Er mwyn cynnal gwaith yn y HybMyfyrio newydd cyffrous ar y campws, mae Derbynfa’r Gofrestrfa Academaidd wedi symud, ond nid ydym wedi mynd yn bell. Gallwch nawr gyrraedd y Dderbynfa drwy’r drysau awtomatig canolog ym Mloc y Stablau Abaty Singleton (Derbynfa IDO), sydd drws nesaf i’n mynedfa arferol.
Mae’r gwasanaeth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 9am tan 4pm, a bydd ein Cynorthwywyr Gwybodaeth i Fyfyrwyr ar gael i’ch helpu gydag amrywiaeth o ymholiadau, gan gynnwys:
Ymholiadau Gwasanaethau Academaidd
Datganiadau Myfyrwyr
Argraffu a rhwymo traethawd hir/traethawd ymchwil
Am ragor o wybodaeth am y Gwasanaethau Academaidd, ewch i’n tudalennau gwe ar-lein.
Student Partnership and Engagement Manager Mercher Gorffennaf 8th, 2015
Posted In: Amrywiol
Cadwch mewn cysylltiad â’r Datblygiadau Campws a newyddion eraill dros yr haf.
Croeso i ddiweddariad cyntaf yr haf. Bydd y diweddariadau hyn yn adrodd y newyddion a’r lluniau diweddaraf am y datblygiadau a’r cyfleusterau rhwng nawr a mis Medi.
Bydd yn flwyddyn gyffrous i Abertawe. Bydd Campws y Bae’n agor ym mis Medi, a bydd yr adeilad Gwyddoniaeth Data ar Gampws Parc Singleton yn agor ym mis Gorffennaf. Byddwn yn rhoi cipolwg o’r agweddau allweddol ar fyw ac astudio ar gampws newydd y Bae, a’r hyn y gellwch ei ddisgwyl pan fydd yn agor ym mis Medi.
Bydd diweddariadau am:
Chwaraeon
Gwasanaethau’r Campws – Lles, Ffydd, Hyb Myfyrwyr,
Datblygiadau Campws Parc Singleton
Teithio i Fyfyrwyr
Digwyddiadau i Fyfyrwyr
Diweddariadau gan Undeb y Myfyrwyr
Y delweddau diweddaraf o’r newidiadau cyffrous
Os am wybod rhagor, cewch yr ateb i’r cwestiynau mwyaf cyffredin, a chewch weld y delweddau a fideos diweddaraf ar ein gwefan http://www.swansea.ac.uk/cy/datblygur-campws/.
Rydym yn croesawu’ch cwestiynau, felly os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol, cysylltwch â campusdevelopment@abertawe.ac.uk neu ffoniwch 01792 606096.
Diolch!
!–:–>
Student Partnership and Engagement Manager Gwener Gorffennaf 3rd, 2015
Posted In: Newyddion Campws, Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University