Gallet ti nawr sefyll fel ymgeisydd yn Etholiadau UM! Gallet ti ymgeisio i fod yn Swyddog Llawn-amser, sy’n swydd gyflogedig amser-llawn yn UM, neu gallet ti ymgeisio i fod yn Swyddog Rhan-amser, sy’n rôl wirfoddol sy’n cael ei chyflawni ochr yn ochr â dy astudiaethau.
Y rolau sydd ar gael yn yr etholiadau hyn yw rhai o’r swyddi gorau yn Abertawe. Bydd pob rôl yn rhoi profiad i ti allu mynd at gyflogwyr a gwneud i ti sefyll allan ymysg y dorf, rhoi cyfle i ti newid y ffordd rydyn ni’n gwneud pethau yn Abertawe, a chyfle i ti wella profiadau myfyrwyr yn y Brifysgol. (more…)
Student Communications Officer Llun Ionawr 31st, 2022
Posted In: Negeseuon
Rydym yn ymrwymedig i wella profiad y myfyrwyr sy’n astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Credwn y gall monitro presenoldeb ein helpu i sicrhau eich llesiant a’ch cefnogi i wneud cynnydd tuag at eich nodau academaidd a’u cyflawni.
Disgwylir y bydd pob myfyriwr yn teithio i Abertawe i ymgysylltu â’u gwaith ymchwil ac dysgu gwyneb i wyneb. Dim ond ar gyfer fyfyrwyr Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt) myfyrwyr – sy’n profi oedi wrth deithio y caniateir dysgu o bell, lle mae eu rhaglen ymchwil yn caniatáu hynny, a disgwylir iddynt gyrraedd Abertawe cyn gynted â phosibl. (more…)
Student Communications Officer
Posted In: Negeseuon
Mae gan Discovery wythnos o wirfoddoli untro, hyfforddiant am ddim a gweminarau i holl Fyfyrwyr Prifysgol Abertawe. Dewch draw i ddarganfod ychydig mwy am gyfleoedd gwirfoddoli Discovery a darganfod sut y gallwch chi wneud gwahaniaeth trwy wirfoddoli tra ar yr un pryd adeiladu eich sgiliau a chwrdd â phobl newydd.
Edrychwch ar y canllaw hwn o bopeth sy’n digwydd ac yna ewch i:
https://www.fatsoma.com/p/discoverysvs i archebu pa weithgareddau yr hoffech gymryd rhan ynddynt.
Nid oes angen i chi fod yn wirfoddolwr cofrestredig gyda Discovery i gofrestru ar gyfer y gweithgareddau ac mae’r gweithgareddau’n agored i fyfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe.
Cysylltwch â ni ar discovery@swansea.ac.uk
Student Communications Coordinator Gwener Ionawr 28th, 2022
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Negeseuon
Rydym yn ddiolchgar iawn i’n myfyrwyr am gynnal lefelau uchel o gydymffurfiaeth drwy gydol y pandemig ac rydym yn falch o allu dychwelyd i brofiad Prifysgol ar y campws.
Lefel Rhybudd 0
Ddydd Gwener 28 Ionawr, bydd Cymru yn cwblhau’r broses o symud i lefel rhybudd sero.
Mae hyn yn golygu’r canlynol: (more…)
Student Communications and Content Development Officer
Wrth i addysgu wyneb yn wyneb gynyddu, hoffem ni eich diweddaru am eich opsiynau wrth deithio i’r campws ac oddi yno.
Dros gyfnod y pandemig, mae mwy o leoedd parcio wedi bod ar y campws oherwydd bod niferoedd llawer yn llai o staff a myfyrwyr wedi bod ar y campws. Yn ystod yr amser hwn, ni fu angen gorfodi ein trefniadau parcio arferol.
Fodd bynnag, wrth i ni ddechrau dychwelyd i normal newydd, rhaid i’n trefniadau cyn Covid ailddechrau a byddem ni’n eich cynghori i gynllunio eich taith gyda hwn mewn cof. (more…)
Student Partnership and Engagement Manager Iau Ionawr 27th, 2022
Posted In: Newyddion Campws, Negeseuon, Sustainability, Travel
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University