Oeddech chi’n gwybod bod bron i 68% o fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf wedi dweud eu dweud hyd yma? Mae gennych tan 30ain Ebrill 2013 i gwblhau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr ac i roi gwybod i ni’r hyn yr ydych yn ei feddwl am eich profiad CHI ym Mhrifysgol Abertawe a’r hyn yr hoffech ei newid!
Beth mae’n ei olygu i mi?
Yn ogystal â’n darparu ni â’ch adborth defnyddiol tu hwnt, ar ôl cwblhau’r arolygon Byddwch hefyd yn cael eich enw yn yr het am gyfle i ennill gwobrau anhygoel!!
• Un o 3 iPad,
• Pecyn Ffotograffiaeth Graddio
• Tocynnau i Ddawns yr Haf
• Tocynnau Amazon
• Tocynnau Arlwyo’r Campws
• Tabled Toshiba
• Tocynnau argraffu
• Coffi Starbucks neu Costa am ddim
A llawer mwy!!
A yw fy marn wir yn gwneud gwahaniaeth i MyUni?
Sut gallwch roi eich adborth CHI i ni?
ar-lein yn www.thestudentsurvey.com
ar-lein yn www.survey.swansea.ac.uk/ses2013
ar-lein yn www.survey.swansea.ac.uk/ptes13
ar-lein yn
www.survey.swansea.ac.uk/pres13
Am ragor o wybodaeth ar adborth neu os oes unrhyw ymholiadau gennych, ewch i http://www.swansea-union.co.uk/education/myuni/ neu e-bostiwch ni ar haveyoursay@abertawe.ac.uk
Web Team Mercher Ebrill 24th, 2013
Posted In: Amrywiol
Gellir dod o hyd i fanylion ynghylch oriau agor y Llyfrgell rhwng 15fed Ebrill – 31ain Mai ar dudalen Oriau Agor y Llyfrgell. Am wybodaeth am y gwasanaethau y gallwch gael mynediad iddynt oddi ar y campws (e-gyfnodolion, e-lyfrau ayyb) a defnyddio llyfrgelloedd eraill y brifysgol, gweler ein Blog GGS.
http://www.swansea.ac.uk/iss/libraries/openinghours/
http://issnews.swan.ac.uk/?p=1501
Posted In: Amrywiol
Ewch lawr i’r traeth yn ystod y gwanwyn a’r haf!
Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd, o’r diwedd, ac mae gan 360 – canolfan traeth a chwaraeon dŵr unigryw Abertawe – raglen lawn o weithgareddau a sesiynau. Cewch chwarae pêl foli’r traeth, tenis y traeth, padl-fyrddio, caiacio, barcutio pŵer, hyfforddiant dwys ar gyfer y traeth, a chyffyrddiad atomig a llawer mwy. Hefyd – peidiwch â cholli’r fwydlen newydd yn y caffe-bar.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.360swansea.co.uk i weld pa sesiynau sydd ar gynnig, neu i archebu cwrt traeth am hwyl hamddenol! Facebook – /360swansea Twitter – @360swansea
Am ragor o fanylion: info@360swansea.co.uk
Posted In: Amrywiol
Amcan yr arolwg cyfrinachol hwn yw deall faint yr ydych yn ei wybod am y gweithdrefnau presennol yn y Brifysgol ac yn yr Undeb ar gyfer riportio aflonyddu a chamwahaniaethu. Rydym yn ceisio gwella’r gweithdrefnau presennol, a hoffem wybod beth yw’ch barn am, a’ch profiad o, y gweithdrefnau presennol. Os oes unrhyw gwestiynau gennych, cysylltwch â Becki Warrillow (Swyddog y Menywod) ar:
womensofficer@swansea-union.co.uk‘
https://www.surveymonkey.com/s/SUSUzerotolerence
Posted In: Amrywiol
Amserlen Dosbarthiadau’r Haf
Mae Amserlen Dosbarthiadau Haf y Ganolfan Chwaraeon bellach ar waith! Ewch i’n gwefan i weld y manylion, a lawrlwytho copi:
http://www.swansea.ac.uk/sport/sportsfacilities/sports-centre/classes/
Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael, felly archebwch le nawr i fod yn siŵr! Cysylltwch â Rose Fitzgerald i holi am lefydd.
Posted In: Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University