Ydych chi am ennill taleb i’w gwario ar fwyd, coffi neu argraffu ar y campws?
Mae mwy na 2,000 ohonoch wedi rhoi eich adborth i ni hyd yn hyn! Dyma gyfle gwych i chi ddweud wrthym am eich cwrs a’ch profiad yn Abertawe hyd yn hyn – hoffem glywed eich barn!
Dilynwch y ddolen a llenwch yr arolwg heddiw i gael eich taleb am ddim!
#iloveswansea
Web Team Llun Mawrth 10th, 2014
Posted In: Amrywiol
Prifysgol Abertawe Cyfres o Ddarlithoedd Cyhoeddus ar Ddiwinyddiaeth
Prifysgol Abertawe Cyfres o Ddarlithoedd Cyhoeddus ar Ddiwinyddiaeth “Eglwys Anabl – Cymdeithas Anabl” gan Y Parchedig Dr John Gillibrand (Ficer yn yr Eglwys yng Nghymru y cafodd ei lyfr ‘Disabled Church – Disabled Society’ ei gynnwys ar restr fer gyfer Gwobr Michael Ramsey am Ysgrifennu Diwinyddol yn 2013) am 7.00pm Nos Lun 24 Mawrth, 2014 yn Narlithfa James Callaghan Mae’r ddarlith hon yn agored i bawb sydd â diddordeb, gyda’r mynediad am ddim
Posted In: Amrywiol
Beth yw Prifysgol Iach? Dywedwch Wrthym.
Mae Grŵp Prifysgol Iach Prifysgol Abertawe yn cymryd rhan mewn astudiaeth gan Brifysgol Fetropolitan Manceinion am farn myfyrwyr ar beth yw Prifysgol Iach. Rydym yn chwilio am ddeg o fyfyrwyr i ddod i Grŵp Ffocws am oddeutu un awr ar ddydd Gwener, 21 Mawrth am 11am. Bydd pob cyfranogwr yn derbyn taleb cinio gwerth £5. Os ydych yn fodlon ein helpu, e-bostiwch r.l.edwards@abertawe.ac.uk.
Posted In: Amrywiol
Rydym yn cynnig taith am ddim i Beijing, Tsieina i wyth myfyriwr lwcus, rhwng 19 a 24 Ebrill 2014 i gymryd rhan yn Fforwm Myfyrwyr y DU-Tsieina y Cyngor Prydeinig 2014. Am gyfle i gymryd rhan,
dilynwch y cyfarwyddiadau isod.
Mae’r Fforwm yn chwilio am fyfyrwyr o’r DU sydd ag agwedd fyd-eang i ymuno â myfyrwyr Tsieineaidd yn Beijing i leisio’u barn am faterion yn gysylltiedig ag addysg, cyflogaeth a dinasyddiaeth fyd-eang. Drwy drafodaethau grŵp, gweithdai, cyflwyniadau cyweirnod a gweithgareddau cofleidiol, bydd y cyfranogwyr yn cyfnewid barnau ag wyth myfyriwr o Tsieina, ac yn cloi gyda thrafodaeth fyw ar 22 Ebrill 2014 mewn prifysgol yn Beijing.
Am gyfle i gymryd rhan, atebwch y cwestiwn: Sut all ein haddysg ein paratoi yn well i gystadlu mewn byd sy’n gynyddol fyd-eang? mewn uchafswm o 500 o eiriau.
Rhaid bod ymgeiswyr yn:
Bydd y Cyngor Prydeinig yn talu holl gostau’r daith, gan gynnwys hediadau a llety.
Posted In: Amrywiol
Coppafeel and Comedians; Tits and Giggles
Chwerthynwch er budd eich bronnau! Anghofiwch yr oerfel a’r glaw a dewch i chwerthin wrth achub bywydau! Mae Cymdeithas CoppaFeel! Prifysgol Abertawe yn cynnal digwyddiad comedi, gan ddod â rhai o’r digrifwyr llawn addewid gorau i Brifysgol Abertawe! PRIS Y TOCYNNAU YW £12.50 YN UNIG, GAN GYNNWYS RAFFL AM DDIM!
E-bost Cyswllt – societies@swansea-union.co.uk
Posted In: Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University