Mae cannoedd o bobl ifanc yn marw bob blwyddyn o gyflwr calon heb ei ganfod.
Peidiwch â mentro, trefnwch i sgrinio’r galon heddiw!
Sgrinio ar gael i HOLL staff Prifysgol Abertawe, Myfyrwyr a defnyddwyr y Pentref Chwaraeon oed 18-35.
Ble: Canolfan Chwaraeon Prifysgol Abertawe
Pa bryd: Chwefror 17eg 2018 9yb-4.30yh
Cost: £10 y pen
Nid oes llawer o leoedd ar ôl a chânt eu dyrannu ar sail cyntaf i’r felin caiff falu.
Am fwy o wybodaeth am Sgrinio Cardiaidd a gwaith Calonnau Cymru ewch ar www.Welshhearts.org
Archebwch eich apwyntiad drwy e-bostio Leanne – L.J.Brake@Swansea.ac.uk
Student Communications Officer Llun Ionawr 29th, 2018
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Llesiant, [:en]Offers[:cy]Cyfleoedd[:]
Mae Gwasanaethau Cwsmer Rheoli Ystadau a Chyfleusterau wedi symud o Ganolfan Wybodaeth y Tŵr i’n cartref newydd ar lawr cyntaf Adeilad Nanhyfer ar Gampws y Bae.
Dyma ein cyfeiriad newydd:
Rheoli Ystadau a Chyfleusterau
Ystafell 107, Adeilad Nanhyfer
Llawr 1af
Campws y Bae
SA1 8EN
Mae ein lleoliad yng Nghampws Parc Singleton yn aros yr un fath – 4ydd Llawr Adeilad Tŷ’r Undeb.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan.
www.swansea.ac.uk/cy/cynnwys/llywioedrychyddion/staff/ystadauarheolicyfleusterau
Student Communications Officer
Posted In: Newyddion Campws, Negeseuon
Mae’r gwasanaeth arlwyo’n awyddus i gael eich barn ar y gwasanaethau a ddarparwn i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr â champws Prifysgol Abertawe.
Byddem yn ddiolchgar pe gallech gymryd ychydig funudau i gwblhau holiadur ar-lein i rannu’ch barn. Does dim gwahaniaeth os nad ydych yn defnyddio gwasanaethau Arlwyo ar y Campws ar hyn o bryd, hoffem glywed eich barn ta beth.
Cliciwch ar y ddolen isod ar gyfer yr arolwg – ni ddylai gymryd mwy na 10 munud i’w gwblhau. Bydd eich atebion yn gwbl gyfrinachol.
https://www.surveymonkey.co.uk/r/DC5YDMC
Diolch yn fawr iawn am eich help, ac edrych ymlaen at dderbyn eich barn.
Student Communications Officer
Posted In: Amrywiol, Arolygon ac Astudiaetha
Bydd y Swyddfa Anableddau ar gau ddydd Llun 29 Ionawr 2018 ar gyfer hyfforddiant staff.
Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Student Communications Officer
Posted In: Negeseuon
Woman of Flowers
Yr wythnos hon, mae gennym ffilm Ffrangeg hyfryd i ddechrau’r wythnos – Happy End (15), a enwebwyd am y Palme d’Or yn Cannes yn 2017. Am dair noson o nos Iau, bydd cyfle i weld Woman of Flower, dehongliad barddonol trawiadol o fyth Blodeuwedd o’r Mabinogi (drama Saesneg). Yn olaf, ar nos Sul byddwn yn croesawu The Railsplitters, band tir glas tra gwahanol o Colorado…
Student Communications Officer
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University