Ymunwch â’r antur!
Dewiswch eich tîm a chasglwch eich map a’ch cliwiau o dderbynfa’r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Llywiwch eich ffordd o amgylch y campws yn profi eich gwybodaeth am Fenywod mewn Gwyddoniaeth wrth i chi fynd. Cyflwynwch eich atebion ar-lein i gael y lleoliad terfynol a chwblhau tasg derfynol!
Cymerwch hunlun yn eich cyrchfan a chrewch eich datganiad ysbrydoledig eich hun am gyfle i ennill!
Ar agor i staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn unig
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Casey Hopkins
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University