Gallai cyfranogwyr ennill pâr o Apple AirPods Pro gwerth £250!
Mae Cymdeithas Cyswllt Rhyngwladol Prifysgolion Prydain (BUILA), ar y cyd â’r British Council, yn cynnal ymchwil i’r canlynol:
- Sut daethoch chi, fel myfyriwr rhyngwladol, o hyd i wybodaeth am astudio dramor.
- Sut gall prifysgolion y DU sicrhau bod gwybodaeth am astudio yn y DU yn fwy hygyrch.
- Pa effaith cafodd pandemig COVID-19 ar y ffordd yr aethoch ati i chwilio am wybodaeth a sut effeithiodd ar eich proses benderfynu a’ch meddyliau am astudio dramor.
(more…)
Student Communications Coordinator Gwener Chwefror 26th, 2021
Posted In:
Arolygon ac Astudiaetha
9 Comments
Fel nifer o sefydliadau mawr eraill mae Trwyddedu Teledu yn darged amlwg i dwyllwyr. Mae nifer o negeseuon e-bost twyllodrus yn cynnwys nodweddion sy’n gwneud iddyn nhw edrych yn rhai go iawn, yn aml mae arwyddion y dylech chi gadw llygad amdanyn nhw sy’n datgelu twyllwyr. Isod mae rhestr o’r prif bethau i edrych amdanynt:
1. Pwy sy’n anfon y neges
Mae negeseuon e-bost go iawn gan Trwyddedu Teledu yn dod gan donotreply@tvlicensing.co.uk neu donotreply@spp.tvlicensing.co.uk. (more…)
Student Communications Coordinator
Posted In:
Negeseuon, Amrywiol
Leave a Comment
Mae ymchwil newydd gan wyddonwyr o Brifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bryste ac yn Sefydliad Francis Crick yn Llundain wedi awgrymu y gallai deietau sy’n cynnwys llawer o’r siwgr ffrwctos atal systemau imiwnedd pobl rhag gweithredu’n gywir, mewn ffyrdd a fu, hyd yn hyn, yn anhysbys i raddau helaeth.
Ceir ffrwctos mewn diodydd siwgraidd, melysion a bwydydd wedi’u prosesu ac fe’i defnyddir yn helaeth wrth gynhyrchu bwyd. Fe’i cysylltir â gordewdra, diabetes math 2 a chlefyd yr afu brasterog nad yw’n ymwneud ag alcohol, ac mae ei ddefnydd wedi cynyddu’n sylweddol ledled y byd datblygedig dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, prin y bu’r ddealltwriaeth o effaith ffrwctos ar system imiwnedd pobl sy’n llyncu llawer ohono hyd yn hyn.
Darllenwch fwy yma.
Student Communications Coordinator Mawrth Chwefror 23rd, 2021
Posted In:
Amrywiol, Llesiant
Leave a Comment
Next Page »