Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru ar Gampws Parc Singleton yr wythnos hon! Ewch i’r Clinig Rhoddwyr Gwaed Symudol, sydd wedi parcio yn y Maes Parcio Isaf. Neu ffoniwch/e-bostiwch i wneud apwyntiad a chynorthwyo rhywun heddiw!
Dydd Llun 27 Chwefror
Dydd Mawrth 28 Chwefror
Dydd Mercher 1 Mawrth
Dydd Iau 2 Mawrth
Dydd Gwener 3 Mawrth
Cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad:
Ffoniwch: 0800 252266
Neu Ebostwch: donor.appointments@wales.nhs.uk
Gwiriwch eich cymhwysedd i roi gwaed ar ein wefan www.gwaedcymru.org.uk
Student Communications Officer Mawrth Chwefror 28th, 2017
Posted In: Newyddion Campws, Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Amrywiol
Mae dydd Mawrth 28 Chwefror yn ddydd Mawrth Ynyd!
I nodi dechrau’r Grawys, bydd holl gyfleusterau arlwyo ar Gampws y Bae a Champws Parc Singleton yn gwerthu crempogau ffres ag amrywiaeth o gynhwysion, suropau a sawsiau. Dewch i fwynhau Diwrnod Crempogau gyda ni!
Student Communications Officer
Posted In: Newyddion Campws, Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Negeseuon
Trip Penwythnosol Grŵp anghoel arall: DULYN ar 23ain o Fawrth 2017.
Awyrgylch arbennig: Gem rhagbrofol rhwng Iwerddon V Cymru ar gyfer Cwpan Y Byd yn Nulyn ar y 24ain o Fawrth.
2 noson mewn B&B, teithio ar fws a fferi o’r Brifysgol, yswiriant am ddim – £244! Llefydd yn brin!
Siop Teithio, Tŷ Fulton ffôn 01792 203235 est. 4640
Student Communications Coordinator
Posted In: Amrywiol
I gefnogi wythnos Ffydd a Diwyliant; Dydd Gŵyl Dewi a Pythefnos Masnach Deg; mae’r tîm Arlwyo yn cynnig detholiad o gynigion arbennig i godi blys arnoch, gan gynnwys:
@ the Mall, Campws Singleton
@ the Atrium, Campws y Bae
Bwydlen wahanol bob dydd – gweler www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/gwasanaethau/arlwyo/
@ Fusion, Campws Singleton
@ y Craidd, Campws y Bae
Gydag ymddangosiad gwadd arbennig gan Gantorion Gwalia, 1pm ar 1af Mawrth (Ffreutur) ac 1pm ar 2il Mawrth (Craidd)
@ Blas, Campws Singleton
@ y Craidd, Campws y Bae
Ynghyd â sesiynau blasu Masnach Deg, rafflau a mwy
Student Communications Officer Llun Chwefror 27th, 2017
Posted In: Amrywiol
Bydd Abertawe’n cynnal ei pedwerydd digwyddiad Gwyddoniaeth Bocs Sebon ar ddydd Sadwrn, 8 Gorffennaf. Bydd ein bocsys sebon yn cael eu symud mewndir o’r traeth i ganol Oxford Street Abertawe. Bydd y ddinas dan ei sang â siopwyr, teuluoedd, twristiaid a rhai eraill o’r ddinas – ein nod yw eu stopio ar eu hunion gyda merched ar flaen y gad ym myd gwyddoniaeth a thechnoleg o ledled Cymru a thu hwnt yn siarad am eu hymchwil! Cenhadaeth y digwyddiad yw codi’r proffil a herio barn y cyhoedd am fenywod mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM).
Yn awr rydym yn chwilio am geisiadau gan ymchwilwyr benywaidd, o athro i fyfyriwr ôl-radd, mewn unrhyw bwnc STEMM, i ddod yn siaradwr yn y digwyddiad cyffrous hwn. Gallwch ymgeisio yma (dyddiad cau Gwe Chwef 24 2017). Gallwch hefyd gysylltu â’r tîm sy’n trefnu am ragor o wybodaeth yn bersonol neu drwy e-bost.
Os hoffech weld sut beth yw Gwyddoniaeth Bocs Sebon yn ei anterth, cymerwch olwg ar ein fideo!
Ar ran trefnwyr Gwyddoniaeth Bocs Sebon Abertawe,
Dr Geertje van Keulen
Coleg Peirianneg: Dr Rachel Wood, Dr Jenny Baker, Dr Karin Ennser, Dr Natalie DeMello
Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd: Prof Michelle Lee
Coleg Gwyddoniaeth: Kristy Holder, Dr Emilia Urbanek, Prof Siwan Davies, Dr Elaine Crooks, Dr Monika Seisenberger
Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: Dr Jessica Fletcher, Dr Geertje van Keulen (Prif drefnydd)
Uwch Dîm Rheoli (Ymchwil a Chydnabyddiaeth Allanol): Senior PVC Prof Hilary Lappin-Scott
Student Communications Officer
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University