Ar gyfer y rhai ohonoch chi sy’n aros yn Abertawe dros wyliau’r Nadolig, deallwn efallai y bydd angen i chi gyflawni teithiau hanfodol o hyd felly rydyn ni’n cynnig defnydd o Feiciau Santander am ddim.
Defnyddiwch y côd SUpass2020 ar gyfer eich teithiau hanfodol a’ch ymarfer corff dyddiol. Mae canllawiau ar sut i ddefnyddio eich côd YMA.
Sicrhewch eich bod chi’n defnyddio’r beiciau yn unol â’r cyfyngiadau a’r canllawiau cyfredol.
Cofion gorau,
Tîm Beiciau Santander Abertawe
Student Communications Coordinator Mawrth Rhagfyr 22nd, 2020
Posted In: Amrywiol
Yn sgil cyhoeddi cyfnod cyfyngiadau symud diweddaraf Cymru, caiff gwasanaethau Parcio a Theithio Ffordd Fabian eu gohirio o ddydd Llun 4ydd Ionawr. Bydd hyn hefyd yn berthnasol ar gyfer Gwasanaeth 9B rhwng Ffordd Fabian a Champws y Bae a oedd i fod i ailddechrau o’r dyddiad hwnnw.
Ewch i’r Tudalennau gwe Teithio ac ap First i dderbyn y newyddion diweddaraf ynghylch newidiadau i amserlenni bysiau.
Cysylltwch â: Jayne Cornelius j.cornelius@abertawe.ac.uk
Student Communications Coordinator
Posted In: Amrywiol
Wrth i ni agosáu at y Nadolig, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i chi i gyd, ar ran yr Uwch-dîm Arweinyddiaeth, am eich ymroddiad a’ch ymrwymiad dros y 12 mis diwethaf. (more…)
Student Partnership and Engagement Manager Gwener Rhagfyr 18th, 2020
Posted In: Amrywiol
Trefniadau Profion Covid-19 ar gyfer mis Ionawr
Yn unol ag arweiniad Llywodraeth Cymru, bydd y Brifysgol yn cynnal profion llif unffordd i fyfyrwyr o 11 Ionawr 2021 am bum wythnos.
Er ein bod yn annog myfyrwyr i beidio â dychwelyd tan ddyddiad eu hapwyntiad cyntaf, deallwn efallai y bydd angen i rai myfyrwyr ddychwelyd cyn hynny oherwydd dysgu, asesu a theithio. Drwy weithredu cyfnod dychwelyd gwasgarog i’n myfyrwyr, y nod yw lleihau’r risg o ymledu Covid-19 drwy leihau nifer y bobl sy’n teithio neu’n cyrraedd ar yr un pryd. (more…)
Student Communications Coordinator
Posted In: Newyddion Campws, Negeseuon
Dyddiad: Rhagfyr y 18fed 3pm- 6pm
lleoliad y Digwyddiad: Zoom Tour, Egypt Centre
Ers mis Mawrth eleni, mae Canolfan yr Aifft wedi bod ar gau oherwydd y pandemig COVID-19. Yn ystod yr amser hwn, mae staff Canolfan yr Aifft wedi bod yn gweithio’n galed yn hytrach i ymgysylltu â chynulleidfaoedd ar-lein, gan gyflwyno llawer o bobl newydd (rhyngwladol) i’r casgliad. (more…)
Student Communications Coordinator Iau Rhagfyr 17th, 2020
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University