[:en]Swansea University will commemorate Holocaust Memorial Day on Wednesday 27th January 2021, online via Zoom from 11 am until 12 pm.
This year’s theme for Holocaust Memorial Day (HMD) is Be the Light in the Darkness. It encourages everyone to reflect on the depths humanity can sink to, but also the ways individuals and communities resisted that darkness to ‘be the light’ before, during and after the genocide.
We will be featuring an inspiring and moving talk by Maralyn Turgel, who will be sharing the story of what happened to her Polish-born father when he was a young teenager during the Holocaust. The event will be opened with a welcome from Pro-Vice Chancellor Professor Martin Stringer.
To register for the event please click here
Holocaust Memorial Day short background:
Holocaust Memorial Day is the United Nation’s International Day of Remembrance to commemorate victims and survivors of the Holocaust and Nazi persecutions, as well as other worldwide genocides, including those in Cambodia, Rwanda, Bosnia and Darfur. Between 1941 and 1945, the Nazis attempted to annihilate all of Europe’s Jews through a systematic and planned out attempt to murder, in what is now known as the Holocaust. By the end of the Holocaust, six million Jewish men, women and children had perished in concentration camps, extermination camps, ghettos and mass-shootings. There were also an additional five million victims of Nazi mass murders including LGBT people, those with disabilities both physical and mental, Slavic people, Romani people, people of different ethnic origin and religious beliefs bringing the death toll to approximately 11 million.
This event is open for Swansea University staff and students only.[:cy]Bydd Prifysgol Abertawe’n cofio Diwrnod Coffáu’r Holocost ddydd Mercher 27 Ionawr 2021, ar-lein drwy Zoom o 11am tan 12pm.
Thema eleni ar gyfer Diwrnod Coffáu’r Holocost yw Byddwch y Golau yn y Tywyllwch. Mae’n annog pawb i fyfyrio ar y dyfnderoedd y gall dynol ryw suddo iddynt, ond hefyd y ffyrdd y mae unigolion a chymunedau’n gwrthsefyll y tywyllwch i fod ‘y goleuni’ cyn, yn ystod ac ar ôl yr hil-laddiad.
Byddwn yn cynnwys sgwrs llawn ysbrydoliaeth gan Maralyn Turgel, a fydd yn rhannu’r stori o’r hyn ddigwyddodd i’w thad a anwyd yng Ngwlad Pwyl pan oedd yn berson ifanc yn ystod yr Holocost. Bydd y digwyddiad yn cael ei agor gyda chroeso gan y Dirprwy Is-Ganghellor yr Athro Martin Stringer.
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, cliciwch yma 
Diwrnod Coffáu’r Holocost: cefndir byr:
Diwrnod Coffáu’r Holocost yw Diwrnod Coffa Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig i goffáu dioddefwyr a goroeswyr yr Holocost ac erledigaethau’r Natsïaid, yn ogystal ag achosion eraill o hil-laddiad ledled y byd, gan gynnwys rhai yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.Rhwng 1941 a 1945, ceisiodd y Natsïaid ddinistrio holl Iddewon Ewrop, drwy ymgais llofruddiaeth systematig a chynlluniedig, yn yr hyn sy’n cael ei adnabod bellach fel yr Holocost. Erbyn diwedd yr Holocost, roedd chwe miliwn o ddynion, menywod a phlant Iddewig wedi marw mewn gwersyll-garcharau, getoau a saethu torfol. Yn ogystal, lladdwyd pum miliwn o bobl eraill mewn llofruddiaethau torfol gan y Natsïaid, gan gynnwys pobl LGBT, pobl anabl a rhai â salwch meddwl, Slafiaid, pobl Romani a phobl o gefndir ethnig gwahanol a chredoau crefyddol gyda chyfanswm y marwolaethau’n cyrraedd tuag 11 miliwn.
Mae’r digwyddiad hwn ar gael i staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn unig.[:]