Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd ail gam Her Beiciau Santander y Prifysgolion, gan guro cystadleuaeth gref gan 22 o brifysgolion eraill yn y DU.
Pum prifysgol yn unig allan o’r 23 o brifysgolion a gymerodd ran yn y gystadleuaeth sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol lle bydd Prifysgol Abertawe’n cystadlu yn erbyn Birmingham, Brunel University London, Surrey a Portsmouth mewn cystadleuaeth ddwys i godi arian trwy ymgyrchoedd ariannu torfol.
Bydd y ddwy brifysgol sy’n codi’r canran uchaf o arian uwchben eu targed cychwynnol yn ennill y wobr chwenychedig o offer ac isadeiledd gwerth £100,000 i sefydlu cynllun rhannu beiciau i’w prifysgol a’u cymuned.
Mae’r gystadleuaeth newydd sbon a lansiwyd ym mis Mawrth gan Santander a’i bartneriaid Nextbike a Crowdfunder wedi’i seilio ar agwedd chwyldroadol at ariannu a chynnal cynlluniau rhannu beiciau o fewn cymunedau ledled y DU. Trwy gyfuno’r gwaith o ddarparu adnoddau a gwasanaethau ymgynghori ag ariannu torfol, mae Santander yn ailddiffinio’r ffordd y mae cwmnïau’n noddi cynlluniau beiciau.
Meddai Matt Hutnell o Brifysgolion Santander:
“Mae Santander yn ymrwymedig i gefnogi addysg uwch a chymunedau lleol ar draws y DU, a chredwn y gallai cynllun beiciau fel yr un hwn, gynnig buddion sylweddol i’r sefydliadau buddugol.
“Gwelsom safon uchel iawn o geisiadau gan lawer o brifysgolion, felly bu’n dipyn o her i’r panel beirniadu ddewis cystadleuwyr y rownd derfynol. Mae lefel y diddordeb wedi amlygu brwdfrydedd ar gyfer cynlluniau beiciau a gobeithiwn y bydd pwy bynnag sy’n ennill yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd ar y campws.”
Mae cais Abertawe yn y gystadleuaeth wedi cynnwys myfyrwyr y Brifysgol yn gweithio’n agos gyda staff mewn ymgais i ddod â’r cynllun wedi’i gefnogi gan Santander i Abertawe. Trwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth, bu myfyrwyr yn dysgu sgiliau newydd ac yn ennill profiad gwerthfawr yn ogystal â chael y cyfle i wneud cyfraniad cadarnhaol hirdymor i’r gymuned leol a’r gymuned ar y campysau.
Meddai un o Hyrwyddwyr y Cynllun Beiciau, James Carlos, sy’n fyfyriwr ôl-raddedig yn y Coleg Peirianneg:
“Bu cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn brofiad anhygoel. Bu’n gydweithrediad go iawn rhyngom ni a’r partneriaid Santander, Nextbike a Crowdfunder, sydd wedi cynnig cymorth ymgynghorol a chyngor amhrisiadwy i ni wrth ddatblygu’n cynlluniau ar gyfer cynllun rhannu beiciau pwrpasol a fydd yn gwneud gwahaniaeth i’r gymuned gyfan drwy gynnig ffordd gyflym a fforddiadwy o deithio o gwmpas y ddinas i staff a myfyrwyr y Brifysgol a phreswylwyr lleol ac ymwelwyr.
“Rydym wedi buddsoddi llawer o egni yn y gystadleuaeth hyd yn hyn ac rydym wrth ein boddau ein bod wedi cael ein dewis i fynd ymlaen i’r cam nesaf. Nawr bydd y gwaith caled yn dechrau o ddifrif. Mae gennym lawer i’w wneud nes y byddwn yn cyrraedd ein targed ac yn ennill y gystadleuaeth drwy guro cystadleuwyr cryf gan y pedair prifysgol arall yn y DU. Ond rydym yn hyderus y gallwn annog cyd-fyfyrwyr, staff y Brifysgol ac aelodau’r gymuned leol i fuddsoddi yn y cynllun rhannu beiciau hwn i’r Ddinas.”
Os bydd Prifysgol Abertawe’n fuddugol, caiff y cynllun rhannu beiciau ei lansio ym mis Mawrth 2018, gan ddod â llu o fuddion i’r gymuned gyfan. Dyma gynllun ar gyfer y Ddinas gyfan y bydd pawb, gan gynnwys ymwelwyr, yn cael mynediad ato. Nod y cynllun yw cysylltu Campws y Bae a Champws Parc Singleton y Brifysgol, gan gynnig 50 o feiciau mewn 100 o orsafoedd mewn 5 o hybiau wedi’u lleoli ar hyd y prif lwybr beicio yn Abertawe. Lleolir hyb ar y ddau gampws a’r tri arall rhwng y Ganolfan Ddinesig, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac ar safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian.
Meddai Craig Nowell, Cyfarwyddwr Ystadau a Rheoli Cyfleusterau a Chyfrifoldeb Corfforaethol ym Mhrifysgol Abertawe:
“Mae’n bleser gennym gyrraedd rownd derfynol Her Beiciau Santander y Prifysgolion. Mae ein tîm o staff a myfyrwyr yn y Brifysgol wedi gweithio’n galed iawn i baratoi cynnig am gynllun rhannu beiciau cynaliadwy a fydd o fudd i Abertawe yn ei chyfanrwydd: staff a myfyrwyr y Brifysgol, preswylwyr lleol, ymwelwyr â’r ardal a busnesau fel ei gilydd.
