Bydd Varsity yn cael ei gynnal yn Abertawe eleni, gyda brwydr fawreddog Rygbi Dynion yn cael ei chwarae yn Stadiwm Liberty.
Bydd timau chwaraeon Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd yn mynd benben â’i gilydd yn nigwyddiad mwyaf y flwyddyn.
Trwy gydol yr wythonos, bydd myfyrwyr yn cystadlu mewn dros 40 o gampau gwahanol er mwyn ennill Tarian Varsity, gan gynnwys Frisbee Eithafol, nofio, golff, cleddyfaeth, sboncen, pêl-fasged a hoci.
Bydd y rhan fwyaf o’r gemau yn cael eu chwarae yn y Pentref Chwaraeon ar Lôn Sgeti ar 25ain Ebrill, cyn ffeinal mawr y rygbi yn Stadiwm Liberty am 7pm.
Byddwn ni’n brwydro i gipio Tarian Varsity unwaith eto eleni, ar ôl ei hennill am y tro cyntaf yn hanes Varsity y llynedd.
Meddai Gwyn Aled Rennolf, Swyddog Chwaraeon Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe: “Rydym yn falch iawn o fod yn croesawu Varsity nôl i Abertawe eleni. Mae ein cefnogwyr bob tro’n calonogi’n chwaraewyr, ond mae rhywbeth arbennig iawn am chwarae o flaen cefnogwyr cartref. Mae’n chwaraewyr wedi bod yn hyfforddi’n galed dros y misoedd diwethaf, felly rydym yn hyderus y byddwn yn cadw’r Darian yn Abertawe”.
Ymuno â’n digwyddiad ar Facebook.
Student Communications Officer Mercher Ionawr 31st, 2018
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?
Yn ystod Rhaglen Ddatblygu Campws uchelgeisiol y Brifysgol, bydd yna weithgarwch adeiladu a datblygu parhaus yn digwydd ar draws ein campysau.
Rydym yn cydweithio â rhanddeiliaid allweddol i leihau’r effaith ar ddefnyddwyr y campws.
Diolchwn i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Os oes gennych bryder am y gweithgaredd adeiladu presennol, cysylltwch â thîm Gwasanaethau Cwsmer yr Adran Rheoli Ystadau a Chyfleusterau ar (29) 5240 neu e-bostiwch: wshelpdeskmb@swansea.ac.uk.
Os oes gennych ymholiad cyffredinol, eisiau gwybodaeth am ein prosiectau neu os hoffech gynnig adborth ar ein datblygiadau campws e-bostiwch campusdevelopment@swansea.ac.uk neu ewch i www.swansea.ac.uk/cy/datblygur-campws.
Student Communications Officer
Posted In: Newyddion Campws, Negeseuon
Mae’r Gwasanaeth Llwyddiant Mathemateg ac Ystadegau (MASS) ar gael i’r holl fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe y mae angen cymorth arnynt ag elfen fathemateg/ystadegau eu cyrsiau.
Does dim gwahaniaeth a yw mathemateg/ystadegau’n elfen fach neu’n elfen fawr o’ch cwrs. Trefnir sesiynau galw heibio anffurfiol yn ystod yr wythnos ar Gampws Parc Singleton a Champws y Bae – nid oes angen apwyntiad. Darperir yr holl gymorth gan fyfyrwyr hyfforddedig.
Cynhelir sesiynau cyffredinol ar Gampws Parc Singleton ddwywaith yr wythnos yn Ystafell 405 y Llyfrgell, ac maent yn agored i bawb – fe’i cynhelir am 1pm/3pm ar ddydd Llun ac am 2/4pm ar ddydd Mercher. Yma bydd myfyrwyr o’r Adran Fathemateg yn cynnig cymorth ac arweiniad. Ar y campws hwn hefyd, cynigir cymorth mwy arbenigol gan Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd a’r Adran Ffiseg. Darperir cymorth penodol hefyd i fyfyrwyr nyrsio sy’n astudio ar Gampws Parc Dewi Sant yng Nghaerfyrddin.
Ar Gampws y Bae, cynigir cymorth arbenigol yn y Caffi Mathemateg, sy’n cael ei drefnu gan y Coleg Peirianneg. Mae’r Ysgol Reolaeth yn cynnig sesiynau galw heibio hefyd yn ystod yr wythnos.
Ategir y sesiynau galw heibio gan adnoddau dysgu ar-lein sydd ar gael ar Blackboard.
http://www.swansea.ac.uk/cy/amrywiol/adran-gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr/mass/
Student Communications Officer
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Amrywiol
Cynhelir y sesiynau cynefino ystafell ymarfer cerdd Campws y Bae nesaf rhwng 3pm-4pm ar ddydd Mercher 7 Chwefror. Bydd y broses gynefino’n cymryd ychydig dros 15 munud. Rhaid i bawb sy’n dymuno cymryd rhan gofrestru ar gyfer un o’r slotiau 4×15 munud drwy ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost Prifysgol drwy’r ddolen hon:
Student Communications Officer Llun Ionawr 29th, 2018
Posted In: Newyddion Campws, Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?
Mae cardiau a wneir â llaw nawr ar gael gan Darganfod! Maent yn costio £1.50 yr un a cheir amrywiaeth o ddyluniadau hwyliog i rai mwy difrifol, yn ogystal ag opsiynau sy’n gyfeillgar i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol. Caiff y cardiau hyn eu dylunio a’u creu gan oedolion gydag anableddau ac mae’r holl elw yn mynd tuag at waith Darganfod.
ebost: Kirsty Rowles k.rowles@swansea.ac.uk www.swansea.ac.uk/discovery
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University