Mae sesiwn galw heibio’r Arian@BywydCampws ar ddydd Iau 27 Ebrill yng Nghampws y Bae wedi ei chanslo.
Bydd y gwasanaeth arferol yn ailddechrau ar ddydd Mawrth 2 Mai achos o’r Gŵyl y Banc ar y ddydd Llun..
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.
Os oes gennych ymholiad brys, cysylltwch â staff y swyddfa drwy ffonio: 01792 606699 neu e-bostiwch: money.campuslife@swansea.ac.uk
Student Communications Officer Mercher Ebrill 26th, 2017
Posted In: Negeseuon
Yn ddiweddar, cynhaliodd Rheoli Ystadau a Chyfleusterau arolwg o’r holl fyfyrwyr a staff ynghylch y gwasanaethau arlwyo ar ein campysau, a hoffem drefnu grŵp ffocws o fyfyrwyr i archwilio’r atebion yn fanylach.
Dyma’ch cyfle chi i wneud mewnbwn sylweddol wrth ddatblygu gwasanaethau arlwyo ar y campws. Byddwn yn cynnal grŵp ffocws o 10-12 myfyriwr ddydd Mawrth 16 Mai, rhwng 10.00am a 12.00pm ar Gampws Parc Singleton. Bydd yr holl gyfranogwyr yn derbyn cerdyn bwyta gwerth £15 i’w ddefnyddio yn y gwasanaethau arlwyo.
I fynegi diddordeb, cliciwch yma: https://www.surveymonkey.co.uk/r/C2N8HD8
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y grwpiau ffocws, neu am ein gwaith i wella gwasanaethau arlwyo’n barhaus mewn ymateb i fewnbwn myfyrwyr, e-bostiwch Mike O’Carroll yn m.e.ocarroll@abertawe.ac.uk.
Student Communications Officer
Posted In: Arolygon ac Astudiaetha
Yr wythnos hon, mae’r Brifysgol wedi gweld cynnydd parhaus yn nifer yr e-byst gwe-rwydo a dderbynnir.
Mae’r ymgyrch ddiweddar yn awgrymu y dylai’r derbynnydd glicio ar ddolen er mwyn gweld anfoneb sydd heb ei thalu ac mae’r wefan sydd y tu ôl i’r ddolen honno’n cynnwys meddalwedd maleisus a fydd yn heintio peiriant y derbynnydd. Gall y negeseuon honni eu bod yn dod o unrhyw ffynhonnell ond mae DHL, UPS, Vodaphone, O2 ac enwau unigolion (fel eraill o fewn y Brifysgol neu gydnabodau/gysylltiadau eraill) wedi cael eu gweld.
Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch dilysrwydd y neges, y cyngor yw, peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni nac agor unrhyw atodiadau. Gallwch hysbysu Gwasanaethau TG o ymosodiad gwe-rwydo posib drwy anfon y neges i spam@abertawe.ac.uk ac yna dilëwch y neges ar unwaith.
Os oes gennych unrhyw amheuon , neu os ydych eisoes wedi clicio ar ddolen, cysylltwch â thîm Gwasanaethau Cwsmeriaid GGS neu defnyddiwch y ddesg wasanaeth i gofnodi digwyddiad.
Anfonir e-byst gwe-rwydo at un o dri phrif ddiben fel arfer:
Cofion
Gwasanaethau TG
Student Communications Officer Llun Ebrill 24th, 2017
Posted In: Negeseuon
Hoffem i chi rannu’ch adborth â ni, ac fel diolch, byddwn yn rhoi taleb gwerth £5 i chi ei gwario ar fwyd, diod, dillad neu gredyd argraffu ar y campws.
Bydd yr arolwg yn cau ar 30 Ebrill 2017, felly peidiwch â cholli’r cyfle i rannu’ch barn ar fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe a hawlio’ch taleb gwerth £5.
Rydym yn cymryd barn myfyrwyr o ddifrif ac yn defnyddio canlyniadau’r arolwg hwn i’n helpu i wneud gwelliannau i’ch cwrs ac i’r Brifysgol.
Mae’r holl fyfyrwyr yn gymwys i gwblhau arolwg yn https://myuni.swan.ac.uk/cy/adborthiabertawe/. Bydd eich atebion yn ddienw, a bydd yn cymryd pum munud yn unig i helpu i wella’ch profiad fel myfyriwr!
Student Partnership and Engagement Manager
Posted In: Negeseuon, Cynigio, Arolygon ac Astudiaetha
Hoffwn wahodd yr holl fyfyrwyr yn gynnes iawn i ddod i weld a chefnogi myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, wrth iddynt gymryd rhan mewn cystadleuaeth Traethawd Ymchwil Tair Munud, dan ofal y Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig, Gwasanaethau Academaidd, ar 2 Mai yn Theatr Taliesin o 9.30 tan tua 12.30.
Dyma gyfle unigryw i brofi dehongliadau creadigol a deinamig gan ein hymchwilwyr ôl-raddedig wrth iddynt rannu eu hymchwil gyda chymuned y brifysgol. Mae Traethawd Ymchwil Tair Munud (3MT®), a ddatblygwyd gan Brifysgol Queensland, wedi datblygu ac ehangu ledled y DU, gyda 49 o sefydliadau yn cynnal cystadleuaeth 3MT y llynedd. Mae’r ymarfer yn herio myfyrwyr ymchwil i ddifyrru’r gynulleidfa gyda’u hymchwil a’i arwyddocâd mewn tair munud yn unig. Bydd enillydd cystadleuaeth Prifysgol Abertawe yn mynd ymlaen i rownd gynderfynol 3MT y DU gyda’r gobaith o ennill y gystadleuaeth Vitae DU a chael £3,000 tuag at ei ymchwil.
Yn dilyn y gystadleuaeth Traethawd Ymchwil Tair Munud fydd rownd derfynol y Gystadleuaeth Poster Ymchwil Ôl-raddedig, lle cewch gyfle i siarad â myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig am eu gwaith. Bydd y cystadlaethau 3MT a’r Poster yn cael eu beirniadu gan Gyfarwyddwyr Ymchwil Ôl-raddedig, cynrychiolwyr o fyfyrwyr ôl-raddedig yn ogystal ag unigolyn proffesiynol o gefndir ymgysylltu cyhoeddus. Dyma ddigwyddiad cyffrous a difyr y byddwch yn sicr o’i fwynhau ac mae mynediad am ddim. Archebwch yma i fod yn rhan o’r gynulleidfa.
Student Communications Officer
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University