Astudiaeth ar berfformiad a gwobrwyon mewn gemau fideo
Gofynnir i gyfranogwyr ateb holiadur byr a chwarae gêm fideo. Bydd cyfranogwyr yn derbyn siocled (neu wobr amgen) yn ystod yr astudiaeth. Bydd yr astudiaeth yn para oddeutu 30 munud.
Os oes gyda chi ddiddordeb, cysylltwch â Paula Foscarini: 530048@swansea.ac.uk. (sydd hefyd yn fodlon cymryd rhan yn eich astudiaeth chi yn gyfnewid)
Web Team Mercher Ebrill 24th, 2013
Posted In: Amrywiol
‘Colli’ch gwynt: Clefyd yr ysgyfant a datblygu ysgyfant artiffisial’
Ddydd Mercher, 24 Ebrill, mae Caffe Gwyddoniaeth Abertawe’n croesawu Dr Melitta McNarry o Brifysgol Abertawe i siarad am ddatblygu ysgyfant artiffisial.
Gan fod clefyd yr ysgyfant yn lladd mwy o bobl yn y DU na chlefyd y galon, ac o ystyried sgil-effeithiau hysbys y cyffuriau sydd ar gael, a’r nifer gyfyngedig o ysgyfaint sydd ar gael i’w trawsblannu, mae angen brys i ni ddatblygu ysgyfant artiffisial. Yn y ddarlith hon, bydd Dr McNarry’n trafod yr ymchwil sy’n ymwneud â datblygu ysgyfant artiffisial symudol.
http://www.swansea.ac.uk/science/swanseasciencecafe/
Posted In: Amrywiol
Canolfan Eifftaidd yn trefnu taith i Sain Ffagan
Mae’r bws yn gadael am 9am ddydd Sul 26 Mai, a bydd yn gadael Sain Ffagan am 5pm. Y prisiau yw £10 yr oedolyn a £5 y plentyn.
Dewch i fwynhau celf a chrefft, cymerwch ran mewn ail berfformiad o ryfel cartref Sbaen a darganfyddwch sut beth mewn gwirionedd oedd bywyd Celtaidd, gyda chymorth y Celt preswyl. Gallwch hefyd ymweld â thai hanesyddol a thai’r dyfodol yn yr amgueddfa yn ogystal ag ystafelloedd te, siopau, popty, parciau, caffis a chartref Mawreddog yr amgueddfa.
Posted In: Amrywiol
Dwy sioe’r wythnos hon. Y cyntaf yw sioe gerddorol roc cyfoes (yng Nghanolfan Taliesin); a’r llall yw perfformiad sy’n cynnwys myfyrwyr o Brifysgol Fetropolitan Abertawe yn Theatr Townhill. Swyddfa Docynnau Taliesin ar 01792 60 20 60 www.taliesinartscentre.co.uk
Skellig, 25 a 26 Ebrill. Bydd myfyrwyr Prifysgol Fetropolitan Abertawe yn perfformio’r stori hynod boblogaidd hon. £5 i fyfyrwyr. 24 – 27 Ebrill. Mae ‘The Musician’ yn cyfuno theatr gerddorol gyfoes â’r diwydiant cerddoriaeth. £10 i fyfyrwyr – ffoniwch 01792 360 867 (arian parod/ sieciau) neu www.ticketsource.co.uk/event/29413(cardiau)
Posted In: Amrywiol
‘Cymru, America, a’r Ras i’r Gofod’: Bydd Mr George Abbey, cyn-gyfarwyddwr Canolfan Ofod Johnson NASA, a Chymrawd mewn Polisi Gofod yn Sefydliad Baker, Prifysgol Rice, Houston, yn traddodi darlith flynyddol Richard Burton. Cynhelir y ddarlith am 6.30pm ddydd Iau 25 Ebrill 2013 (derbyniad am 6.00pm) yn Narlithfa Faraday, Adeilad Faraday, Prifysgol Abertawe.
Am fanylion llawn, ewch i: http://www.swansea.ac.uk/riah/news/walesamericaandthespacerace-freepublicevent.php
Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys y glaniadau ar y lleuad, y rhaglen gwennol ofod a pham mai Cymru yw’r wlad y tynnir y mwyaf o luniau ohoni o’r gofod. Ceir cyflwyniad gan Gwyneth Lewis, Cyn-fardd Cenedlaethol Cymru, sydd ar hyn o bryd yn Gymrawd y Gronfa Lenyddol Frenhinol ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd hi’n darllen o ‘Zero Gravity’.
Am ragor o fanylion: h.baldwin@abertawe.ac.uk
Posted In: Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University