Bydd y Gwasanaeth Lles a’r Swyddfa Anabledd ar gau o Ddydd Llun Medi 3ydd 2018 i Ddydd Iau Medi 6ed 2018 ar gyfer hyfforddiant staff.
Mewn achosion brys, cysylltwch â’r meddyg teulu priodol neu GIG Cymru ar 111
Bydd y gwasanaethau’n ail-agor ar 07 Medi 2018.
Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.
Student Communications Coordinator Iau Awst 30th, 2018
Posted In: Newyddion Campws, Negeseuon, Llesiant
Fe fydd MyUniHub ar gau ar ddydd Mercher 29fed Awst ar gyfer hyfforddiant staff. Bydd y gwasanaeth yn ailagor ar ddydd Iau 30fed Awst am 09.00yb. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Student Communications Officer Mawrth Awst 28th, 2018
Posted In: Newyddion Campws, Negeseuon
Enillydd Cyffredinol: “Crab blood and collaborations” gan Frances Ratcliffe
Dyma ymchwil ar wedd hollol newydd. Bydd saith llun syfrdanol o’n cystadleuaeth Ymchwil fel Celf, a’r straeon tra diddorol y tu hwnt iddynt, yn cael eu harddangos yn y Sefydliad Brenhinol yn Llundain. Bydd yr arddangosfa am ddim ar agor i’r cyhoedd o’r wythnos hon, am tua thri mis. (more…)
Student Communications Officer
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Amrywiol
Bydd y Siop Deithio yn Nhŷ Fulton ar gau ar Ddydd Gwener 17eg Awst. Bydd y gwasanaeth yn ail-agor am 9.30yb ar Ddydd Llun 20fed Awst.
Student Communications Officer Mercher Awst 15th, 2018
Posted In: Newyddion Campws, Negeseuon, Amrywiol
Hoffai Imam Mosg Prifysgol Abertawe, Pwyllgor Rheoli Mosg Prifysgol Abertawe a’r Gymdeithas Islamaidd wahodd staff, myfyrwyr a’r cyhoedd i ddathlu diwrnod olaf gŵyl addoli Dhul Hijjah.
Dyddiad: Dydd Mawrth, 21 Awst 2018
Amser: 7:30am-9:00am – gweddïo’r Salah am 7:55am
Lleoliad: Ffreutur Tŷ Fulton, Prifysgol Abertawe, SA2 8PP
(https://www.swansea.ac.uk/media/campusplan.pdf)
Arall: Croeso cynnes i bawb. Mynediad am ddim. Darperir lluniaeth.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Dr Mahaboob Basha, Swyddog Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol yn y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (REIS) drwy ffonio 606754 neu 07808 203990, neu drwy e-bostio m.basha@swansea.ac.uk.
Student Communications Coordinator
Posted In: Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University