Cymerwch ran a rhannu eich barn yn Arolwg Ymchwil Iechyd Meddwl Share UK.
Gofynnir yn garedig i chi gymryd 5-10 munud i’n helpu ni i ddeall sut all ymchwil y dyfodol ateb y cwestiynau sydd o bwys i chi.
👉Ewch i https://www.surveymonkey.co.uk/r/2S3YMX5
@ADPMentalHealth
Student Communications Coordinator Gwener Rhagfyr 20th, 2019
Posted In: Negeseuon, Arolygon ac Astudiaetha
Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi y bydd Oriel Science unwaith eto yn cynnal “Gwyddoniaeth Wych Abertawe” ddydd Sul 8 Mawrth 2020 yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, yn ystod Wythnos Wyddoniaeth Prydain (6-15 Mawrth 2020). Oes gennych ddiddordeb mewn cael stondin, cynnal gweithdy neu roi sgwrs yn y digwyddiad hwn? Os felly, darllenwch ymlaen.
Mae “Gwyddoniaeth Wych Abertawe” yn adeiladu ar lwyddiant ein harddangosfa dros dro, a oedd ar agor rhwng mis Medi 2016 a mis Mehefin 2017 yng nghanol dinas Abertawe ac a ddenodd 17,000 o ymweliadau gan y cyhoedd a myfyrwyr ysgol. Ers yr arddangosfa dros dro, mae Oriel Science wedi bod yn rhan o dros 100 o ddigwyddiadau, gan ryngweithio â mwy na 100,000 o bobl. Mae’r rhain yn cynnwys gweithdai mewn ysgolion, Sioe Awyr Abertawe, Eisteddfod yr Urdd, Gŵyl Ymylol Abertawe a gwyliau gwyddoniaeth yn Abertawe, Merthyr a Chaerdydd, arddangosfeydd mewn amgueddfeydd ac Oriel Gelf Glynn Vivian, yn ogystal â sgyrsiau mewn ysgolion a llyfrgelloedd a’n ‘Caffi Oriel Science’ misol yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Cyfrannodd dros 22 grŵp ymchwil o bob rhan o’r Brifysgol at ein digwyddiad Sul Gwyddonol Gwych ar 10 Mawrth 2019, a chroesawyd 3,600 o ymwelwyr mewn pum awr yn unig!
Rydym yn eich gwahodd i ymuno ag Oriel Science i hyrwyddo eich ymchwil i’r gymuned yn y digwyddiad ‘Gwyddoniaeth Wych Abertawe’. Rydym yn croesawu syniadau arddangos sy’n ymwneud ag unrhyw weithgaredd STEMM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg, Meddygaeth).
Cyflwynwch eich cynnig drwy lenwi’r ffurflen ar-lein syml isod.
Ffurflen Gais “Gwyddoniaeth Wych Abertawe 2020” Oriel Science
A fyddech cystal â chwblhau’r ffurflen erbyn 15 Ionawr fel y gallwn ddechrau cynllunio arddangosfeydd a gweithgareddau’r dydd.
E-bostiwch orielscience@abertawe.ac.uk os oes gennych gwestiynau.
Cofion cynnes a dymuniadau gorau
Tîm Oriel Science
Student Communications Coordinator Iau Rhagfyr 19th, 2019
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Negeseuon, Arolygon ac Astudiaetha, Travel
Mae Prifysgol Abertawe’n penodi Arholwyr Allanol i’r holl raglenni i sicrhau bod y gweithdrefnau sydd ar waith ym Mhrifysgol Abertawe wedi’u dilyn a bod y prosesau asesu a dosbarthiadau yn deg ac yn unol â’r safonau dyfarnu cenedlaethol. I weld adroddiad yr Arholwr Allanol ar gyfer eich rhaglen, ewch i’n tudalen we benodol Adroddiad Fy Arholwr Allanol.
Student Partnership and Engagement Manager Mercher Rhagfyr 18th, 2019
Posted In: Negeseuon
Student Communications Coordinator
Posted In: Negeseuon, Sustainability, Travel
Wrth i ddiwedd y tymor nesáu, bydd oriau agor siopau’r Gwasanaethau Arlwyo amrywio’n ychydig. (more…)
Student Communications Officer Llun Rhagfyr 16th, 2019
Posted In: Newyddion Campws
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University