Cofiwch, unwaith i chi raddio nid oes rhaid i chi ffarwelio ag Abertawe.
Fel rhai sydd wedi graddio o Brifysgol Abertawe, rydych yn aelodau awtomatig o Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr, rhwydwaith o fyfyrwyr y gorffennol sy’n tyfu’n barhaus a fydd yn gallu eich cefnogi yn broffesiynol ac yn gymdeithasol ar draws y byd.
Dewch i stondin Cymdeithas y Graddedigion yn Neuadd Brangwyn ar eich diwrnod graddio, lle bydd gennym amrywiaeth o gofroddion
Mae ymaelodi â Chymdeithas y Cyn-fyfyrwyr yn RHAD AC AM DDIM. Ewch i www.abertawe.ac.uk/alumni am ragor o wybodaeth.
Mae Swyddfa’r Cyn-fyfyrwyr wedi trefnu y bydd nifer cyfyngedig o grysau T a hwdis graddio, wedi’u printio ag enwau pawb sy’n graddio ar yr un diwrnod, ar gael ar ddiwrnod eich seremoni. Bydd eitemau hefyd ar gael i’w harchebu o www.campusclothing.com
Web Team Mawrth Mai 28th, 2013
Posted In: Amrywiol
Myfyrwyr blwyddyn olaf, Paratoi at Waith, 2013.
Trefnwyd gweithdai ar y dyddiadau canlynol:
Mercher 5 Mehefin, Iau 6 Mehefin, a
Gwener 7 Mehefin
Bwriad y gweithdai hyn yw gwella’ch gwybodaeth a’ch sgiliau o ran y broses ymgeisio am swydd, ac o ran cyfweliadau, gan helpu i’ch paratoi ar gyfer y byd gwaith.
Mae’n bwysig eich bod yn cadw’ch lle, gan ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost myfyriwr.
Hefyd, cynhelir gweithdai a hwylusir gan gwmnïau allanol:
I gofrestru / cadw lle, ewch i:
http://swansea.prospects.ac.uk/
Ar ôl cofrestru a/ neu fewngofnodi, cliciwch ar:
fel arall, cewch ymweld â’r Ddesg Gymorth Gyrfaoedd yn y Llyfrgell a Chanolfan Gwybodaeth.
Digwyddiad ‘Cwrdd â’r Cyflogwr’ a Chinio Gwobrwyo Myfyrwyr
Dydd Iau 6 Mehefin
Dyma gyfle i chi rwydweithio â chyflogwyr lleol a chenedlaethol, a chwrdd â swyddogion recriwtio wyneb yn wyneb.
Mae’n bwysig eich bod yn cadw’ch lle, gan ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost myfyriwr.
Cofrestru ar gyfer ‘Cwrdd â’r Cyflogwr’ (rhif 18 ar y Rhaglen): http://www.eventbrite.com/event/6706963709
Cinio Gwobrwyo Myfyrwyr (rhif 19 ar y Rhaglen):
http://doodle.com/yiu8cixmrrxxivfd
Edrychwn ymlaen at eich gweld yno!
Academi Cyflogadwyedd Abertawe a Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd.
Posted In: Amrywiol
GO Wales
Mae GO Wales yn cynnig ystod o wasanaethau y profwyd eu bod o gymorth i fyfyrwyr, graddedigion a busnesau yng Nghymru gan gynnwys: lleoliadau gwaith, arian ar gyfer hyfforddiant, cronfa ddata ar-lein o swyddi yng Nghymru ac Academi’r Graddedigion.Chwiliwch a gwnewch gais am leoliad ar- lein www.gowales.co.uk/cy/Graduate
Contact Email – placements@swansea.ac.uk
Posted In: Amrywiol
Peidiwch â gadael eich eiddo diangen ar eich ôl pan fyddwch yn gadael yr haf yma – rhowch e i elusen!
Trwy gydol mis Mehefin, bydd y tîm Casglu Diwedd Blwyddyn ar y campws ac yn y pentref. Byddant hefyd yn neilltuo lle oddi ar y campws i chi allu rhoi eitemau megis dillad gwely, dillad, offer coginio, llyfrau, offer trydanol ac yn y blaen i elusennau, gan gynnwys Wallich a Sefydliad Prydeinig y Galon.
Cadwch eich llygaid ar agor am ragor o wybodaeth am lefydd i adael eitemau a dulliau o ymwneud â’r prosiect!
Pe hoffech wirfoddoli i helpu’r casglu, byddwn yn cynnal raffl gyda llawer o wobrau gan gynnwys talebau Nando’s, Domino, Sinema, iTunes, a llawer o win! 1 awr o wirfoddoli = 1 tocyn am y raffl.
Bydd llawer o bitsa ar gael ar y diwrnodau casglu – a chrys-T am ddim (a phwy all wrthod crys-T am ddim?). Cliciwch ar y ddolen isod, a llenwch y ffurflen:
https://docs.google.com/forms/d/1-Gi1aq0Th5IuEwufO8XoG2ZxYFOqVLP9ZQRYmLs9NRk/viewform
Posted In: Amrywiol
!!!angen pobl i gymryd rhan!!!
Dwi’n chwilio am bobl nad ydynt yn ddyslecsig i gymryd rhan mewn dwy sesiwn tua 1 awr a 40 munud yr un. Rhaid gadael rhwng 12 a 16 diwrnod rhwng y ddwy sesiwn.
Cewch £10 o dalebau Amazon (neu arian parod) a £5 mewn arian parod am gymryd rhan yn y ddwy sesiwn!
Os oes diddordeb gennych, anfonwch neges e-bost ataf.
Diolch ymlaen llaw,
Kathrin Weidacker
Posted In: Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University