Darlith gan yr Athro Liz Herbert McAvoy ar ‘Women’s Visions, Visionary Women’ – a gynhelir ddydd Iau 29 Ionawr am 6.30yh. Darlithfa Wallace, Adeilad Wallace, Prifysgol Abertawe. Lluniaeth ysgafn ar gael o 6.00yh. Am y stori gyflawn ewch i: http://www.swansea.ac.uk/riah/news/medievalwomenandtheirvisionsswanseaexperttogivefreepubliclectureonwomensvisionsvisionarywomen.php
Cyswllt e-bost – riah@swansea.ac.uk
gencas film term 2
Web Team Llun Ionawr 26th, 2015
Posted In: Amrywiol
Edrych am rôl gyffrous, heriol ac amrywiol? Byddech chi’n derbyn rôl actifydd, cefnogwr ac arweinydd os ydych yn gweithio fel swyddog i’r undeb!
Pob blwyddyn mae’r Undeb myfyrwyr yn ethol pum swyddog llawn amser er mwyn dod yn arweinwyr ar elusen gwerth miliynau.
Agorir y cyfnod enwebiadau ar y 15fed o Ionawr tan yr 2il o Chwefror.. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth. Cwestiwn? Cysylltwch: elections@swansea-union.co.uk
Posted In: Amrywiol
Mae gennym ni ddwy ffilm wych newydd ar ddydd Mercher 28 Ionawr. Am 5.45yp, Northern Soul (15) – portread bywiog a dilys o ddihangdod pobl ifainc yn sîn Northern Soul y 70au canol yn Swydd Gaerhirfryn. Am 8.00yh, y mae Get on Up (12A) yn portreadu stori fywyd anhygoel James Brown, Godfather of Soul.
Os hoffech chi dderbyn gwybodaeth bellach am y ffilmiau hyn ac archebu seddi ar gyfer ffilmiau a sioeau yn Taliesin, ewch i’r wefan http://www.taliesinartscentre.co.uk/index.php
Cofiwch fod gennym ni brisoedd tocynnau myfyrwyr ar gyfer ffilmiau am £5.30. Ar gyfer digwyddiadau byw, y mae gennym ni nifer gyfyngedig o docynnau ar gyfer myfyrwyr llawn amser Prifysgol Abertawe ar bris isel iawn sef £3. Ar gyfer darllediadau ffrwd fyw, y mae gennym ni nifer gyfyngedig o docynnau wrth gefn (wrth y drws) am £5. Gwerth ardderchog am arian oni chredwch chi?
Cyswllt e-bost – h.e.harris@abertawe.ac.uk
Posted In: Amrywiol
Gwahoddiad Wythnos Ffydd Abertawe
9eg-14fed Chwefror 2015
10.30am – 4.30pm
Y Babell fawr nesaf i Dŷ Fulton, Parc Singleton, Abertawe, SA2 8PP
Ar ran cynrychiolwyr ffydd Prifysgol Abertawe, mae’n bleser gennyf eich gwahodd i gymryd rhan yn ein Harddangosfa Wythnos Ffydd 2015, a gynhelir ger Tŷ Fulton, Prifysgol Abertawe, o 9eg – 14fed Chwefror 2013.
Eleni, mae credoau gwahanol yn gweithio gyda’i gilydd gyda diddordeb mawr i gynyddu dealltwriaeth o gredoau eraill. Mae gwahanol credoau yn annog dadlau sy’n cynyddu gwybodaeth ac yn cyfoethogi bywydau pobl ac mae’r digwyddiad hwn yn ceisio annog rhannu gwybodaeth ynglŷn ag ystod eang o systemau cred. Rydym yn hyderus y bydd yr arddangosfa hon yn dod â llawer o gredoau at ei gilydd ac yn hyrwyddo gwell dealltwriaeth.
Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn darparu cyfle da i fyfyrwyr a staff y Brifysgol, plant ysgol lleol ac aelodau arall o’r gymuned i gymryd rhan. Hoffem eich gwahodd felly i ddod gyda’ch teulu i fynychu’r arddangosfa hon.
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch.
Rydym ni, ynghyd ag arweinwyr ffydd eraill, yn edrych ymlaen at eich croesawu i gampws Prifysgol Abertawe.
Y Parchedig Nigel John Sheik Mohsen Beltagi
Caplaniaeth Prifysgol Abertawe Cynghorydd Myfyrwyr Mwslimaidd ac Imam Mosg Prifysgol Abertawe
E-bost: n.john@abertawe.ac.uk E-bost: M.El-Beltagi@abertawe.ac.uk
Web Team Iau Ionawr 22nd, 2015
Posted In: Amrywiol
Gan ddechrau ym mis Ionawr 2015, bydd y Swyddfa Anableddau yn cynnal gwasanaeth “galw heibio” bob bore Gwener rhwng 10am a 1pm. Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu ymholiad am y gefnogaeth sydd ar gael, sut i gael y gefnogaeth honno, neu os ydych yn ansicr beth i’w wneud neu gyda phwy y dylech siarad, mae croeso i chi alw i mewn i’n gweld ni yn ystod yr adegau hynny. Mae ein swyddfa yn yr adran Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr ar lawr gwaelod adeilad Keir Hardie.
Web Team Llun Ionawr 5th, 2015
Posted In: Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University