[:en]Taliesin Arts Centre is to host Everything Change, a series of discussions and events exploring the roles creativity, adaptive thinking and storytelling can play in overcoming the challenges of the climate crisis.
Featuring an international array of contributors from across the arts and creative industries, as well as the sciences, law, business, public policy, activism and education, Everything Change is a unique forum for generating debate and new ideas, driven by some of the most urgent questions of our times.
The impressive list of contributors reflects our University’s belief that the climate emergency is a shared responsibility that transcends academic disciplines and national borders, and in which we all have a part to play.
The 10-day programme will open on Thursday 10 June with novelist, poet, inventor, and two-time Booker Prize winner Margaret Atwood. Sadaf Saaz, Director of the Dhaka Lit Fest and co-programmer of Everything Change, will join Margaret to explore how writers and artists could contribute to a revolution of the communal imagination and the need to discover new forms of storytelling to meet our moment of crisis.
Eight online events will follow, focusing on key areas of change: Money, Food, Water, Energy, Justice, Story, and Change itself, each featuring a diverse mix of international experts and thought leaders in their fields.
The programme will conclude on Saturday 19 June with a closing keynote event featuring current UK Poet Laureate, Simon Armitage, and Taylor Edmonds, the recently appointed Poet in Residence for the Future Generations Commissioner for Wales. It will be introduced and moderated by Owen Sheers, Professor in Creativity at Swansea University, and a co-curator of the Everything Change programme.
Also part of the programme is the Everything Change Writers’ Lab, one of the British Council’s ‘Creative Commissions for the Climate’. The Lab will provide an engine for six incredible writing talents from Wales and Bangladesh to create new narratives in response to the climate crisis that will be showcased at Dhaka Lit Fest in January 2022.
We are very grateful to the British Council for their support and are proud to be representing Wales on the global climate action stage.
Everything Change is a free, ticketed virtual event and includes live English captioning. Tickets and more information on Everything Change can be found on the Taliesin Arts Centre website.[:cy]Bydd Canolfan y Celfyddydau Taliesin yn cyflwyno Newid Popeth, cyfres o drafodaethau a digwyddiadau a fydd yn archwilio rôl creadigrwydd, meddylfryd addasol ac adrodd straeon wrth oresgyn heriau’r argyfwng hinsawdd.
Gan gynnwys amrywiaeth o gyfranogwyr rhyngwladol o’r celfyddydau a’r diwydiannau creadigol, yn ogystal â’r gwyddorau, y gyfraith, a meysydd busnes, polisïau cyhoeddus, ymgyrchu ac addysg, mae Newid Popeth yn fforwm unigryw ar gyfer trafodaethau a syniadau newydd, wedi’u hysgogi gan rai o gwestiynau mwyaf dybryd ein hoes.
Mae’r rhestr drawiadol o gyfranogwyr yn adlewyrchu cred ein Prifysgol bod yr argyfwng hinsawdd yn gyfrifoldeb cyffredin sy’n mynd y tu hwnt i ddisgyblaethau academaidd ac yn croesi ffiniau cenedlaethol, ac sy’n cynnwys pawb.
Bydd y rhaglen 10 diwrnod yn dechrau nos Iau 10 Mehefin gyda Margaret Atwood, y nofelydd, y bardd a’r dyfeisydd sydd wedi ennill Gwobr Booker ddwywaith. Bydd Sadaf Saaz, Cyfarwyddwr Gŵyl Lenyddol Dhaka a chyd-drefnydd rhaglen Newid Popeth, yn ymuno â Margaret i drafod sut gallai llenorion ac artistiaid gyfrannu at drawsnewid y dychymyg cymunedol, ynghyd â’r angen i ddarganfod ffyrdd newydd o adrodd straeon i ymateb i’n hargyfwng.
Bydd wyth digwyddiad ar-lein yn dilyn, gan ganolbwyntio ar feysydd newid allweddol: arian, bwyd, dŵr, ynni, cyfiawnder, y stori, a newid ei hun. Bydd pob un yn cynnwys cymysgedd o arbenigwyr rhyngwladol ac arweinwyr syniadau yn eu meysydd.
Bydd y rhaglen yn dod i ben nos Sadwrn 19 Mehefin gyda Simon Armitage, bardd llawryfog presennol y Deyrnas Unedig, a Taylor Edmonds, sydd newydd gael ei phenodi’n fardd preswyl gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, yn cymryd rhan mewn digwyddiad cyweirnod terfynol. Caiff ei gyflwyno a’i gymedroli gan Owen Sheers, Athro Creadigrwydd Prifysgol Abertawe, a chyd-guradur rhaglen Newid Popeth.
Bydd Labordy Ysgrifenwyr Newid Popeth, un o gomisiynau creadigol y British Council ar gyfer yr hinsawdd, hefyd yn rhan o’r rhaglen. Bydd y labordy’n gyfrwng i alluogi chwe llenor hynod dalentog o Gymru a Bangladesh i greu naratifau newydd mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd a gaiff eu harddangos yng Ngŵyl Lenyddol Dhaka ym mis Ionawr 2022.
Rydym yn ddiolchgar iawn am gymorth y British Council ac rydym yn falch o gael cynrychioli Cymru ym maes gweithredu ar yr hinsawdd yn fyd-eang.
Mae Newid Popeth yn ddigwyddiad rhithwir am ddim drwy docyn ac mae’n cynnwys sgrindeitlo Saesneg byw. Ceir tocynnau a rhagor o wybodaeth am Newid Popeth drwy fynd i wefan Canolfan y Celfyddydau Taliesin.[:]