Mae angen cyfranogwyr israddedig ar gyfer grŵp ffocws MA ar lyfrgelloedd a lles.
Dyddiad: 6ed o Chwefror
Amser: 17:00 – 18:30
E-bostiwch seo17@aber.ac.uk am fwy o fanylion ac i gadarnhau eich lle
£5 am gymryd rhan!
Student Communications Officer Llun Ionawr 27th, 2020
Posted In: Arolygon ac Astudiaetha
Cynhelir nifer o ddatblygiadau newydd, cyffrous mewn mannau arlwyo ar y ddau gampws y semester. (more…)
Student Partnership and Engagement Manager Gwener Ionawr 24th, 2020
Posted In: Newyddion Campws, Negeseuon
27 Ionawr yw Diwrnod Coffáu’r Holocost, diwrnod i gofio ac ymrwymo i sicrhau nad yw erchyllterau ein gorffennol yn cael eu hailadrodd yn ein presennol a’n dyfodol.
Bydd Prifysgol Abertawe’n coffáu DCH 2020 gyda chyfres o sgyrsiau a gweithdai ar y thema Stand Together (Sefyll Gyda’n Gilydd), a fydd yn archwilio sut mae angen i ni ddysgu oddi wrth ein gilydd, trosgynnu gwahaniaeth a gweithio gyda’n gilydd i drechu’r llif cynyddol o anghydraddoldeb, rhagfarn a chasineb yn ein holl gymdeithasau.
Stand Together (Sefyll Gyda’n Gilydd) yw thema Diwrnod Coffáu’r Holocost eleni.
Eleni mae 75 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau a 25 mlynedd ers Hil-laddiad Bosnia.
Mae cyfundrefnau hil-leiddiol drwy gydol hanes wedi rhwygo cymdeithasau’n fwriadol drwy wthio rhai grwpiau i’r cyrion. Yn nawr yn fwy nag erioed, rhaid i ni sefyll gyda’n gilydd a chydag eraill yn ein cymunedau er mwyn atal y rhaniadau a lledaenu casineb yn ein cymdeithas.
Amserlen:
1pm Cyflwyniad i DCH a’r Holocost. Dr Alys Einion-Waller
1.15 Cynwysoldeb a Lluosogaeth Ddiwylliannol. Paul Marinaccio-Joseph
1.35 Bywydau Cudd – Menywod a Lesbiaid yn yr Holocost. Dr Alys Einion-Waller
2.00 Ymddygiad Gwylwyr a Sefyll Gyda’n Gilydd. Chantal Patel, Cadeirydd Biofoeseg UNESCO.
2.20 Trafodaeth a sesiwn holi ac ateb. Pawb
2.30 Egwyl Darperir diodydd twym
2.45 Gweithdy: Ymddygiad Gwylwyr. Chantal Patel
3.45 Trafodaeth. Pawb
4pm Cau
Ar y diwrnod ceir arddangosfa hefyd yn y ganolfan Darganfod yn Taliesin Mall a fydd yn edrych ar anabledd ac amrywiaeth, ac mae croeso i bawb ddod.
Student Communications Coordinator Iau Ionawr 23rd, 2020
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Negeseuon
Mae’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO) yn cynghori na ddylai neb deithio i ddinas Wuhan, Talaith Hubei, Tsieina oni bai ei bod hi’n hanfodol. Mae hyn oherwydd y salwch coronavirus newydd sy’n parhau.
Mae Uwch Dîm Rheoli’r Brifysgol yn cwrdd ddydd Llun i adolygu cynlluniau wrth gefn.
Mae rhagor o fanylion ar wefan yr FCO ac mae’n cael ei diweddaru’n rheolaidd gyda’r sefyllfa ddiweddaraf. https://www.gov.uk/foreign-travel-advice/china
Student Communications Coordinator
Mae’r meddalwedd canlynol nawr ar gael i’w lawrlwytho gan myfyrwyr ar ddyfeisiau personol trwy dudalennau we Gwasanaethau TG/MyUni: https://myuni.swansea.ac.uk/cy/bywyd-academaidd/gwasanaethau-tg/ymholiadau-meddalwedd/
Cofiwch, gallwch hefyd lawrlwytho Microsoft Office 365 o’r un tudalen; bydd y meddalwedd yn ddilys drwy gydol eich cyfnod fel myfyriwr neu aelod ym Mhrifysgol Abertawe. Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen we Gwasanaethau TG. Mae’r meddalwedd yma i gyd ar gael ar gyfrifiaduron sydd ar rwydwaith Prifysgol Abertawe (gan gynnwys y cyfrifiaduron yn y Llyfrgell). Er mwyn cael mynediad at ystod y feddalwedd, porwch trwy’r Zenworks.
Student Communications Coordinator
Posted In: Negeseuon
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University