Ffilmiau a sioeau yng Nghanolfan Gelfyddydau Taliesin yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 28 Ebrill.
Ar nos Iau, 1 Mai am 7:30pm bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru’n cyflwyno rhaglen driphlyg o ddawnsio deinamig gan goreograffwyr o safon fyd-eang a dawnswyr o Gymru. Tocynnau am £3 i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, a bydd tocynnau wrth gefn ar y noson am £5.
I brynu tocynnau ar-lein, ewch i
E-bost Cyswllt – h.e.harris@abertawe.ac.uk
Web Team Mercher Ebrill 30th, 2014
Posted In: Amrywiol
Gwirfoddolwyr ar gyfer y Penwythnos Cyrraedd a’r Wythnos Groeso
Mae Undeb y Myfyrwyr a Gwasanaethau Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn chwilio am wirfoddolwyr egnïol a brwdfrydig i helpu gydag amrywiaeth o weithgareddau yn ystod y Penwythnos Cyrraedd a’r Wythnos Groeso. Bydd hyn yn cynnwys helpu myfyrwyr newydd i symud i mewn i’w llety, cynorthwyo yn ystod y penwythnos cyrraedd a chynnal teithiau tywys o gwmpas y campws.
Os oes gennych ddiddordeb, cliciwch ar y cyswllt a ganlyn i lenwi a chyflwyno’r ffurflen:
https://docs.google.com/forms/d/1s_9QSykXrRtosgKYpGA2xiiyt84we8V3lu3sMeOxCSY/viewform
Posted In: Amrywiol
Ydych chi’n mwynhau gamblo, pocer ar-lein, betio ar chwaraeon neu gardiau crafu?
Rydym yn cynnal ymchwil i archwilio ymatebion yn yr ymennydd yn ystod tasgau sy’n efelychu gamblo. Rydym hefyd yn edrych ar sut y gall ffactorau personoliaeth ddylanwadu ar ymatebion yr ymennydd i wobrwyo. Efallai y cewch ddewis cael sgan MRI o’r ymennydd am ddim nes ymlaen (yn amodol ar feini prawf sgrinio).
Hoffem eich gwahodd i’r labordy am sesiwn brofi (uchafswm o 45 munud). Gofynnir i chi lenwi ychydig o holiaduron a pherfformio tasgau ar gyfrifiadur. Byddwch yn derbyn taleb Amazon gwerth £10 fel tâl am gymryd rhan.
Am ragor o wybodaeth am gymryd rhan, e-bostiwch Adelaide Austin ar A.H.Austin@abertawe.ac.uk neu Dr Frederic Boy ar f.a.boy@abertawe.ac.uk
Web Team Llun Ebrill 28th, 2014
Posted In: Amrywiol
Cyfle olaf i ddweud wrthym beth rydych yn ei feddwl am Brifysgol Abertawe….
Os ydych yn fyfyriwr blwyddyn olaf sydd eisiau taleb bwyd, coffi neu argraffu gwerth £2.50 i’w wario ar y campws, dilynwch i ddolen i ddweud wrthym beth rydych yn ei feddwl! www.thestudentsurvey.com/index_welsh.html
Posted In: Amrywiol
Ieithoedd Hynafol yn y Parc 2014
Mae dosbarthiadau Lladin i Ddechreuwyr, Groeg, Cyflwyniad i’r Aifft Hynafol a Lladin i Blant oll ar gael ar y campws ar 14, 21 a 28 Mehefin ac ar 5 a 12 Gorffennaf: 2-3:30pm.
Cost y dosbarthiadau yw £5/£3, neu £20 os telir ymlaen llaw. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch e.bracke@swansea.ac.uk neu ewch i http://www.southwestwalesclassicalassociation.co.uk/resources/Ancient%20Languages%20in%20the%20Park%20flyer.pdf.
Web Team Mawrth Ebrill 22nd, 2014
Posted In: Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University