[:en]Car parking at the University’s Bay Campus is extremely limited and subject to local authority planning constraints which restrict the number of vehicles permitted to enter the campus on a daily basis. Additionally, the University aims to be a sustainable organisation, committed to embedding sustainability into all aspects of University life.

Travelling Sustainably at Swansea University

As laid out in the Strategic Plan, we aim to operate on a resilient, compliant and sustainable basis. Currently ranked 9th in the Guardian Green League, we are proud of our many achievements in making Swansea a leading sustainable institution. You can find out more about our sustainability efforts here.
Sustainable travel is a key theme in our Sustainability Strategy which commits us to enabling our students and staff to travel to, from and between campuses in the most sustainable manner practicable.
There are a range of sustainable travel options available to those travelling to and from the Bay Campus:

Cycling and Walking

With excellent cycling routes leading to and from the Bay Campus, we encourage our staff and students to ditch the car in favour of bike. Cycling offers an affordable and sustainable way to travel to the Bay Campus and for those who don’t have access to their own bike, Santander Cycles can be easily hired from hubs conveniently located along the Swansea Bay cycle path. Free bicycle locks and lights are available to students and can be picked up from Fulton House Reception on Singleton Park and MyUni Hub Reception (Tower Information Centre) on the Bay Campus. Find out more about cycling to, from and between our campuses here.
If you live close enough, you could try walking to the Bay Campus. The route from Swansea City Centre would take around 55 minutes on foot. That’s a fairly long walk, but great for your wellbeing and a fantastic way to get your daily steps in!

Travelling By Bus

For those unable to walk or travel by bike, the bus is an excellent, convenient and affordable travel option. Unibus services (8, 8x and 10) regularly enter the Bay Campus and there are many more which stop outside on Fabian Way. There are a range of ticket options and annual/termly passes available to students; and the My Travel Pass is now available to those up to 21 years of age (up to 22nd birthday), offering ⅓ off bus travel. You can find out more here.

Car Travel

With an ever increasing demand for a limited supply of car parking and so many sustainable, healthy and affordable ways of getting around Swansea; as well as to and from the University campuses, we do not encourage students studying at Swansea University to bring their cars with them.
However we do understand that for some students, travel by car is the only viable option. For those who do need to travel to the Bay Campus by car, parking on the campus is limited to the following:

Staff Car Park

This car park is a temporary facility owned by St Modwen, which is primarily for use by staff and permit holders. 262 spaces in the car park are reserved for permit holders and anyone parking in these bays without a permit will be issued with a Parking Charge Notice. There are a further 194 unrestricted Pay & Display parking bays within the staff car park but space in this car park is in high demand and we would not advise students to expect to find a space here. The University’s security team monitor capacity in the car park daily and advise staff and students when the facility is full. The car park is controlled by ANPR cameras. Parking Charge Notices are automatically generated and sent to the registered keeper of the vehicle.

SSSI Car Park

There are 40 short term unrestricted Pay & Display parking spaces available in the SSSI Car Park which is a public car park for visitors to the SSSI.

Visitors Car Park

There is a visitors car park near the north entrance to the Bay Campus – this facility is not available for staff or student parking and is only utilised for pre-booked visitors on official business.

Nearby Car Parking

We encourage those students who have to drive to the Bay Campus to make use of the Fabian Way secure “safer by design” Park and Ride facility. The 8X campus to campus service runs directly from the Park and Ride to the Bay Campus every 20 minutes. The following services can be accessed out on the main road and stop outside the Bay Campus: X1, X3, X5, X7, X8, 8, 10. If you prefer not to take the bus, you can pick up a Santander Cycle from the Park & Ride and dock it at the hub located outside the School of Management building.
The University does not encourage students to park in any other local car parking facilities and strongly discourages students and staff from parking in residential areas or on the premises of local businesses.

Out of Hours Parking Permits and Other Permits

Student permits are available for parking on the Bay Campus between 4pm and 8am on weekdays and at any time on weekends.  Out of hours permits cost £5. Vehicles must be removed from the car park by 8am Monday to Friday to avoid penalty notices.  Pay & Display parking is also available out of hours.
There are other student parking permits available, including for those with relevant medical issues. You can find out more here.

