“Canvas” fydd platfform dysgu digidol newydd y Brifysgol o 31/07/20. Mae hyn yn golygu na fydd Blackboard bellach ar gael o’r dyddiad hwn, ond peidiwch â phoeni, rydym yn sicrhau bod deunydd academaidd o’r flwyddyn flaenorol yn cael ei gadw’n ddiogel ac yn hygyrch. (more…)
Student Communications Coordinator Gwener Mehefin 26th, 2020
Posted In: Newyddion Campws
Da iawn i’r holl Gynrychiolwyr Coleg a Chynrychiolwyr Pwnc a lwyddodd i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Undeb y Myfyrwyr 2020! Mae’r Cynrychiolwyr hyn wedi ymroi o’u hamser a’u hymdrechion er mwyn sicrhau bod myfyrwyr wedi’u cynrychioli’n ddigonol ar draws y Brifysgol a bod llais y myfyriwr yn cael ei glywed o ran cyflogadwyedd, adborth ac asesu. (more…)
Student Communications Coordinator Iau Mehefin 25th, 2020
Posted In: Newyddion Campws, Amrywiol
Mae’r Brifysgol yn cynllunio ar gyfer dychwelyd i’w champysau ac ailagor gwasanaethau gan roi’r flaenoriaeth uchaf i iechyd a diogelwch myfyrwyr a staff. Yn unol â chanllawiau gan Lywodraeth Cymru a rheolwyr y Brifysgol, mae staff y Llyfrgelloedd wedi bod yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn yr Adrannau Iechyd a Diogelwch ac Ystadau i gynllunio proses ddychwelyd ddiogel, fesul cam, a fydd yn ein galluogi i sicrhau pellter cymdeithasol o ddau fetr, mannau hylif diheintio dwylo a chyn lleied o gyswllt â phosib wrth ddarparu gwasanaethau. (more…)
Student Communications Coordinator
Posted In: Newyddion Campws, Negeseuon
Y RAG, sef ‘Codi a Rhoi’, oedd un o’r prif uchafbwyntiau yng nghalendr y Brifysgol. Roedd yn gyfle i fyfyrwyr gael hwyl, ymddwyn yn anffurfiol a chodi arian ar gyfer elusennau lleol. Roedd hyn yn cynnwys gwisgo i fyny ac fel arfer byddai’n cynnwys gorymdaith trwy strydoedd Abertawe.
O ganlyniad, dyma un o’r prif ffyrdd yr oedd y Brifysgol yn rhyngweithio â’i chymuned leol dros nifer o flynyddoedd. Ydyn nhw’n edrych yn wych?
Student Communications Coordinator
Posted In: Amrywiol
Roedd trên y Mwmbwls, a agorwyd ym 1807 gan Benjamin French ar dramffordd Ystumllwynarth yn cario pobl rhwng y Mwmbwls ac Ystumllwynarth gan ei wneud y rheilffordd deithwyr gyntaf yn y byd.
Swnio’n ddiddorol? Cymerwch olwg yma
Student Communications Coordinator Mercher Mehefin 24th, 2020
Posted In: Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University