Mae sesiwn galw heibio’r Arian@BywydCampws ddydd Mawrth 31 Ionawr yng Nghampws y Bae wedi ei chanslo.
Bydd y gwasanaeth arferol yn ailddechrau ddydd Iau 2 Chwefror.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.
Os oes gennych ymholiad brys, cysylltwch â staff y swyddfa drwy ffonio: 01792 606699 neu e-bostiwch: money.campuslife@swansea.ac.uk
Student Communications Officer Llun Ionawr 30th, 2017
Posted In: Negeseuon
Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd cysgodfannau bysiau Campws y Bae yn cael eu gosod wythnos nesaf – dydd Llun 30 Ionawr tan ddydd Gwener 3 Chwefror.
Nodwch fodd bynnag :
Ni fydd unrhyw fysiau yn stopio yn yr arosfeydd hyn dros y cyfnod hwnnw. Bydd pob bws yn stopio wrth y gysgodfan sydd yn union gyferbyn â Champws y Bae.
Student Communications Coordinator Gwener Ionawr 27th, 2017
Posted In: Newyddion Campws, Amrywiol
Rhowch gynnig ar raglen Wythnos o Waith Darganfod i gael rhagflas ar wirfoddoli yn y gymuned. Os hoffech weithio gyda phobl hŷn, pobl ifanc, neu os yw gweithio â brws paent neu yn yr ardd yn apelio’n fwy, mae gennym rywbeth at ddant pawb! Am ragor o wybodaeth neu i wirfoddoli, e-bostiwch discovery@abertawe.ac.uk neu galwch heibio’r swyddfa!
Hoffech chi ddysgu sgiliau newydd a chael hwyl a gwella’ch CV ar yr un pryd? Mae’r Cynllun Gwirfoddoli â Chymorth yn cyflwyno myfyrwyr i wirfoddolwyr ag anableddau dysgu, cyflyrau’r sbectrwm awtistiaeth a/neu broblemau iechyd meddwl i’w cefnogi gyda thasgau amrywiol yn y mudiad.
Mae angen i wirfoddolwyr ymrwymo i gyfnod amser penodol bob wythnos i bawb gael y gorau o’r cynllun. E-bostiwch Kirsty yn k.rowles@abertawe.ac.uk erbyn 10 Chwefror i ofyn am ffurflen gais!
Mae ceisiadau’n cael eu derbyn nawr ar gyfer taith haf rhaglen Partneriaeth Abertawe a Siavonga i Siavonga yn Sambia. Mae Darganfod (gwirfoddoli i fyfyrwyr yn Abertawe) wedi bod yn gweithio gyda Grŵp Maeth Siavonga, Prifysgol Sambia, a chydag ysgolion a grwpiau menywod yn Siavonga ers wyth mlynedd. Mae gennym berthnasoedd cryf â’r gymuned yn Siavonga ac rydym yn gweithio’n agos gyda nhw i gynllunio mis o wirfoddoli sy’n ymateb i’r anghenion maen nhw eu hunain wedi’u nodi.
Bydd grŵp bach o fyfyrwyr yn treulio’r rhan fwyaf o fis Gorffennaf yn Sambia, gyda chefnogaeth staff Darganfod. Maent yn cynllunio gweithdai ar bynciau y mae pobl yn Siavonga wedi gofyn i ni ymdrin â nhw ac yn gweithio’n agos gyda gwirfoddolwyr o Grŵp Maeth Siavonga a myfyrwyr o Brifysgol Sambia i’w cyflwyno i ysgolion a grwpiau menywod.
Dyma gyfle gwych i fod yn rhan o brosiect cynaliadwy a arweinir gan gymuned leol. Cewch gefnogaeth dda ond bydd disgwyl i chi gymryd rôl lawn wrth gynllunio a chyflwyno gweithdai.
Dyma beth mae myfyrwyr blaenorol wedi’i ddweud:
‘’[Mae’r prosiect hwn yn rhoi] rhyddid i chi ddewis eich prosiect, mae’n rhoi cyfrifoldeb ac ystyr i wirfoddoli yn fwy nag unrhyw brosiect gwirfoddoli arall’’
“Roedd pob munud yn teimlo fel bod pwrpas ac ystyr iddi.”
“Ar y cyfan, roedd yn brofiad anhygoel sy’n datblygu cymeriad, ac aeth â mi allan o gysur fy nghynefin, ond roedd yn hynod wobrwyol. Byddwn yn ei wneud eto mewn chwinciad.”
Cyfanswm cost y daith yw £1,600, ond gall myfyrwyr cymwys yn y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn, myfyrwyr gradd Meistr a myfyrwyr PHD a fydd yn parhau â’u hastudiaethau yn Abertawe yn hydref 2018 dderbyn bwrsariaeth o £600 i helpu gyda hyn fel arfer.
I wneud cais neu i gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch discovery@abertawe.ac.uk neu galwch heibio i’n swyddfa yn Nhŷ Fulton am sgwrs.
Yn olaf, rhowch gipolwg ar y neges ddiweddaraf ar ein blog – http://discoverysvs.org/a-new-year-in-discovery/
Student Communications Coordinator Iau Ionawr 26th, 2017
Posted In: Amrywiol
Gall unrhyw fyfyriwr/fyfyrwyr â syniad busnes gwych gofrestru am y cyfle i ennill £250 gan Santander i roi cynnig ar y syniad hwnnw.
Y cyfan y mae angen ei wneud yw dweud wrth ein beirniaid arbenigol (gan gynnwys cynrychiolwyr o Santander) mewn 60 eiliad beth yw eich syniad busnes a sut y byddech yn defnyddio’r £250.
Bydd y cyflwyniadau gorau’n ennill £250 a phedwar mis i fasnachu heb risgiau!
YN AGORED I’R HOLL FYFYRWYR
BWRSARIAETHAU CYFYNGEDIG AR GAEL!
Pryd: Dydd Mercher, 1 Chwefror 2017
Amser: 2pm
Lle: CBE 239, Yr Ysgol Reolaeth, Campws y Bae
I gofrestru eich lle: entrepreneurs@swansea.ac.uk
Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych!
Dymuniadau gorau,
Menter Tîm IfEL
Student Communications Coordinator Mawrth Ionawr 24th, 2017
Posted In: Amrywiol
Enillydd 2016: Mirror of Heaven: Byzantine Silverware in Use gan Heaven Hunter-Crawley
Mae Cystadleuaeth ‘Ymchwil fel Celf’ 2017 bellach yn derbyn ceisiadau a’r dyddiad cau yw 8 Ebrill 2017. Mae Ymchwil fel Celf yn rhoi cyfle i chi, yr ymchwilydd, yr aelod staff neu’r myfyriwr, gyfleu dynoliaeth a harddwch eich gwaith mewn llun a geiriau sy’n crynhoi’ch ymchwil.
Pwy gaiff gyflwyno cais i’r gystadleuaeth?
Mae’r gystadleuaeth yn agored i bob aelod staff ac ymchwilydd, o fyfyrwyr israddedig i Athrawon, sy’n astudio neu’n gweithio neu’n cefnogi ymchwil mewn unrhyw faes neu ddisgyblaeth. Mae hyn yn cynnwys y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Peirianneg, y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, y Gyfraith, Gwyddoniaeth a Rheolaeth. Popeth!
Pam dylech roi cynnig arni?
Sut mae gwneud cais?
Mae rhagor o fanylion am y gystadleuaeth ac am sut i gyflwyno cais, yn ogystal â lluniau o geisiadau’r llynedd ar gael ar Ymchwil fel Celf.
Student Communications Officer
Posted In: Newyddion Campws, Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University