CANOLFAN FWYD GYDWEITHREDOL: Dewch i brynu cynnyrch lleol ffres a fforddiadwy!
Erioed wedi eisiau prynu cynnyrch ffres, fforddiadwy, blasus a lleol fan hyn yn y Brifysgol? Dyma sut!! Dewch draw i’r Stondin y tu allan i Swyddfa ‘Darganfod’ bob dydd Mawrth rhwng 9am a 1pm i roi’ch archeb i ni!
E-bost Cyswllt – discovery@abertawe.ac.uk
Web Team Mawrth Tachwedd 26th, 2013
Posted In: Amrywiol
Hoffech chi ennill £60?
Cymerwch ran yn ein hastudiaeth ‘atodiad’.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, croeso i chi holi.
Posted In: Amrywiol
Mae’r system archebu lle graddio ar-lein bellach ar agor. Os ydych yn graddio mewgofnodwch i’ch cyfrif ar y fewnrwyd a chliciwch ar yr adran ‘Profile Summary’. Yn y bocs ‘Events/Reminders’ byddwch yn gweld ‘Graddio’. Cliciwch ar hwn i archebu eich lle yn y Cynulliadau Graddio.
Mae fwy o wybodaeth am y cynulliadau ar http://www.swansea.ac.uk/graduation/graduationinformation/
Posted In: Amrywiol
Rhaglen Sgiliau Allweddol – Hanes a Threftadaeth – Sesiynau Gyrfaoedd a Sgiliau – 4 Rhagfyr
Cynhelir y ddarlith nesaf ar Sgiliau Allweddol ym meysydd hanes, treftadaeth, a disgyblaethau perthynol ar 4 Rhagfyr dan arweiniad Dr David Morris o Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg (gwybodaeth lawn islaw).
Mae’r gyfres yn gyfle i fyfyrwyr ac ymchwilwyr ddysgu, gan unigolion proffesiynol sy’n gweithio yn y maes treftadaeth ar hyn o bryd, am yrfaoedd, hyfforddiant sgiliau, a gwella cyflogadwyedd, ac i ofyn cwestiynau mewn sesiwn holi ac ymateb cyfeillgar. Bydd siaradwyr yn sôn am eu gyrfaoedd, ac am yrfaoedd mewn disgyblaethau perthynol.
Dyma sesiynau na ddylid eu colli. Archebwch le heddiw, gan fod y llefydd yn mynd yn gyflym iawn! ‘An Archivist’s Reflection on the Archival Profession’ – Dr David Morris 2-3pm, ddydd Mercher 4 Rhagfyr – Ystafell Fforwm Ymchwil Prifysgol Abertawe, Tŷ Fulton, Prifysgol Abertawe. Am ragor o wybodaeth neu i archebu lle, cysylltwch â Kate Spiller, Cydlynydd y Prosiect: k.spiller@abertawe.ac.uk
http://www.swansea.ac.uk/riah/graduate-centre/heritageskillsprogramme/
Posted In: Amrywiol
Ffilmiau a sioeau yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin, yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn ar 25 Tachwedd.
Sadwrn 30 Tachwedd: ‘Saxophone Giants’:- dathlu goreuon yr ugeinfed ganrif ar y sacsoffon. Bydd dau o’r chwaraewyr gorau cyfoes, Keith Loftis a Jean Toussaint, gyda’u band, yn rhoi gwledd o gerddoriaeth i chi gydag eglurdeb eu sain, eu gonestrwydd, a’u hangerdd. Hwn fydd eu hunig berfformiad yng Nghymru. Tocynnau’n £3 i fyfyrwyr!
I archebu tocynnau arlein ewch i http://www.taliesinartscentre.co.uk/cinema.php neu gellwch ffonio 01792 60 20 60 neu ymweld â’r Swyddfa Docynnau.
E-bost Cyswllt – h.e.harris@abertawe.ac.uk
Posted In: Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University