Sylwer, o ddydd Llun 16 Awst tan ddydd Sadwrn 21 Awst, bydd angen i’r holl fwydydd a diodydd sy’n cael eu harchebu gan y gwasanaeth Clicio a Chasglu ar Gampws y Bae (The Core) gael eu danfon atat ti. Defnyddia’r côd disgownt AUG21 ar dy archeb er mwyn cael disgownt gwerth 25% gan ein bod yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.
Bydd y gwasanaeth Clicio a Chasglu yn dychwelyd i’r arfer ar dydd Sul 22ain Awst.
Clicio a Chasglu o’r Gegin – Prifysgol Abertawe
Student Communications Officer Llun Awst 16th, 2021
Posted In: Newyddion Campws, Negeseuon, [:en]Offers[:cy]Cyfleoedd[:]
Mae’n bwysig cael y wybodaeth ddiweddaraf felly edrychwch ar ein cyfrifon Facebook, Twitter ac Instagram.
Pe bai’n well gennych chi gyfathrebu yn y Gymraeg, sicrhewch eich bod chi’n dilyn ein cyfrifon Cymraeg hefyd!
MyUni yw’r lle i gael gwybodaeth a chyngor i fyfyrwyr presennol, felly dilynwch ni i dderbyn y newyddion diweddaraf am gofrestru, gwasanaethau, digwyddiadau, teithio, diweddariadau pwysig Covid-19 a llawer mwy!
Ddim yn siŵr a ydych chi’n dilyn y sianeli swyddogol? Os felly, edrychwch YMA i wirio ddwywaith . Mae ein proffiliau cyfryngau cymdeithasol yn arddangos brand swyddogol MyUni, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y cyfrifon cywir er mwyn osgoi cael eich camarwain.
Student Communications Coordinator
Posted In: Negeseuon
O ddydd Mawrth 17 Awst 2021 tan ddiwedd y diwrnod gwaith ddydd Sadwrn 21 Awst 2021, bydd Ffordd Afan, Ffordd Hafren a’r ffyrdd o amgylch adeiladau preswyl Carreg Cennen, Dryslwyn, Weble, Pen-y-Bryn, Owain, Bere a Deganwy ar Gampws y Bae ar gau at ddiben ffilmio ar leoliad – gweler y cynllun YMA (mae’r ffyrdd a fydd ar gau wedi’u lliwio’n goch).
Os bydd yn rhaid i chi ddod i’r campws, rhoddwyd y trefniadau canlynol ar waith:
Os oes gennych chi ymholiadau, e-bostiwch: estates customerservices@abertawe.ac.uk.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a diolchwn i chi am eich amynedd. Ystadau a Rheoli Cyfleusterau.
Student Communications Coordinator Iau Awst 12th, 2021
Caiff y canlyniadau dyfarnu ar gyfer myfyrwyr a safodd arholiadau atodol, sy’n cael eu hystyried gan Fwrdd Arholi fis Medi, eu cyhoeddi ar-lein ar eich cyfrif myfyriwr ar y Fewnrwyd.
Sylwer: Bydd y dyddiadau uchod yn wahanol ar gyfer rhai rhaglenni, gan gynnwys rhai rhaglenni Gwyddorau Dynol ac Iechyd, y radd MSc Astudiaethau Cymdeithion Meddygol a’r MBBCh. Gofynnir i fyfyrwyr wirio sgwrs fyw eu cynlluniwr asesu/Coleg/Ysgol am eglurhad.
Gallwch ddisgwyl derbyn yr wybodaeth ganlynol o dan dab ‘Modiwlau 2020’ ar y sgrîn Manylion am y Cwrs:
Os ydych yn cael anawsterau wrth fewngofnodi i’ch cyfrif mewnrwyd y myfyrwyr, e-bostiwch: customerservice@abertawe.ac.uk (more…)
Student Communications Coordinator Mercher Awst 11th, 2021
Mae’r Brifysgol, dan arweiniad Academi Hywel Teifi, wedi trefnu sesiynau amrywiol ym phebyll rhithwir Eisteddfod AmGen 2021. Gellir gwylio pob un ohonynt ar wefan yr Eisteddfod, ap AC, gwefan S4C, Radio Cymru a Cymru Fyw a sesiynau ar alw ar YouTube. (more…)
Student Communications Coordinator Iau Awst 5th, 2021
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University