Mae gan M&S fan yn llawn o frechdanau blasus yn barod i’w rhoi am ddim! Mae’r cyfan yn rhan o’u hymgyrch i ledaenu’r gair am eu gyrfaoedd gradd (ac ychydig o fwynhad ar yr un pryd).
Ond nid ydyw ar gyfer pob prifysgol … Mae Abertawe wedi’i gosod yn erbyn Caerdydd ac i ennill y brechdanau maen rhaid i ni sicrhau y gallwn gasglu mwy o bleidleisiau na nhw.
Felly os gwelwch yn dda:
Ewch i: http://yourperfectsandwich.co.uk/vandwich
Pleidleisio dros abertawe!
Dywedwch wrth ffrindiau
Croeswch eich bysedd
Student Partnership and Engagement Manager Llun Hydref 31st, 2016
Posted In: Amrywiol
A hoffech ddatblygu eich sgiliau busnes?
Neu efallai bod gennych syniad busnes yr hoffech ei hyrwyddo neu ennill ariannu ar ei gyfer?
Os felly, dewch i’r Wythnos Mentergarwch Fyd-eang (GEW)!
Diben GEW yw cefnogi’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid, ac mae gan Brifysgol Abertawe raglen ardderchog o ddigwyddiadau a chystadlaethau i CHI.
Mae rhywbeth i bawb:
Her Scalextric – Grwpiau o fyfyrwyr yn rheoli tîm Scalextric F1 ac yn defnyddio’u sgiliau busnes (mewn modd difyr) i frwydro i wneud yr elw mwyaf ac ennill y grand prix. Mae lle i 36 ar gael ac rydym yn chwilio am dimau o 3 i 6 myfyriwr, felly os hoffech ddefnyddio a gwella eich sgiliau busnes, dyma’r gystadleuaeth i chi (https://scalextric-business-challenge.eventbrite.co.uk)
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn (a rhai eraill) yn ystod GEW, ewch i dudalen blog y Sefydliad Arweinyddiaeth Entrepreneuraidd (IfEL): http://thenestblog.weebly.com/global-entrepreneurship-week.html.
Cynhelir GEW o 14 tan 20 Tachwedd 2016, ac mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ar gyfer rhai o’r gweithgareddau hyn, felly cadwch le NAWR cyn ei bod yn rhy hwyr!
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn yr Wythnos Mentergarwch Fyd-eang!
Student Communications Coordinator
Posted In: Newyddion Campws, Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?
CampusLife yw’r enw newydd am Wasanaeth Cymorth Myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.
Rydym yma i’ch cynorthwyo yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol drwy roi cymorth ac arweiniad ymarferol, o gyfarfodydd wyneb yn wyneb i gwnsela ac adnoddau dysgu ar-lein.
Mae CampusLife yn cynnwys chwe thîm. Maent i gyd yn gallu rhoi cyngor arbenigol ynghylch gwahanol agweddau ar fywyd yn y brifysgol.
CanolfanAsesu@BywydCampws
Anableddau@BywydCampws
MyfyrwyrRhyngwladol@BywydCampws
Arian@BywydCampws
Lles@BywydCampws
Llesiant@BywydCampws
Os na ddymunwch siarad â rhywun yn bersonol am eich problem, peidiwch â phoeni! Mae llawer o wybodaeth ar gael ar-lein ar dudalennau gwe BywydCampws. Felly gall y cyngor a’r canllawiau rydych eu hangen i ddatrys eich problemau fod ddim ond clic i ffwrdd.
Student Partnership and Engagement Manager
Gwirfoddolwch fel Mentor Pobl Ifanc gyda’r elusen plant, NYAS
Dydd Mawrth 1/11/2016, 17:00-18:00
Tŷ Fulton – Ystafell Seminar 6
Yn agored i’r HOLL fyfyrwyr
https://swansea.targetconnect.net/leap/event.html?id=2635&service=Careers+Service
Cyflwynir ar y cyd gan: Academi Cyflogadwyedd Abertawe a’r Rhaglen Llwyddiant Academaidd
Cyflawni Eich Targedau
Dydd Mercher 2/11/2016, 14:00-16:00
Tŷ Fulton – Ystafell Seminar 6
Yn agored i’r HOLL fyfyrwyr
https://swansea.targetconnect.net/leap/event.html?id=2633&service=Careers+Service
Cael Swydd Addysgu
Dydd Iau 3/11/2016, 13:00-14:00
Tŷ Fulton – Ystafell Seminar A
Yn agored i’r HOLL fyfyrwyr
https://swansea.targetconnect.net/leap/event.html?id=2637&service=Careers+Service
Y Llu Awyr Brenhinol – Swyddi Arweinyddiaeth a Rheoli gyda’r RAF – CAMPWS PARC SINGLETON
Dydd Iau 3/11/2016, 17:00-17:45
Keir Hardie – Ystafell 248
Yn agored i’r HOLL fyfyrwyr
https://swansea.targetconnect.net/leap/event.html?id=2639&service=Careers+Service
Y Llu Awyr Brenhinol – Swyddi Arweinyddiaeth a Rheoli gyda’r RAF – CAMPWS Y BAE
Dydd Iau 3/11/2016, 18:15-19:00
Y Neuadd Fawr – Ystafell 001
Yn agored i’r HOLL fyfyrwyr
https://swansea.targetconnect.net/leap/event.html?id=2641&service=Careers+Service
Student Communications Coordinator
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, [:en]Swansea Employability Academy[:cy]Academi Cyflogadwyedd Abertawe[:]
Galwch i mewn ar ddiwrnod cofrestru’r Wobr Cynaliadwyedd ar 2il Tachwedd 2016 ar unrhyw amser rhwng 12:30-15:00 yn Keir Hardie 248.
Gweinir cacennau a ffrwythau drwy’r amser.
Mae’r wobr cynaliadwyedd yn wobr a gydnabyddir gan HEAR sy’n cydnabod eich cyfraniad unigol i berfformiad cynaliadwyedd ac amgylcheddol Prifysgol Abertawe. Bydd y wobr yn cynorthwyo i
– Ddatblygu eich gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd
– Magu profiad gwaith ar ystod o brosiectau cynaliadwyedd
– Ychwanegu gwerth i’r amgylchfyd a’r gymuned leol
Student Partnership and Engagement Manager
Posted In: Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University