Ydych chi’n WRYW? Hoffech chi ennill ARIAN ychwanegol? Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan yn ein hastudiaeth HEAT. Bydd gofyn i chi fynd i’r labordy Seicoleg rhwng 8.30yb ac 1.00yp UNWAITH. NI DDYLECH chi fod wedi cymryd rhan yn yr arbrawf hwn o’r blaen. Dylech chi fod mewn iechyd da yn gyffredinol a siarad Saesneg yn rhugl. Os oes gennych chi ddiddordeb, anfonwch e-bost at Hayley h.a.young@abertawe.ac.uk am wybodaeth bellach.
Student Partnership and Engagement Manager Llun Ebrill 27th, 2015
Posted In: Amrywiol
Cymerwch ran yn ein hastudiaeth DRINK. Rydym yn chwilio am ddynion a menywod sydd mewn iechyd da, sy’n siarad Saesneg yn rhugl, ac nad oes ganddynt unrhyw anoddefiadau bwyd. Bydd gofyn i chi fynd i’r labordy Seicoleg gan ymprydio ar ddau achlysur. Byddwch chi’n yfed diod blas lemwn. Bydd cyflymder eich calon yn cael ei fonitro a byddwn yn gofyn i chi gwblhau ychydig o brofion cofio a llenwi holiaduron. Anfonwch e-bost at Hayley h.a.young@abertawe.ac.uk am wybodaeth bellach.
Student Partnership and Engagement Manager
Posted In: Amrywiol
Cynhelir sesiynau galw heibio ddwywaith yr wythnos, fel bod modd i fyfyrwyr ofyn cwestiynau a derbyn gwybodaeth bellach am Gampws y Bae sy’n agor ym mis Medi 2015.
Mae’r digwyddiadau amser cinio sy’n cychwyn ar 21 Ebrill yn cael eu cynnal bob dydd Mawrth a dydd Iau yn y Ffreutur, Tŷ Fulton rhwng 12.00yp a 2.00yp.
Mae rhestr o gwestiynau cyffredin ar gael ar dudalennau gwe datblygu’r campws yma: http://www.swansea.ac.uk/campus-development/faqs/bystudents/ fodd bynnag, bydd modd i chi godi unrhyw sylwadau eraill sydd gennych chi gydag aelodau staff yn ystod y sesiynau galw heibio.
Student Partnership and Engagement Manager Gwener Ebrill 24th, 2015
Posted In: Amrywiol
Os ydych chi’n gymwys i bleidleisio yn Etholiad Cyffredinol 2015 y DU byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi a chlywed am eich rhyngweithiau â phleidiau gwleidyddol trwy gyfryngau cymdeithasol: oes ots gennych chi, oes dim ots gennych chi, fyddai ots gennych chi pe bai eich ffrindiau yn gwybod bod ots gennych chi am wleidyddiaeth? https://edinburghbusiness.az1.qualtrics.com/SE/?SID=SV_8xg9BmiaCTpFJYN
Mae ymchwilwyr o Brifysgolion Caeredin, Birmingham ac Abertawe yn cydweithio ar yr astudiaeth bwysig hon ond mae angen eich help chi arnom ni! Felly helpwch ymchwilwyr eich prifysgol, a rhowch 50c i elusen yr un pryd, trwy lenwi’r arolwg byr hwn. Diolch!
Student Partnership and Engagement Manager
Posted In: Amrywiol
Anesthetydd ydw i sy’n gweithio gyda Sefydliad Lifebox i wella addysgu o israddedigion ar ddiogelwch llawfeddygol. Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn ateb 7 cwestiwn byr trwy ddilyn y ddolen, mae’n cymryd 1 funud a gellwch chi ennill £50 mewn talebau Amazon: https://www.surveymonkey.com/s/PZ9HCPL
Student Partnership and Engagement Manager
Posted In: Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University