Yr wythnos nesaf, bydd dinasyddion ar draws y byd yn addo gwneud un newid i wella iechyd eu calon neu iechyd calon eraill. Bydd addewidion ysgrifenedig ar gyfryngau cymdeithasol yn danogs ymrwymiad am newid! (more…)
Student Communications Officer Mawrth Medi 25th, 2018
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Amrywiol, Llesiant
Mae Prifysgol Abertawe wedi codi chwe safle i fod ymhlith y 30 gorau yn y Deyrnas Gyfunol yng Nghanllaw Prifysgolion Da The Times and The Sunday Times 2019 – ei safle uchaf erioed.
Yn ogystal, daeth Prifysgol Abertawe’n ail yng ngwobr Prifysgol y Flwyddyn y Deyrnas Gyfunol yn gyffredinol, ac enillodd wobr Prifysgol y Flwyddyn Cymru am yr ail dro mewn tair blynedd, gan atgyfnerthu ei safle fel sefydliad addysg uwch blaenllaw Cymru.
Mae Canllaw Prifysgolion Da The Times and The Sunday Times yn graddio prifysgolion ar sail naw dangosydd, gan gynnwys boddhad myfyrwyr ag ansawdd addysgu a’u profiad ehangach fel myfyrwyr; ansawdd ymchwil; rhagolygon graddedigion; cymwysterau mynediad myfyrwyr newydd; canlyniadau gradd a gyflawnwyd; cymarebau myfyrwyr/staff; gwariant ar wasanaethau a chyfleusterau; a chyfraddau cwblhau gradd.
Mae cryfderau’r Brifysgol o ran rhagolygon graddedigion a boddhad myfyrwyr wedi bod yn ffactorau mawr yn llwyddiannau eleni, gan gymryd Abertawe i’r 30 uchaf am y tro cyntaf ers y cyhoeddwyd y canllaw gyntaf ym 1993.
Mae Campws y Bae, campws newydd 65 erw, wedi bod yn gatalydd ar gyfer ehangu ym Mhrifysgol Abertawe ers ei agor yn 2015, ac mae wedi hybu cynnydd sylweddol yn y nifer o fyfyrwyr. Mae cynnydd o 50% wedi bod yn y nifer o fyfyrwyr yn y Brifysgol dros y pedair blynedd diwethaf, gyda’r nifer o fyfyrwyr sy’n dechrau gradd yn Abertawe yn cyrraedd y lefel uchaf erioed.
Mae’r anrhydeddau diweddar yng Nghanllaw Prifysgolion Da The Times and Sunday Times yn dilyn blwyddyn o lwyddiannau digynsail i Brifysgol Abertawe:
Wrth siarad am wobr Prifysgol y Flwyddyn Cymru Prifysgol Abertawe, dywedodd Alastair McCall, golygydd Canllaw Prifysgolion Da The Times and The Sunday Times 2019The Sunday Times:
“Mae llwyddiant Abertawe fel Prifysgol y Flwyddyn Cymru a chyrraedd ail safle gwobr Prifysgol y Flwyddyn y Deyrnas Gyfunol yn gydnabyddiaeth am raddfa’r trawsffurfiad cadarnhaol yn y brifysgol dros y pum mlynedd diwethaf.
“Yn ffisegol, bron na ellir ei hadnabod o’r sefydliad y bu, ac yn academaidd, mae’n adeiladu ar gryfderau blaenorol ac yn datblygu rhai newydd. Mae’r campws newydd yn un o’r gorau ym Mhrydain, ac mae gwaith i uwchraddio Campws gwreiddiol Parc Singleton bellach ar y gweill. Nid oes rhyfedd bod cofrestriadau ar y lefelau uchaf erioed.”
Dywedodd yr Athro Richard B. Davies, is-ganghellor Prifysgol Abertawe:
“Mae hon wedi bod yn flwyddyn aruthrol i Brifysgol Abertawe o ran cydnabyddiaeth. Mae’r cyflawniadau hyn oll yn enghreifftiau clir o ymrwymiad ac ymroddiad fy nghydweithwyr ar draws y Brifysgol, y maent yn gweithio’n ddiflino i sicrhau ein bod yn cynnig y gorau posib i’n myfyrwyr ym mhob agwedd ar eu bywyd prifysgol.
“Mae’r anrhydeddau hefyd yn atgyfnerthu ein safle fel prifysgol fyd-eang o’r safon uchaf sy’n darparu addysgu o’r ansawdd uchaf, ymchwil sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang a phrofiad gwych i fyfyrwyr. Abertawe yw’r Brifysgol orau yng Nghymru, ac ar ben hynny mae ymhlith y sefydliadau gorau yn y Deyrnas Gyfunol, ac mae’n arwain y ffordd ar y llwyfan rhyngwladol.”
Caiff Canllaw Prifysgolion Da The Times and The Sunday Times 2019 ei gyhoeddi yn The Sunday Times ar ddydd Sul, 23 Medi, gydag atodiadau chanllawiau pwnc pellach yn The Times ar ddydd Llun a dydd Mawrth, 24 a 25 Medi. Byddant yn canolbwyntio ar y prifysgolion gorau o ran ansawdd addysgu a phrofiad myfyrwyr a’r prifysgolion sy’n cyrraedd y brig mewn meysydd pwnc gwahanol.
Student Communications Officer Llun Medi 24th, 2018
Posted In: Negeseuon
Rydym wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Prifysgol y Flwyddyn yng Ngwobrau Times Higher Education, a hoffem i chi fod yn rhan o’n fideo hyrwyddo sy’n dangos Abertawe ar ei gorau.
Mae angen tua 80 o fyfyrwyr arnom i ffurfio siâp calon ar ddôl yr Abaty ar gampws Parc Singleton am 6.15pm heddiw, gan y bydd drôn yn hedfan uwcheben i ffilmio’r siâp. (more…)
Student Communications Officer
Posted In: Newyddion Campws, Negeseuon
Sefydliad Diwylliannol, Prifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â Parthian Books
Llyfrau Newydd AM DDIM Ar Draws Abertawe!
21-29 Medi (more…)
Student Communications Officer
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Amrywiol, Cynigio
Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Beicio Cymru (rhan o Beicio Prydain) a hoffem wahodd staff a myfyrwyr i wneud cais i ddod yn Arweinwyr Beicio ar gyfer y Brifysgol.
Rydym yn chwilio am 10 o Arweinwyr Beicio i gyd. Nid oes rhaid i chi fod yn arbenigwr, neu’n feiciwr proffesiynol, yr oll sydd ei angen yw brwdfrydedd a rhywun sy’n fodlon cefnogi dechreuwyr. (more…)
Student Communications Officer
Posted In: Sustainability, Travel
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University