Nos Fawrth 31 Mai 7.30pm
Brigitte Bardot, Jack Palance, Michel Piccoli, Fritz Lang
Mae’r sgriptiwr ffilmiau, Paul Javal, wedi cael ei ddal yng nghanol brwydr greadigol ar set addasiad newydd o waith Homer, The Odyssey. Gan ochri gyda’r cynhyrchydd a’i lyfr sieciau, mae penderfyniadau Paul yn digio ei wraig brydferth, Camille, ac mae ei dirmyg cynyddol tuag at ei gŵr yn arwain at ganlyniad trasig.
Nos Fercher 1 Mehefin 6pm
Premiere gwaith newydd gan Awduron Myfyrwyr Abertawe
Triongl Theatr yn cyflwyno
Nos Iau 2 Mehefin 7.30pm
Ar ôl marwolaeth ei gŵr, caiff Enid, 74 oed, ei gorfodi i werthu’r tŷ lle y treuliodd ran fwyaf ei hoes. Mae Enid, sydd bellach yn ddigartref, yn penderfynu gweithredu. Sioe gyntaf dywyll a doniol gan y cwmni o Gaerdydd, Triongl, sy’n archwilio syniadau am gartref.Mae’r ddrama hon yn ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg).
Nos Wener 3 Mehefin 7.30pm
gyda’r Ensemble Jazz Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (perfformio yn y cyntedd o 6.30pm)
Mae eu sain yn siriol, gyda chyfalawon cymhleth yn llawn calon ac wedi’u seilio ar rythmau sy’n adrodd stori o berfeddion Brasil. Gan gyfuno Samba, llên gwerin Affro-Brasilaidd, traddodiadau Clasurol a Jazz er mwyn creu effaith hudolus, maent yn llwyddo i gadw blas hudolus Brasil.
Bydd tapas a gwin yn cael ei weini ar y bar o5pm i 7pm (£ 6 am dri tapas + gwydraid o win neu gwrw). Ffoniwch swyddfa docynnau, ar 602060 i archebu.
Student Partnership and Engagement Manager Mawrth Mai 31st, 2016
Posted In: Amrywiol
Student Partnership and Engagement Manager Gwener Mai 27th, 2016
Posted In: Amrywiol
Rydym yn gynhyrfus ynghylch ein henwebiad yng nghategori Diwylliant Caffi Gwobrau Swansea Life.
Gyda dewis ardderchog o frechdanau, paninis a saladau, yn ogystal â phwdinau, teisennau a thoes traddodiadol, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, a chinio Sul o gynhwysion lleol, mae’r Bar-gaffi a Bwyty yn lle perffaith i ymlacio gyda ffrindiau a’r teulu wrth fwynhau’r gwynt y môr a’r golygfeydd hardd ar draws y Bae.
Helpwch ni i symud ymlaen o’r enwebiadau i ennill Diwylliant Caffi Gorau Abertawe! Pleidleisiwch ar-lein yn www.surveymonkey.co.uk/r/SLVOTE16 erbyn 8 Mehefin.
Student Communications Coordinator Iau Mai 26th, 2016
Posted In: Newyddion Campws, Negeseuon, Amrywiol
Gwasanaeth Bws Hwyr Gyda’r Nos – Hoffem ddiolch yn fawr i’r holl fyfyrwyr sydd wedi parchu’r côd ymddygiad a’n helpu i gadw’r gwasanaeth bws hwyr gyda’r nos i fynd am y flwyddyn academaidd nesaf! Am ragor o wybodaeth am y côd ymddygiad, cliciwch yma.
Ffioedd Bysus Blynyddol – Rydym wedi rhewi pris tocyn bws blynyddol! Ar gyfer blwyddyn academaidd 2016/2017, y gost fydd £300 am docyn canol Abertawe, sy’n cynnwys teithio bob diwrnod o’r wythnos ac ar y Bws Hwyr Gyda’r Nos.
Gwasanaeth Pellach – Bydd bws 8 ac 8X yn parhau yn 2016/2017, gydag 8X yn uwchraddio i wasanaeth bob hanner awr ar gyfer 2016/2017. Bydd bws 10 yn parhau i redeg bob 20 munud, gyda gwasanaeth bob awr y tu allan i’r tymor.
Teithwyr Actif – Byddwn yn gwerthu deg tocyn bws Carnet i Deithwyr Actif yn y HybMyfyrio. Mae hyn yn berffaith os ydych yn bwriadu mynd ar nifer bach o siwrneiau – y gost yw £35 am 10 tocyn diwrnod (uchafswm o 3 set y myfyriwr bob blwyddyn academaidd).
Cynlluniwch eich taith – Ni yw’r brifysgol gyntaf yng Nghymru i lansio gwefan bwrpasol ar gyfer eich holl anghenion teithio ac i gynllunio’ch teithiau rhwng eich cartref a’r campws! Ewch i myndibobmanfelmyfyriwr.traveline.cymru a chynlluniwch eich taith heddiw! Mae’r wefan yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am deithio cynaliadwy.
Student Communications Coordinator
Posted In: Amrywiol
Mae Prifysgol Abertawe wedi cael llwyddiant yn y Guardian University Guide diweddaraf. Mae’r Brifysgol wedi codi 13 safle i safle 39 yn y DU, sef y naid fwyaf gan brifysgol yng Nghymru.
Mae’r safle newydd hwn yn nodi datblygiad rhyfeddol gan y Brifysgol, sydd wedi gweld cynyddiad o 45 safle mewn chwe mlynedd (o safle 94 yn 2012 i 39 yn 2017).
Mae nifer o feysydd pwnc y Brifysgol wedi cyrraedd y lefelau uchaf:
Mae hyn yn gadarnhad pellach o statws cynyddol y Brifysgol, sydd wedi gweld cynyddiad mewn tablau cynghrair dros y misoedd diwethaf. Ym mis Ionawr eleni, cyrhaeddodd y brifysgol rhestr The Times Higher Education (THE) o’r 200 o brifysgolion ‘mwyaf rhyngwladol’. Ym mis Mawrth, cyhoeddwyd bod disgyblaethau Peirianneg ymhlith y gorau yn y byd o hyd yn ôl yr arbenigwyr data addysg uwch, QS. Mis yn ddiweddarach, enillodd y brifysgol Gwobr WhatUni am y Cyrsiau a’r Darlithwyr Gorau, a chyrhaeddodd y Brifysgol y 50 uchaf yn y Complete University Guide.
Student Partnership and Engagement Manager Mercher Mai 25th, 2016
Posted In: Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University