Future Plans for Car Parking at the Bay Campus

The University will continue its commitment to encouraging sustainable travel amongst students and staff. However we are currently exploring options for the provision of an additional 100 permanent parking spaces at the Bay Campus. A planning application for the additional capacity will be
submitted towards the end of 2019.  There are no immediate plans to develop a multi-storey car parking facility on the campus.
Further information about travel to, from and between campuses is available on our website: www.swansea.ac.uk/sustainability/travel[:cy]Prin iawn yw’r lleoedd parcio sydd ar gael ar Gampws y Bae yn y Brifysgol, ac mae’n destun gorchmynion cynllunio’r awdurdod lleol sy’n cyfyngu ar nifer y cerbydau a ganiateir ar y campws bob dydd. Yn ogystal, mae’r Brifysgol yn ceisio bod yn sefydliad cynaliadwy sy’n ymrwymedig i ymgorffori cynaliadwyedd ym mhob agwedd ar fywyd y Brifysgol.

Teithio’n gynaliadwy ym Mhrifysgol Abertawe

Fel y nodir yn y Cynllun Strategol ein nod yw gweithredu mewn modd gwydn, cynaliadwy ac sy’n cydymffurfio. Yn y nawfed safle yng Nghynghrair Werdd Prifysgolion The Guardian ar hyn o bryd, rydym yn falch o’n cyflawniadau niferus wrth wneud Abertawe’n sefydliad cynaliadwy blaenllaw. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein hymdrechion cynaliadwyedd yma.
Mae teithio cynaliadwy yn thema allweddol yn ein Strategaeth Cynaliadwyedd sy’n ein hymrwymo i ganiatáu i’n myfyrwyr a’n staff adael a chyrraedd y campysau a theithio rhyngddynt yn y ffordd fwyaf cynaliadwy sy’n ymarferol.
Mae ystod o opsiynau teithio cynaliadwy ar gael i’r rhai hynny sy’n teithio i Gampws y Bae ac oddi yno:

Beicio a cherdded

Gyda llwybrau beicio ardderchog sy’n arwain at Gampws y Bae ac oddi yno, rydym yn annog ein myfyrwyr a’n staff i ddewis beic yn hytrach na char. Mae beicio’n cynnig ffordd gynaliadwy a fforddiadwy i deithio i Gampws y Bae. Gellir llogi beiciau Santander o’r hybiau sydd wedi’u lleoli’n gyfleus ar hyd llwybr beicio Bae Abertawe i’r rhai hynny nad oes ganddynt eu beiciau eu hunain. Mae cloeon a goleuadau beiciau rhad ac am ddim ar gael i fyfyrwyr, a gellir cael hyd iddynt o Dderbynfa Tŷ Fulton ar Gampws Parc Singleton a Derbynfa MyUni Hub (Canolfan Wybodaeth y Tŵr) ar Gampws y Bae. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am feicio i gyrraedd a gadael ein campysau neu deithio rhyngddynt yma.
Os ydych yn byw’n ddigon agos, gallwch roi cynnig ar gerdded i Gampws y Bae. Byddai’r daith o ganol dinas Abertawe fel arfer yn cymryd tua 55 ar droed. Mae hynny’n gryn bellter i’w gerdded, ond mae’n dda i’ch lles ac yn ffordd ardderchog i chi gyrraedd eich targed o ran camau bob dydd!

Ar y bws

I’r rhai hynny nad ydych yn gallu cerdded neu deithio ar feic, mae’r bws yn opsiwn teithio ardderchog sy’n gyfleus ac yn fforddiadwy. Mae gwasanaethau Unibus (8, 8x a 10) yn mynd i Gampws y Bae yn rheolaidd ac mae llawer o fysiau’n aros y tu allan ar Ffordd Fabian. Mae ystod o opsiynau o ran tocynnau a thocynnau blynyddol/tymhorol ar gael i fyfyrwyr; ac mae Fy Ngherdyn Teithio bellach ar gael i’r rhai hynny sy’n 21 mlwydd oed neu’n iau (hyd at ben-blwydd yn 22 oed) sy’n cynnig gostyngiad o ⅓ oddi ar deithiau bws. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma.

