi yno.
Dros gyfnod y pandemig, mae mwy o leoedd parcio wedi bod ar y campws oherwydd bod niferoedd llawer yn llai o staff a myfyrwyr wedi bod ar y campws. Yn ystod yr amser hwn, ni fu angen gorfodi ein trefniadau parcio arferol.
Fodd bynnag, wrth i ni ddechrau dychwelyd i normal newydd, rhaid i’n trefniadau cyn Covid ailddechrau a byddem ni’n eich cynghori i gynllunio eich taith gyda hwn mewn cof. (more…)
Student Partnership and Engagement Manager Iau Ionawr 27th, 2022
Posted In:
Newyddion Campws, Negeseuon, Sustainability, Travel
Leave a Comment
Mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi dyfeisio math newydd o ddeunydd pacio plastig ar gyfer cig amrwd sy’n sicrhau na fydd angen padiau na ellir eu hailgylchu y tu mewn i’r hambyrddau er mwyn amsugno’r sudd. Mae hyn yn golygu y gellir bellach ailgylchu’r holl hambwrdd pacio.
Mae’r deunydd pacio newydd eisoes yn cael ei ddefnyddio gan fanwerthwyr prif ffrwd yn y DU, gan helpu i wneud mwy na 800,000 tunnell y flwyddyn o ddeunydd pacio plastig ar gyfer bwyd sy’n deillio o archfarchnadoedd y DU yn fwy ailgylchadwy.
Darllenwch Fwy
Student Communications Coordinator Mawrth Rhagfyr 14th, 2021
Posted In:
Newyddion Campws, Sustainability
Leave a Comment
Wrth i gyfradd ailgylchu Cymru gyrraedd ei lefelau uchaf erioed, rydyn ni’n galw ar ein myfyrwyr i ddal ati gyda’u hymdrechion ‘gwych’ i ailgylchu’r Nadolig hwn.
Gyda 94% ohonom yn ailgylchu’n rheolaidd, mae Cymru’n genedl o Ailgylchwyr Gwych. Ni yw’r drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu, ac rydyn ni’n cefnogi Ymgyrch Gwych Cymru yn Ailgylchu i gyrraedd rhif un.
Mae’r data diweddaraf yn datgelu ein bod un cam yn nes at gyrraedd y brig, gan fod cyfradd ailgylchu Cymru wedi codi i 65.4%. Mae hyn yn golygu ein bod yn ailgylchu ychydig mwy na 65% o’n gwastraff yn gyfan gwbl, sy’n rhagori ar darged Llywodraeth Cymru yn ‘Mwy nag Ailgylchu’ o 64% ar gyfer eleni.
Datgelodd arolwg a gynhaliwyd yn gynharach eleni bod mwy na 8 ym mhob 10 o ddinasyddion Cymru’n ystyried mai ailgylchu yw’r peth ‘iawn’ i’w wneud erbyn hyn, ac mae 7 allan o 10 yn ailgylchu i chwarae eu rhan dros yr amgylchedd. Mae mwy ohonom nag erioed yn gweld ailgylchu fel rhan o’n harferion dyddiol. Mae’n ddiddorol gweld bod cynnydd mawr yn y nifer ohonom sy’n nodi mai pryderon amgylcheddol yw ein prif ysgogiad i ailgylchu. Mae hyn yn wych, ond gyda bron i’n hanner ni ddim yn ailgylchu popeth y gallwn o hyd, mae mwy y gallwn ei wneud i sicrhau bod ein heitemau ailgylchadwy’n cael eu rhoi allan gyda’n casgliadau ailgylchu ar ymyl y ffordd bob wythnos.
Os ydym ni am gael Cymru o’r trydydd safle yn y byd i rif un, a pharhau i ddiogelu ein hadnoddau gwerthfawr, mae angen inni oll roi hybu ein hymdrechion dros gyfnod yr Ŵyl.
Yn draddodiadol, y Nadolig yw’r adeg o’r flwyddyn pan gaiff mwy o wastraff ei greu gartref. O’r holl fwyd ychwanegol rydyn ni’n ei brynu, i’r mynydd o ddeunydd pacio a ddaw yn sgil prynu anrhegion Nadolig, mae’n gyfle gwych i wneud yn siŵr ein bod yn ailgylchu popeth posibl.
Dyna pam rydyn ni’n cefnogi’r ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha. gan Cymru yn Ailgylchu, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, i annog pawb yng Nghymru i fod yn Ailgylchwyr Gwych y Nadolig hwn. (more…)
Student Communications Coordinator
Posted In:
Amrywiol, Sustainability
Leave a Comment
Rwy’n falch o roi gwybod i chi fod Prifysgol Abertawe wedi cael ei rhestru unwaith eto ymysg y 10 prifysgol orau yn y DU yng nghynghrair prifysgolion People & Planet ar gyfer 2021, a gyhoeddwyd gan The Guardian yr wythnos hon.
Mae’r gynghrair yn dyfarnu dosbarthiadau tebyg i raddau i brifysgolion yn y DU, sy’n seiliedig ar eu rheolaeth a’u perfformiad amgylcheddol a moesegol, a phenderfynwyd bod ein Prifysgol yn sefydliad o’r radd flaenaf unwaith eto eleni.
Er gwaethaf heriau’r 12 mis diwethaf, rwy’n hynod falch ein bod wedi llwyddo i gadw ein lle ymysg y 10 uchaf yn y gynghrair. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb ymdrechion gwych cydweithwyr ym mhob rhan o’n Prifysgol, yn ogystal ag ymrwymiad a brwdfrydedd ein myfyrwyr. (more…)
Student Communications Coordinator Llun Rhagfyr 13th, 2021
Posted In:
Newyddion Campws, Negeseuon, Sustainability
Leave a Comment
« Previous Page —
Next Page »