Beth am wneud y mwyaf o’r tywydd hyfryd ac ymuno â’n Harweinwyr Teithio’r dydd Gwener hwn (1 Mawrth) ar eu taith feics? Bydd gyrwyr yn dechrau am 12:30 o Gampws Parc Singleton a’r Bae, gan wneud eu ffordd i Gaffi’r Ganolfan Amgylchedd, ble y byddant yn mwynhau paned o de neu goffi Masnach Deg er mwyn nodi Pythefnos Masnach Deg
Bydd gyrwyr yn cwrdd yng Ngorsafoedd Beic Santander ar Gampws Parc Singleton (i’r ochr o Dŷ Fulton) a’r Bae (tu allan i’r Ysgol Reolaeth) gan fynd ar eu hegwyl cinio haeddiannol yn yr awyr iach.
Mae croeso i bawb – staff, myfyrwyr a’r gymuned, nid oes ots am eich gallu beicio – felly rhannwch y neges a chymerwch ran. Yr holl sydd angen yw cofrestru ar gyfer y daith feics ar wefan letsride.co.uk Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer y daith feics o Singleton a chliciwch yma i gofrestru ar gyfer y daith feics o Gampws y Bae.
Os nad oes gennych eich beic eich hun, nid yw’n broblem. Gallwch ddefnyddio un o Feics Santander poblogaidd drwy gofrestru yma a dod i ddewis beic o un o’n lleoliadau hwylus, sy’n cynnwys Campysau Parc Singleton a’r Bae
Gobeithiwn eich gweld yno ar ddydd Gwener, 1 Mawrth!
Student Partnership and Engagement Manager Mercher Chwefror 27th, 2019
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Negeseuon, Sustainability, Travel
Y Neuadd Fawr, Campws Y Bae
Nos Fercher 20 Mawrth 6.30pm
Bydd myfyrwyr cerddoriaeth Prifysgol Abertawe a’u cyfeillion yn cyflwyno cyngerdd amrywiol o unawdau offerynol a lleisiol, deuawdau a cherddoriaeth siambr.
Nod ein rhaglen ysgoloriaeth yw annog a meithrin doniau cerddorol ein myfyrwyr, ac mae cyngerdd blynyddol y Canghellor yn rhoi llwyfan i’w sgiliau fel cantorion a cherddorion.
Hyd: 70 munud, dim egwyl.
Pris Tocynnau – £10, Gostyngiadau – £8, Myfyrwyr ac Ysgolion – £5
Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau – 01792 604900/604999
Student Communications Coordinator Mawrth Chwefror 26th, 2019
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?
Mae Gwobr James Bartley mewn Darllen Saesneg yn cael ei dyfarnu gan Senedd y Brifysgol i’r myfyriwr sy’n cyrraedd y safon uchaf mewn darllen Saesneg mewn cystadleuaeth sy’n agored i holl fyfyrwyr y Brifysgol. Cynhelir y gystadleuaeth ar y dyddiad uchod. Bydd gofyn i gystadleuwyr ddarllen darn a ddewisir gan y panel o feirniaid. (more…)
Student Communications Officer
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Negeseuon
Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bob un ohonoch sydd wedi ein helpu ni i ragori ar nifer y rhoddwyr a fynychodd ein Sesiwn Rhoi gwaed diweddar yn Prifysgol Abertawe.
Llwyddom i ddenu 373 o roddwyr dros y 5 diwrnod, gyda 327 o roddion wedi’u gwneud, swm anhygoel o 134 o roddwyr newydd, a 37 o bobl wedi cofrestru i gael eu rhoi ar y gofrestr mêr esgyrn.
Diolch yn fawr unwaith eto am eich holl gefnogaeth!
Student Communications Officer Llun Chwefror 25th, 2019
Posted In: Negeseuon
Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau’n paratoi arddangosfa ar Arloesedd yng Nghymru i’w chynnal o ganol mis Hydref 2019 tan fis Mawrth 2020. O gofio safon a graddfa’r Ymchwil a’r Arloesedd a geir ym Mhrifysgol Abertawe, maent wedi cynnig cyfle euraidd i ni arddangos rhai o’r newyddbethau sy’n deillio o rhai o’n prosiectau ymchwil presennol.
Y llynedd, croesawodd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau dros 280,000 o ymwelwyr. Am gyfnod yr arddangosfa hon, disgwylir i oddeutu 100,000 o ymwelwyr ddod i weld yr arddangosfa. Bydd yr amgueddfa’n talu am baneli’r arddangosfa, a chaiff unrhyw wrthrychau a ddarperir eu harddangos yn ddiogel.Maent hefyd yn agored i’r posibilrwydd o gynnal seminarau lle gallech gyflwyno eich Newyddbeth i’r cyhoedd.
Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael – er mwyn cael y cyfle i gyfrannu, gofynnir i gychwyn am:
Ymatebwch yn uniongyrchol i Ian Smith: Ian.smith@museumwales.ac.uk
Student Communications Officer
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University