Teithio mewn car

Gyda’r galw cynyddol am nifer cyfyngedig o leoedd parcio, a chynifer o ffyrdd cynaliadwy, iach a fforddiadwy o fynd o fan i fan yn Abertawe; yn ogystal â chyrraedd a gadael campysau’r Brifysgol, nid ydym yn annog myfyrwyr sy’n astudio ym Mhrifysgol Abertawe i ddod â’u ceir eu hunain gyda nhw.
Fodd bynnag, rydym yn deall mai teithio mewn car yw’r unig opsiwn dichonol i rai myfyrwyr. I’r rhai hynny y mae angen iddynt deithio i Gampws y Bae mewn car, mae’r llefydd parcio ar y campws wedi’u cyfyngu i’r canlynol:

Maes Parcio Staff

Cyfleuster dros dro y mae St Modwen yn berchen arno yw’r maes parcio hwn, sydd at ddefnydd staff a deiliad hawlenni yn bennaf. Cedwir 262 o leoedd yn y maes parcio i ddeiliaid hawlenni, a rhoddir Hysbysiad o Dâl am Barcio i unrhyw un sy’n parcio yn y lleoedd hyn heb drwydded. Mae 194 o leoedd parcio talu ac arddangos anghyfyngedig ychwanegol ym maes parcio’r staff, ond mae mawr alw am leoedd yn y maes parcio hwn ac felly ni fyddem yn cynghori myfyrwyr i ddisgwyl cael lle fan hyn. Mae tîm diogelwch y Brifysgol yn monitro pa mor llawn yw’r maes parcio bob dydd ac maent yn cynghori staff a myfyrwyr pan fo’r cyfleuster yn llawn. Rheolir y maes parcio gan gamerâu ANPR. Caiff Hysbysiadau o Dâl am Barcio eu cynhyrchu’n awtomatig a’u hanfon at geidwad cofrestredig y cerbyd.

Maes parcio’r SoDdGA

Mae 40 o leoedd parcio talu ac arddangos anghyfyngedig am gyfnod byr ym maes parcio’r SoDdGA, sef maes parcio cyhoeddus i ymwelwyr â’r SoDdGA.

Maes parcio i ymwelwyr

Ceir maes parcio i ymwelwyr ger mynedfa ogleddol Campws y Bae – nid yw’r cyfleuster hwn ar gael i staff neu fyfyrwyr barcio yno, a chaiff ei ddefnyddio gan ymwelwyr sydd wedi cofrestru ymlaen llaw ar fusnes swyddogol.

Lleoedd parcio gerllaw

Rydym yn annog y myfyrwyr hynny y mae’n rhaid iddynt yrru i Gampws y Bae i ddefnyddio cyfleuster parcio a theithio diogel Ffordd Fabian. Mae’r gwasanaeth 8X o gampws i gampws yn mynd yn uniongyrchol o’r maes parcio a theithio i Gampws y Bae bob 20 munud. Gellir defnyddio’r gwasanaethau canlynol ar y brif heol a’r arhosfan y tu allan i Gampws y Bae: X1, X3, X5, X7, X8, 8, 10. Os byddai’n well gennych beidio â dal y bws, gallwch fynd ar feic Santander o’r maes parcio a theithio a’i adael yn yr hyb y tu allan i adeilad yr Ysgol Reolaeth.
Nid yw’r Brifysgol yn annog myfyrwyr i barcio mewn unrhyw gyfleuster parcio lleol arall, ac mae’n annog myfyrwyr a staff yn gryf i beidio â pharcio mewn ardaloedd preswyl neu ar safleoedd busnesau lleol.

Hawlenni parcio y tu allan i oriau a hawlenni eraill

Mae modd cael hawlenni myfyrwyr i barcio ar Gampws y Bae rhwng 4pm ac 8am yn ystod yr wythnos ac ar unrhyw adeg dros y penwythnosau. Pris hawlenni y tu allan i oriau yw £5. Mae’n rhaid sicrhau nad yw’r cerbydau yn y meysydd parcio erbyn 8am o ddydd Llun i ddydd Gwener er mwyn osgoi cael hysbysiadau cosb. Mae modd talu ac arddangos i barcio y tu allan i oriau hefyd.
Ceir hawlenni parcio eraill i fyfyrwyr, gan gynnwys i’r rhai hynny sydd â phroblemau meddygol perthnasol. Cewch ragor o wybodaeth yma.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol o ran parcio ar Gampws y Bae

Bydd y Brifysgol yn parhau â’i hymrwymiad i annog teithio cynaliadwy ymhlith staff a myfyrwyr. Fodd bynnag, ar hyn o bryd rydym yn archwilio’r opsiynau i ddarparu 100 o leoedd parcio parhaol ychwanegol ar Gampws y Bae. Gwneir cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y lleoedd ychwanegol ar ddiwedd 2019. Nid oes unrhyw gynlluniau i ddatblygu cyfleuster parcio aml-lawr ar y campws yn y dyfodol agos.
Mae rhagor o wybodaeth am gyrraedd a gadael y campysau a theithio rhyngddynt ar gael ar ein gwefan: www.abertawe.ac.uk/sustainability/travel[:]