Beth am ddod yn Fyfyriwr Llysgennad Prifysgol Abertawe?
Eisiau ymwneud mwy â bywyd y campws a chwrdd â myfyrwyr eraill? Dewch yn Fyfyriwr Llysgennad Prifysgol Abertawe! Mae Myfyrwyr Llysgennad yn helpu Prifysgol Abertawe i greu awyrgylch cynnes i groesawu ymwelwyr a darpar fyfyrwyr mewn Diwrnodau Agored, wrth y Dderbynfa ac mewn teithiau tywys o amgylch y campws, y llety, a’r cyfleusterau chwaraeon.
Gellid gofyn i Lysgenhadon helpu gydag Ymweliadau Ysgol, Diwrnodau Agored i Fyfyrwyr Ôl-raddedig, Clirio, ac ymweld â’u hen ysgol neu goleg. Os oes diddordeb gyda chi, cewch gyflwyno cais fan hyn: www.survey.swansea.ac.uk/studentambassadors neu trwy anfon neges at SRO@abertawe.ac.uk
E-bost Cyswllt sro@abertawe.ac.uk
Web Team Mawrth Mai 27th, 2014
Posted In: Amrywiol
Paratoi at Waith, 2014
Gweithdai – Dydd Mercher 11 a Dydd Iau 12 Mehefin. Cewch gofrestru ar gyfer cynifer o sesiynau ag yr hoffech!
Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cynnal ac yn hwyluso 14 o weithdai dros 2 ddiwrnod. Mae’r rhain yn cynnwys: Sut i ennill profiad gwaith gwerthfawr. Sut ydw i’n penderfynu? Sut ydw i’n goroesi chwilio am swydd? Myfyrwyr Rhyngwladol – beth nesaf ar ôl graddio?
E-bost Cyswllt – Gyrfaoedd@abertawe.ac.uk
Posted In: Amrywiol
Astudiaeth prawf blas a’r teledu – cewch ennill £7
Rôl hwyliau, gwneud penderfyniadau, a gwylio’r teledu o ran canfyddiad blas: Rydym yn ymchwilio i’r rhesymau sy’n tanategu canfyddiadau blas gwahanol a’r effaith y caiff hwyliau ar swyddogaethau sylfaenol yr ymennydd megis gwneud penderfyniadau a chanfyddiad blas wrth wylio’r teledu. Dangoswyd o’r blaen bod prosesu synhwyraidd yn dibynnu ar brosesau gwybyddol.
Mae’r arbrawf yn cymryd oddeutu awr o’ch amser, ac mae’n cynnwys tasgau gwneud penderfyniadau, holiadur am eich hwyliau a phrawf blasu o flaen y teledu. Dilynir hyn gan holiaduron ar fwyd a ffefrir, personoliaeth a gwybodaeth iechyd gefndirol gyffredinol gan gynnwys taldra a phwysau.
Os hoffech gymryd rhan yn yr astudiaeth hon, mae’n bwysig eich bod rhwng 18 a 65 oed, nad oes gennych unrhyw alergedd bwyd, bod gennych afael da ar Saesneg ac nad ydych yn cymryd unrhyw feddyginiaeth sy’n effeithio ar chwant bwyd. Gallwn gynnig £7 i chi am eich parodrwydd i gymryd rhan. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Menna Price 513724@abertawe.ac.uk
E-bost Cyswllt – 513724@abertawe.ac.uk
Posted In: Amrywiol
Prifysgol Abertawe’n neidio o’r 42il lle i’r 27ain!
Roeddem wrth ein boddau’r wythnos ddiwethaf i ddarganfod ein bod wedi gwella ein safle yn Arolwg Profiad Myfyrwyr y ‘Times Higher’, gan neidio o’r 42il lle’r llynedd i’r 27ain eleni. Mae arolwg y ‘Times Higher’ yn seiliedig ar adborth unigol oddi wrth fyfyrwyr yn unig – felly diolch i bawb a gymerodd ran!
Am ragor o wybodaeth, ewch i http://www.timeshighereducation.co.uk/story.aspx?storyCode=2013333
Posted In: Amrywiol
£20 am Astudiaeth EEG, dynion yn unig
Astudiaeth EEG dwy sesiwn. Mae pob sesiwn yn para 2 awr, a byddwch yn gwneud tasg ar y cyfrifiadur am un awr. Mae angen gweddill yr amser i roi’r cap arnoch. Mae angen i chi fod yn ddyn i gymryd rhan, ac mae angen i chi fod heb hanes o anhwylderau niwrolegol. Rhaid bod 12-16 diwrnod rhwng y ddwy sesiwn. Os oes diddordeb gennych, anfonwch neges e-bost ataf:
a byddaf yn anfon holiadur atoch sydd angen ei gwblhau ymlaen llaw. Ar ôl i chi ei anfon yn ôl ataf i, gallaf wirio os ydych yn gymwys i gymryd rhan.
Posted In: Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University