Mae gwerth hanner canrif o bethau cerddorol cofiadwy a thrawiadol yn helpu Abertawe i ddathlu ei hanner canmlwyddiant cyntaf ers iddi ennill statws dinas. (more…)
Student Communications Officer Llun Medi 30th, 2019
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Amrywiol
Bydd criw ffilmio yn defnyddio rhan o’r recreation ground rhwng dydd Llun 30 Medi 2019, gan arwain at golli rhai mannau parcio dros dro.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’n tîm Gwasanaethau Cwsmer drwy’r cyfeiriad e-bost canlynol: estates-customerservices@swansea.ac.uk
Student Partnership and Engagement Manager Gwener Medi 27th, 2019
Gwnewch gais i fod yn Llysgennad Myfyrwyr ar gyfer y Flwyddyn Academaidd 2019-20.
Dyddiad cau: Dydd Iau 3 Hydref 2019.
MAE CYMAINT O RESYMAU DROS DDOD YN FYFYRIWR LLYSGENNAD YM MHRIFYSGOL ABERTAWE:
1. Cynllun Myfyrwyr Llysgennad cyflogedig gyda hyfforddiant llawn wrth ennill profiadau gwych i’w hychwanegu ar eich CV.
2. Cwrdd â ffrindiau newydd a chynrychioli Prifysgol Abertawe mewn amryw o ddigwyddiadau; bydd cyfleoedd i weithio mewn adrannau arall ar draws y Brifysgol hefyd.
3. Digwyddiadau cymdeithasol drwy gydol y Flwyddyn Academaidd.
4. Cyfle i ymgeisio i fod yn Uwch-fyfyriwr Llysgennad ar ôl blwyddyn fel Myfyriwr Llysgennad.
5. Gweithio tuag at Wobr Llysgennad y Swyddfa Recriwtio Myfyrwyr ac Achrediad WOWee gydag Academi Cyflogadwyedd Abertawe a gydnabyddir ar eich tystysgrif HEAR wrth raddio.
Cyfweliadau Grŵp: Dydd Llun 7 Hyfref – Dydd Mercher 9 Hydref 2019.
Hyfforddiant Llysgenhadon Myfyrwyr Gorfodol i ymgeiswyr llwyddiannus: Dydd Sadwrn 12 Hydref 2019.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â studentambassadors@swansea.ac.uk
Student Partnership and Engagement Manager
Posted In: Newyddion Campws, Negeseuon
Mae’n Wythnos Llyfrgelloedd rhwng yr 7 a’r 12 o Hydref! Y thema yw ‘Dathlu llyfrgelloedd mewn byd digidol’. Mae Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe’n cynnal ‘5 Niwrnod yn y Llyfrgell’ #SU5DoL i helpu myfyrwyr i wneud y gorau o’n hadnoddau digidol a’n gwasanaethau llyfrgell eraill. Cofrestrwch ar gyfer ein blog https://libguides.swansea.ac.uk/blog/ er mwyn derbyn neges newydd bob dydd o’r wythnos. Gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter ac Instagram gyda’r hashnod #su5dol.
Hoffem eich gweld chi wyneb yn wyneb hefyd! Dewch i’n sesiynau galw heibio yn y llyfrgelloedd ar Gampws y Bae a Champws Parc Singleton i gwrdd â staff y llyfrgell a chael rhagor o wybodaeth am ein hadnoddau a’n cymorth digidol. Hefyd gallwch ganfod sut y gall ein cydweithwyr yn y Ganolfan Llwyddiant Academaidd eich helpu chi. Mae croeso i bawb, nid oes angen archebu, byddwn yn darparu ar gyfer gwahanol anghenion dietegol!
Cacennau yn y Cwtsh rhwng 10.00-14.00 ar ddydd Mawrth ar 8 o Hydref.
Cacennau yn y Caffi rhwng 14.00-16.00 dydd Iau’r 10 o Hydref.
Student Communications Coordinator Iau Medi 26th, 2019
Posted In: Amrywiol
Gydag aelodaeth myfyrwyr yn dechrau am gyn lleied â £18.99 y mis, bydd gan aelodau fynediad i’r canlynol: (more…)
Student Communications Officer Mercher Medi 25th, 2019
Posted In: Cynigio
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University