Diffoddwch eich goleuadau i gyd

SwitchOff_a3 (1)

Mae e wedi cyrraedd yr amser yna o’r flwyddyn unwaith eto, rydym i gyd yn mynd adref i fwynhau’r wŷl Nadolig!!! Ond cyn i chi gyd ddechrau ar eich taith hoffwn eich atgoffa chi i:

∗ Diffoddwch eich goleuadau i gyd ( os ydych chi ddim ar gampws, efallai ei fod yn syniad da i adael un golau arno er mwyn twyllo lladron i feddwl fod rhywun dal yn y tŷ).

∗ Diffoddwch y gwresogi ( neu cadwch eich thermostat ar dymheredd isel os ydych yn poeni am bibau yn byrstio).

∗ Caewch bob ffenestr ( a chlowch nhw os yn bosibl).

∗ Cuddiwch eich holl eitemau gwerthfawr ( efallai ei fod yn syniad da i gau’r llenni).

∗ Diffoddwch bob eitem drydanol, gan gynnwys ‘chargers’, argraffwyr, ac unrhyw beth sydd ddim angen gadael arno.

∗ Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwared â eich sbwriel, fel eich bod ddim yn dychwelyd i rywle ddrewllyd ar ôl gwyliau’r Nadolig ( efallai fe fydd yn syniad da i olchi’r mynydd o lestri yna hefyd) Dim ond ffaith gyflym: “Yn 2012 gwnaeth y campws defnyddio digon o drydan i roi pŵer i 4,778 o gartrefi yn ystod cyfnod y Nadolig”.

Contact Email – environment@swansea-union.co.uk

Mawrth Rhagfyr 10th, 2013

Posted In: Amrywiol

Leave a Comment

Benthyca llyfrau dros yr Ŵyl

librray loans

 

 

 

 

 

 

 

Bydd y cyfnod benthyca dros y gwyliau’n cychwyn am 8.00am ddydd Mawrth 10 Rhagfyr, a bydd raid dychwelyd eitemau yn y categorïau canlynol erbyn 8 Ionawr 2014.  Nid yw archebion yn cael eu canslo yn ystod cyfnod gwyliau’r Nadolig.

Ôl-raddedig llawn amser            benthyciad wythnos

Ôl-raddedig rhan amser             benthyciad wythnos

Staff academaidd                     benthyciad wythnos

Israddedig estynedig                 benthyciad wythnos

Israddedig estynedig                 benthyciad arferol

Israddedig llawn amser              benthyciad wythnos

Israddedig llawn amser              benthyciad arferol

Mae rhai eithriadau: nid yw’r nodiadau hyn yn ddilys yn achos myfyrwyr Nyrsio / Meddygaeth (gan fod strwythur gwahanol i’w cyrsiau) nac i fenthycwyr allanol.

Cysylltwch â: karen.dewick@abertawe.ac.uk for more information

Posted In: Amrywiol

2 Comments

Ffilmiau a sioeau yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin, yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn ar 9 Rhagfyr.

Romeoandjuliet371 (2)
Cyflwyno’ch stori – Ddydd Mercher 11 Rhagfyr, dangosir y ffilm ddiweddaraf o stori Romeo a Juliet yn Nhaliesin. Hailee Stanfield – a enwebwyd ar gyfer Oscar – sy’n cymryd rôl Juliet yn yr addasiad hwn o’r stori cariad gorau erioed. Mae tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Taliesin ac arlein. Tocynnau’n £5 i fyfyrwyr.
I archebu tocynnau arlein ewch i http://www.taliesinartscentre.co.uk/cinema.php neu gellwch ffonio 01792 60 20 60 neu ymweld â’r Swyddfa Docynnau.
E-bost Cyswllt – h.e.harris@abertawe.ac.uk

Posted In: Amrywiol

Leave a Comment

 

Cronfa Ariannol Wrth Gefn Prifysgol Abertawe

financial 2nd december
Yn cael anhawster ariannol? Mae Cronfa Ariannol Wrth Gefn Prifysgol Abertawe ar gael trwy gydol y flwyddyn i helpu myfyrwyr ‘cartref’ sy’n wynebu anawsterau ariannol. Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, ewch i: http://www.swansea.ac.uk/cy/swyddfa-cyngor-a-chymorth-ariannol/cronfaariannolwrthgefncawg/ Nodwch y defnyddir meini prawf wrth benderfynu ar geisiadau.

E-bost Cyswllt – MoneyDoctors@abertawe.ac.uk

Mercher Rhagfyr 4th, 2013

Posted In: Amrywiol

One Comment

Mae’r broses o roi adborth ar fodiwlau’n cychwyn ar 2 Rhagfyr – Hoffem glywed eich barn.

mod feedback

Cewch ein helpu i wella’r profiad i fyfyrwyr trwy gwblhau’r holiadur arlein i roi adborth ar fodiwlau.  Byddwch yn derbyn copi oddi wrthym trwy e-bost. Cewch neges unigol ar gyfer pob modiwl yr ydych wedi cofrestru arno yn ystod y semester hwn – neges a dolen wahanol ar gyfer pob modiwl, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud sylwadau ar y modiwl cywir! Os byddwch yn dileu’r negeseuon, bydd modd i chi gael gafael ar y dolenni o hyd trwy’ch safwe Blackboard.

Ewch i’r tab “Fy Astudiaethau”, a chliciwch ar “F’arolygon”. Am ragor o wybodaeth, ewch i’n gwefan http://www.swansea.ac.uk/registry/current-students/module-feedback lle cewch gopi o arolwg blanc, Cwestiynau Cyffredin, gwybodaeth ar sut y caiff eich sylwadau eu defnyddio, ac adnoddau eraill. Y Tîm ar Fodiwlau: modulefeedback@abertawe.ac.uk

E-bost Cyswllt – l.j.rees@abertawe.ac.uk

Mawrth Rhagfyr 3rd, 2013

Posted In: Amrywiol

Leave a Comment

Next Page »

Upcoming Events


© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University