Diwrnod y Cyfrifiad oedd 21 Mawrth, ond mae gennych chi amser o hyd i lenwi ffurflen y cyfrifiad nawr.
Ble bynnag ydych chi – p’un a ydych chi’n byw mewn neuadd breswyl, yn byw mewn tŷ sy’n cael ei rannu, yn byw gyda’ch rhieni neu warcheidwaid neu’n fyfyriwr rhyngwladol – mae myfyrwyr yn rhan bwysig o’r cyfrifiad ac mae’n rhaid i bob un ohonynt gael eu cynnwys. Peidiwch â phoeni – mae’r ffurflen yn un syml a byddwch chi’n ei llenwi hi ar lein. Bydd eich data’n gyfrinachol a dim ond 10 munud fesul unigolyn y bydd yn ei gymryd. (more…)
Student Communications Officer Llun Mawrth 29th, 2021
Posted In: Negeseuon, Arolygon ac Astudiaetha
Mae Tor Abrams yn gyn siaradwr Google, TEDx ac yn sylfaenydd nifer fawr o fusnesau sydd wedi ennill cyflog â 6 ffigwr erbyn iddo droi’n 25 oed. Mae e’n mynd i rannu cyngor ar sut y gallwch chi gychwyn eich gyrfa a defnyddio’r pandemig er eich budd. Bydd yn trafod: (more…)
Student Communications Coordinator
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?
Anfonwyd ar ran y Cynrychiolwyr Ymchwil Ôl-raddedig
Dros gyfnod y cyfyngiadau symud mae iechyd a lles meddyliol myfyrwyr wedi bod yn destun trafod mawr, ac rydym wedi clywed gennych chi fel cynrychiolwyr am yr heriau penodol y mae’r gymuned Ymchwil Ôl-raddedig yn eu hwynebu.
Mewn ymateb i’r adborth gan fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig yn ein coleg ni a ledled y Brifysgol, rydym wedi gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol er mwyn creu digwyddiad sy’n canolbwyntio ar les myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig yn Abertawe.
Yn ogystal â chlywed gan Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol am y cymorth sydd ar gael, bydd cyfle i:
Rydym yn falch iawn o allu gwahodd pob myfyriwr Ymchwil Ôl-raddedig i ddigwyddiad sy’n canolbwyntio ar les myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig a sut gallwn ni ei wella.
Dysgwch ragor am y digwyddiad a chofrestrwch amdano ar-lein.
Student Communications Coordinator
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?
Bydd myfyrwyr sy’n cael anawsterau wrth dalu am dreuliau hanfodol o ganlyniad uniongyrchol i’r pandemig presennol yn gallu cyflwyno cais i gael mynediad at y Gronfa Cymorth Covid-19 i Fyfyrwyr Addysg Uwch ar 6 Ebrill.
Bydd myfyrwyr presennol (wedi’u cofrestru) Prifysgol Abertawe sy’n gymwys am y gronfa yn gallu ymgeisio yma. (more…)
Student Partnership and Engagement Manager Gwener Mawrth 26th, 2021
Posted In: Amrywiol
Bydd y llyfrgell yn cau ar gyfer y Pasg am 7pm ddydd Iau 1 Ebrill, a bydd yn ailagor am 8am ddydd Mawrth 6 Ebrill.
Bydd y Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid yn darparu cymorth ar-lein fel arfer dros benwythnos y Pasg.
Gellir gweld yr oriau agor YMA
Student Communications Coordinator
Posted In: Newyddion Campws, Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University