Mae amser o hyd i gadw eich lle! Gallwch gael mwy o wybodaeth am y cyrsiau a’r opsiynau cyllid, a gallwch ddechrau ar eich cais gydag arweiniad gan ein staff arbenigol.Postgraduate student giving a speech

Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig cyrsiau ôl-raddedig ym mhob maes pwnc:

Dydd Mercher, 4 Mawrth 2020 = Campws Parc Singleton (Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd , y Coleg Gwyddoniaeth, Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton a’r Ysgol Feddygaeth)

Dydd Mercher, 11 Mawrth 2020 = Campws y Bae (Y Coleg Peirianneg, yr Ysgol Reolaeth a’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Adran Gyfrifiadureg ac Adran Fathemateg)

Cadwch eich lle nawr: http://www.abertawe.ac.uk/ol-raddedig/diwrnodagored/

Gwener Chwefror 28th, 2020

Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Negeseuon

Leave a Comment

Ar ôl cau Swyddfa’r Post ym mis Rhagfyr 2019, mae’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn falch o gyhoeddi eu bod wedi cyflwyno gwasanaethau Pay Point a Collect Plus yn Costcutter. Mae’r gwasanaethau ar gael yn awr.

Bydd modd i chi brynu stampiau dosbarth cyntaf y Post Brenhinol yn Costcutter o hyd, a bydd y Post Brenhinol yn casglu post ddwywaith y dydd o’r blwch Post Brenhinol ar lawr gwaelod Tŷ Fulton. (more…)

Posted In: Newyddion Campws, Negeseuon

Leave a Comment

Cyflwyno cais am Grant y Gronfa Angen Mwyaf

A oes gennych syniad a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar gynulleidfa fawr? Neu a fydd yn gwella profiad ein myfyrwyr yn sylweddol yn y Brifysgol?  Neu’r ddau?  Yna cyflwynwch gais am grant o’n Cronfa Angen Mwyaf er mwyn ei ddatblygu.   Gallai fod ar gyfer darn gwerthfawr o ymchwil rydych yn gweithio arno; rhaglen allgymorth addysgol; creu grŵp diddordeb – unrhyw beth sy’n diwallu un o’r meini prawf hyn. (more…)

Posted In: Negeseuon, [:en]Offers[:cy]Cyfleoedd[:]

Leave a Comment

Hands cradling a cup of coffee on a wooden tableThe Lounge yn agor ei ddrysau yn. Rhwng 1-3, gan gynnig te a choffi, bisgedi, gweithgareddau lles, yn ogystal â lle cyfeillgar i gwrdd ag eraill, chwarae gemau bwrdd, cymryd rhan mewn crefftau neu dreulio amser yn ymlacio. Bydd ein Hyrwyddwyr Lles Myfyrwyr ar gael i gynnig cymorth emosiynol a chymdeithasol, yn ogystal â rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr sydd am wella eu hiechyd meddwla’u lles.

Iau Chwefror 27th, 2020

Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Negeseuon, Llesiant

Leave a Comment

25.02.20 Diweddariad Ar Y Coronafeirws

Mae Llywodraeth y DU bellach wedi diweddaru’r cyngor ynghylch Coronafirws i gynnwys ardaloedd ychwanegol. Ceir manylion llawn yma, ond dyma grynodeb: (more…)

Posted In: Amrywiol

Leave a Comment

Next Page »

Upcoming Events


© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University