“Dyma gyfle gwych i Abertawe a’r Brifysgol. Bydd ennill y gystadleuaeth mewn partneriaeth yn ein galluogi i ddod â chynllun rhannu beiciau ymarferol i’r Ddinas a fydd yn cynnig amrywiaeth eang o fuddion i’r gymuned gyfan. Credwn y bydd hyn yn ein helpu i leihau ein hôl-troed carbon, lleihau traffig yn y ddinas a chyfrannu at iechyd a lles ein cymuned.
“Ond ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Rhwng nawr a dyddiad cau’r ariannu torfol, sef yr 8 fed o Ragfyr, rydym yn annog holl gymuned Abertawe i gefnogi’r gweithgaredd ariannu torfol hwn. Nid oes angen i chi wneud cyfraniad enfawr i’r cynllun. Bydd pob rhodd, boed yn fawr neu’n fach, yn ein helpu i guro’r gystadleuaeth a dod â’r cynllun ardderchog hwn i gymuned Abertawe.”
Bydd yr ymgyrch ariannu torfol yn rhedeg o ganol nos ar 6 Tachwedd tan ganol nos ar 8 Rhagfyr 2017 a bydd y ddau sefydliad buddugol yn lansio eu cynlluniau yn y Gwanwyn ym 2018. I ganfod mwy a mynegi’ch diddordeb yn yr ymgyrch, ewch i’r tudalennau gwe a chofrestru ar gyfer cylchlythyr yr ymgyrch: www.swansea.ac.uk/bikescheme.
Student Communications Officer Mercher Medi 27th, 2017
Posted In: Newyddion Campws, Travel, [:en]Offers[:cy]Cyfleoedd[:]
Student Communications Officer
Posted In: Newyddion Campws
Mae Root wedi dychwelyd i Gampws Parc Singleton gyda siop barhaol wedi’i lleoli ar lawr gwaelod Tŷ Fulton!
Gweithredir y siop newydd drwy bartneriaeth â’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr, ac mae’n dod â’r holl ddanteithion yr oedd ein siop dros dro yn eu cynnig yn ôl gan gynnwys y fargen pryd fegan, cacen y dydd, Mr Nice Pies ac ystod o brydau o Govindas, caffi fegan a llysieuol gorau Abertawe.
Yn ogystal â’r hen ffefrynau, mae’r siop wedi’i hadnewyddu’n llwyr yn cynnig ystod newydd a chyffrous o gynnyrch llysieuol a fegan iach gan gynnwys uwd boreol, cawl poeth, smwddis ffres a phob math o fwydydd iach.
Ac rydym yn sicr eich bod yn mynd i fwynhau’r bar salad ffres a’r cownter bwyd poeth, ein hystod newydd o gynnyrch tŷ eco, ac yn enwedig ein horiau agor estynedig yr ydym ar hyn o bryd yn eu treialu. Dewch i mewn i’n gweld ni rhwng 8.30am a 6pm Dydd Llun i Ddydd Sadwrn!
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi’n ôl!
Student Communications Officer
Posted In: Newyddion Campws
Rydym yn gobeithio eich bod chi wedi cael cyfle i ymweld â’n siop Costcutter* ar ei newydd wedd yn Nhŷ Fulton.
Rydym yn hynod o falch o’r amrediad o gynnyrch a’r cynllun siop newydd ac rydym hefyd yn falch yr wythnos hon o agor ein gwasanaeth Swyddfa Bost newydd o fewn y siop.
Bydd amseroedd agor y Swyddfa Bost yr un fath ag amseroedd agor yr archfarchnad sy’n golygu y gall myfyrwyr, staff ac ymwelwyr i’r campws fanteisio ar wasanaeth sydd ar agor saith diwrnod yr wythnos gydag oriau agor gryn dipyn yn hirach.
Oriau Agor
Mae’r ystod helaeth o wasanaethau’r Swyddfa Bost sydd ar gael yn cynnwys:
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r siop cysylltwch â MyCostcutter: Ffôn: 01792295473, E-bost emmasnaydon@swansea-union.co.uk.
*Gweithredir Costcutter drwy bartneriaeth rhwng y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr gyda’r holl elw’n cael ei ail-fuddsoddi i brofiad y myfyriwr.
Student Communications Officer Mawrth Medi 26th, 2017
Posted In: Newyddion Campws, Negeseuon
Dyma’r lle y gallwch ofyn cwestiynau, rhannu syniadau a chodi materion gyda’ch cyfoedion a’ch grŵp pwnc.
Gellir actifadu eich cyfrif ar ôl i chi gofrestru ar swansea.unitu.co.uk/activate
Y llynedd, o ganlyniad i’r materion a drafodwyd gan Unitu, cafodd y newidiadau canlynol eu gweithredu ar gyfer myfyrwyr:
Cliciwch yma i ddarllen mwy o wybodaeth am Unitu.
Student Communications Officer Llun Medi 25th, 2017
Posted In: Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University