Ni fydd y System Cofnodion Myfyrwyr (SITS) ar gael o 16:00yp Dydd Iau 4ydd Tachwedd nes 09:00yb Dydd Llun 8fed Tachwedd yn ystod gwaith diweddaru’r gwasanaeth.
Ni fydd SITS neu unrhyw wasanaethau dibynnol, gan gynnwys e:Vision, holl wasanaethau’r fewnrwyd, archebu graddio, yn ogystal ag unrhyw gymwysiadau cronfa ddata pwrpasol sy’n cysylltu’n uniongyrchol â chronfa ddata SITS, ar gael yn ystod y cyfnod hwn.
A wnewch chi drefnu eich gweithgareddau yn ystod y cyfnod hwn i osgoi unrhyw broblemau neu anghyfleustra diangen.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau cysylltwch â gwasanaethau cwsmer ar Est: 5500 neu customerservice@swansea.ac.uk.
Mae ISS yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Student Partnership and Engagement Manager Gwener Hydref 29th, 2021
Posted In: Negeseuon
Ym Mhrifysgol Abertawe, mae diogelu ein hamgylchedd a sicrhau llesiant cymuned ein campysau yn bwysig iawn inni. Dyna pam rydym yn lansio ffordd newydd sbon y gallwch gyfrannu at ein hymdrechion i fod yn gynaliadwy a chael eich gwobrwyo am yr holl bethau da a wnewch. Daw hyn ar adeg bwysig yn hanes ein hamgylchedd ac mae’n cyd-daro â COP26 yn Glasgow, sef y gynhadledd newid hinsawdd fwyaf drwy’r byd.
Beth yw SWell?
Ystyr SWell yw Sustainability and Wellbeing/Cynaliadwyedd a Llesiant. Rhaglen ddigidol yw hi, ac mae ar agor i holl staff a myfyrwyr y brifysgol. Trwy gyfrwng yr ap a phlatfform y we byddwch yn ennill ‘Pwyntiau Gwyrdd’ am wneud pethau bach beunyddiol i leihau eich ôl troed carbon a gofalu am eich lles corfforol a meddyliol, gan gefnogi Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd ein Prifysgol yr un pryd.
Bob mis, bydd y 10 myfyriwr sydd wedi ennill y nifer fwyaf o bwyntiau’n cael taleb o £10, a bydd modd defnyddio’r talebau hyn yn Undeb y Myfyrwyr, Root, M&S, National Book Tokens ac fel talebau sinema. Hefyd, ar ddiwedd y flwyddyn bydd y tîm buddugol yn cael rhodd o £500 i’w rhoi i elusen. (more…)
Student Partnership and Engagement Manager
Posted In: Newyddion Campws, Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Negeseuon, Sustainability
Oes gennych chi ddiddordeb mewn materion sy’n ymwneud â byddardod? Ydych chi am gysylltu â phobl fyddar eraill yn Abertawe?
Ymunwch â’r tîm
Student Partnership and Engagement Manager
Mae Hargreaves Lansdown yn gwmni FTSE 100 â’i bencadlys ym Mryste a dyma ddewis cyntaf buddsoddwyr preifat y DU , gydag 1.6 miliwn o gleientiaid yn buddsoddi mwy na £120 biliwn ynddo.
Rydym nhw’n cynnig cynllun i raddedigion ar sail cylch 2 flynedd lle bydd graddedigion yn gyfrifol am eu gwaith eu hun, yn gweithio gyda rhanddeiliaid ar bob lefel o’r sefydliad ac yn meithrin arloesedd drwy chwilio am ffyrdd o’i wneud yn well.
Dyma sesiwn wybodaeth i roi cyflwyniad mwy manwl i Hargreaves-Lansdown i fyfyrwyr â diddordeb, yr hyn sydd gan y cynllun i’w gynnig a chyfle i glywed gan raddedigion sydd ar y cynllun ar hyn o bryd yn siarad am eu profiadau. Mae’r digwyddiad ar ddydd Mercher 3 Tachwedd rhwng 12pm ac 1pm.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr o bob disgyblaeth gradd sy’n cyflawni 2:2 neu ar y trywydd iawn i gyflawni 2:2.
Student Partnership and Engagement Manager Iau Hydref 28th, 2021
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?
Yn dilyn sgyrsiau yn Abertawe ac yn y cyfryngau sy’n peri gofid ynghylch sbeicio, hoffem roi sicrwydd i’n myfyrwyr mai eich diogelwch chi yw ein blaenoriaeth o hyd a’n bod ni yma i’ch cefnogi.
Ar y cyd ag Undeb y Myfyrwyr, rydym yn gweithio gyda Heddlu De Cymru, Cyngor Dinas a Sir Abertawe a rhanddeiliaid eraill yn economi’r hwyr a’r nos er mwyn sicrhau bod mesurau ar waith i gadw ein myfyrwyr yn ddiogel. (more…)
Student Partnership and Engagement Manager
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University