Fel y gwyddoch eisoes, mae’r Dudalen Positifrwydd yn cynnig adnoddau ar-lein gwych i helpu i gefnogi eich astudiaethau, eich iechyd, eich lles a’ch ymdeimlad o gymuned.
Cofiwch mai chi sy’n berchen ar ein ‘Tudalen Bositifrwydd’! Mae’r dudalen yn cynnwys cyfuniad o adnoddau penodol Prifysgol Abertawe-cynnwys a grëwyd gan eich staff penodedig ym Mhrifysgol Abertawe a’n myfyrwyr anhygoel-yn ogystal ag argymhellion gan sefydliadau ac unigolion ledled y wlad.
Rydyn ni wedi dwlu ar y ffordd rydych chi wedi bod yn cymryd rhan hyd yma, felly parhewch i wneud hynny! Byddem yn hoffi i chi gymryd rhan. Os oes gennych awgrym neu stori ar ein cyfer, rhowch wybod i ni. Does dim ots beth ydyw! (more…)
Student Communications Coordinator Mawrth Chwefror 16th, 2021
Mae Heddlu De Cymru sy’n ymchwilio i nifer o ymosodiadau anweddus ym Mharc Singleton ac yn Llandeilo Ferwallt wedi arestio dyn.
Gan ystyried hyn, meddyliwch am eich diogelwch personol wrth gerdded o fan i fan a byddwch yn wyliadwrus.
Riportiwch unrhyw ddigwyddiad i’r heddlu ar 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
I gael cymorth, gallwch gysylltu naill ai â’r gwasanaeth lles neu â’r Ganolfan Cyngor a chymorth yn Undeb y myfyrwyr.
Student Partnership and Engagement Manager Llun Chwefror 15th, 2021
Mae’n ddrwg gennym orfod cyhoeddi na fydd digwyddiad Varsity Cymru yn cael ei gynnal eleni, er mwyn sicrhau diogelwch a lles ein myfyrwyr, ein staff a’n gwesteion.
Deallwn fod y newyddion hyn yn siomedig; fodd bynnag, mae’r dirwedd ar gyfer chwaraeon yn ystod pandemig Covid-19 yn newid yn barhaus, ac felly bydd y prifysgolion yn ymdrechu i drefnu a chefnogi gweithgareddau chwaraeon, fesul camp, pan fydd canllawiau Llywodraeth Cymru a’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol yn caniatáu hynny.
Rydym yn ddiolchgar i’n cymuned myfyrwyr am eu cefnogaeth barhaus ac edrychwn ymlaen at ddarparu Varsity Cymru cofiadwy yn 2022.
Student Partnership and Engagement Manager
Posted In: Newyddion Campws, Negeseuon, Amrywiol
Mae Student Space yma i wneud pethau’n haws i chi ddod o hyd i’r gefnogaeth y mae arnoch ei hangen yn ystod pandemig y coronafeirws.
Sut bynnag rydych chi’n teimlo, mae help a chyfarwyddyd ar gael. Edrychwch ar wybodaeth, gwasanaethau ac adnoddau dibynadwy i’ch helpu chi gyda heriau bywyd fel myfyriwr.
Mae tair ffordd y gall Student Space eich helpu chi yn ystod y pandemig:
Student Communications Coordinator Gwener Chwefror 12th, 2021
Posted In: Llesiant
Mae sesiynau ‘SGWRS FYW’ Arian@BywydCampws ar ddydd Mercher wedi’u canslo am weddill y tymor.
Gweler yma am amseroedd eraill sydd ar gael: https://www.swansea.ac.uk/cy/arian-bywy … sgwrs-fyw/
Rydym yn dal i fod ar gael trwy e-bost ar unrhyw adeg trwy money.campuslife@swansea.ac.uk
Student Partnership and Engagement Manager
Posted In: Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University